Dod ag afancod yn ôl i Gymru

beaver wildlife trust

David Parkyn

Dod ag afancod yn ôl i Gymru

Edrychwch ar Brosiect Afancod Cymru yma

Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ymarferoldeb dod ag afancod gwyllt yn ôl i Gymru ers 2005

Mae'r afanc Ewrasiaidd (Castor fiber) yn gnofil mawr, lled-ddyfrol gyda ffwr brown tywyll neu ddu, cynffon siâp rhwyf a dannedd blaen oren nodweddiadol. Mae’n byw mewn cynefinoedd dŵr croyw fel afonydd, llynnoedd neu byllau ac yn bwydo ar amrywiaeth eang o lystyfiant, gan gynnwys rhisgl coed helyg a bedw. Ar un adeg roedd afancod yn gyffredin ledled Cymru, ond oherwydd gor-hela gan bobl am eu ffwr, eu cig a’u chwarennau arogl, wynebu difodiant oedd eu hanes ar ôl yr Oesoedd Canol yng Nghymru ac erbyn diwedd yr 16eg ganrif roeddent wedi diflannu o weddill Prydain.

Am y newyddion diweddaraf, a gwybodaeth lawn am afancod yng Nghymru, gan gynnwys adnoddau dysgu ‘Afancod yng Nghymru’ AM DDIM ar gyfer ysgolion cynradd, pecynnau adnoddau gwyddoniaeth y dinesydd AM DDIM, a chanlyniadau arolwg cyhoeddus a gynhaliwyd gan Brifysgol Caerwysg:

Ewch i Brosiect Afancod Cymru yma

Cysylltwch â beaver.afanc@northwaleswildlifetrust.org.uk neu ffoniwch 01248 351541

I ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer perchnogion tir, ewch i beavermanagement.org

Mae Prosiect Afancod Cymru’n cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran pob un o'r pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru.