Gwarchod Ein Moroedd
Ers dros ddegawd, mae'r Ymddiriedolaethau Natur wedi ymgyrchu gyda sefydliadau amgylcheddol eraill yn y DU am gyfreithiau newydd i ddarparu gwell amddiffyniad i gynefinoedd morol a bywyd gwyllt. O ganlyniad, cyflwynwyd Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir (Deddf Forol) sy’n torri tir newydd ym mis Tachwedd 2009, gan roi’r offer sydd eu hangen ar Lywodraeth y DU i chwyldroi rheolaeth ein hamgylchedd morol. Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn galw am weithredu Deddf y Môr yn effeithiol yng Nghymru, a manteisio ar y cyfleoedd a ddarperir gan y Ddeddf i sicrhau manteision gwirioneddol i fioamrywiaeth o amgylch arfordir Cymru.