Amddiffyn Natur

Yellowhammer dead at the side of the road

Yellowhammer dead at the side of the road © Shutterstock

#AmddiffynNatur: Rydyn ni eich angen chi

Dim Natur. Dim Dyfodol.

Mae natur dan ymosodiad gan gynlluniau Llywodraeth y DU i chwalu miloedd o gyfreithiau sy’n gwarchod ein hamgylchedd.

Mae Bil newydd, a elwir yn swyddogol cyfraith yr UE a ddargedwir (neu'r bil REUL), yn bygwth dileu miloedd o gyfreithiau hanfodol sy’n amddiffyn bywyd gwyllt erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd hyn yn arwain at hyd yn oed mwy o lygredd yn gwenwyno afonydd, mwy o leoedd gwyllt mewn perygl o gael eu difrodi – ac o bosibl eu dinistrio – a mwy o fywyd gwyllt dan fygythiad o ddiflannu.

Mae hwn yn ymosodiad ar natur. Rydym yn annog y Llywodraeth i gael gwared â'r Bil – cyn ei bod hi’n rhy hwyr.

Gyda bywyd gwyllt bellach yn dirywio'n gyflymach nag ar unrhyw adeg yn ein hanes, mae angen i ni weithredu gyda'n gilydd NAWR i #AmddiffynNatur.

Sut allwch chi helpu

      

No nature, no future postcard
CAM UN

Anfonwch gerdyn post at eich AS

Rhowch wybod i'ch AS pam fod eich ardaloedd naturiol lleol yn bwysig i chi a pham eu bod yn haeddu cael eu gwarchod

Anfonwch eich cerdyn post

 

 

A poster at a climate march reads: "I want you to act as you would in a crisis. Act like our house is on fire because it is!"
CAM DAU

Anfonwch Tweet at eich AS lleol

Os ydych chi ar Twitter, defnyddiwch ein ffurflen syml i anfon Tweet at eich AS.

Cymerwch y camau

   

A person writing a letter
CAM TRI

Ysgrifennwch at eich AS

  1. Llawrlwythwch ein llythyr templed yma
  2. Golygwch neu ychwanegu at y testun i adlewyrchu eich pryderon eich hun
  3. Dewch o hyd i'ch AS yma
  4. Anfonwch eich llythyr drwy'r post neu e-bost at eich AS
Arweiniad pellach yma

Pam mae'r Ymddiriedolaethau Natur ac elusennau amgylcheddol eraill mor bryderus?

Rydyn ni’n credu bod Llywodraeth y DU wedi lansio ymosodiad llawn ar fyd natur – gan adael bywyd gwyllt heb ei amddiffyn drwy rwygo rhai o’r cyfreithiau mwyaf sylfaenol sydd gennym ni.

Mae deddfau cynllunio a ‘pharthau buddsoddi’ newydd a gyhoeddwyd ddydd Gwener 23 Medi yn awgrymu y byddai’n ‘rhydd i bawb’ ddinistrio fyd natur. Fe fydden nhw’n gwanhau’r cyfreithiau oedd yn bodoli gynt i’w hamddiffyn rhag y jac-codi-baw a choncrit. Gallai Mesur Cyfreithiau Ewropeaidd Cadwedig newydd hefyd olygu diwedd amddiffyniadau sylfaenol, gan arwain at golli safleoedd bywyd gwyllt dynodedig a llacio cyfreithiau llygredd, gan arwain at fwy o garthffosiaeth yn ein hafonydd a’n nentydd.

Ar ben hynny, mae Llywodraeth y DU hefyd yn adolygu’r system newydd sydd wedi’i datblygu i wobrwyo ffermwyr sy’n helpu i adfer yr amgylchedd. Mae adroddiadau’n awgrymu yn lle hynny y gallent ddychwelyd yn ôl i’r hen drefn o dalu ffermwyr yn dibynnu ar faint o dir y maent yn berchen arno (gyda thirfeddianwyr mwy yn derbyn mwy o gymhorthdal). Dyma dro bedol llwyr ar y diwygio amaethyddiaeth yr addawodd y Blaid Geidwadol ei gyflawni yn eu maniffesto etholiadol yn 2019.

Gallwch ddarllen mwy am y materion hyn yn ein blogiau a rennir isod.