30 erbyn 30

hedgehog 30 by 30

Mae ein byd naturiol mewn trafferth

Nid yw hyn yn gyfrinach. Mae bywyd gwyllt yn diflannu ar raddfa frawychus - mae rhai yn ei alw'n ddifodiant mawr nesaf - ac mae bygythiad newid hinsawdd yn bryderus cyson. Rydym yn byw mewn cyfnod o argyfwng.

Mae gobaith o hyd - gallwn fynd i'r afael â'r ddau fater hollbwysig hyn - ond mae'n rhaid i ni weithredu nawr. Mae amser yn rhedeg allan.

Beth sydd angen digwydd?

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn galw am o leiaf 30% o’n tir a’n môr gael eu cysylltu â’u hamddiffyn i adfer natur erbyn 2030. Drwy greu mwy o le i natur ffynnu unwaith eto, gallwn roi cyfle i fywyd gwyllt a lleoedd gwyllt prydferth adfer - lleoedd sy'n atafaelu carbon ac yn helpu i atal yr argyfwng hinsawdd.

30% yw’r lleiafswm prin sydd ei angen ar natur i ddechrau adfer ond rydyn ni yn llawer llai o hyn ac angen eich help chi i drawsnewid pethau...

Rhaid i’r deng mlynedd nesaf fod yn gyfnod o adnewyddiad, o ail-wylltio ein bywydau, o adferiad gwyrdd. Mae angen natur ar bob un ohonom yn fwy nag erioed a phan fyddwn yn llwyddo i gyrraedd 30 erbyn 30 bydd gennym dirweddau mwy gwyllt sy’n atafaelu carbon ac yn darparu natur i bobl hefyd. Gall pawb ein cefnogi a’n helpu i lwyddo.
Craig Bennett
Prif Weithredwr Yr Ymddiriedolaethau Natur

Gallwn wneud hyn gyda'n gilydd

Drwy ymuno â ni i helpu adfer natur, byddwch yn gwneud  gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd gwyllt a’n byd naturiol. Bydd pob punt a roddir yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol mwy gwyllt. Gyda’n gilydd gallwn adfer mawnogydd enfawr, sy’n atafaelu carbon a dod yn gartref i adar sydd dan fygythiad fel y gylfinir. Byddwn yn creu gwlyptiroedd newydd, sy’n lleihau perygl gorlifo mewn trefi a 
phentrefi ac hefyd yn bendigedig i weision neidr a llygoden bengron y dŵr. Byddwn yn plannu dolydd morwellt tanddwr newydd i amsugno carbon a chysgodi morfeirch a bywyd y môr eraill.

Mae natur wedi rhoi cymaint, ein tro ni bellach yw rhoi yn ôl.

Gall eich cefnogaeth mynd yn bell

Mae gan yr Ymddiriedolaethau Natur gynlluniau mawr i adfer natur. Dyma gip olwg ar rai o'n cynlluniau, y gobeithiwn eu gwireddu gyda'ch cefnogaeth chi...

Ail-wylltio Dyffryn Soar

Mae Ymddiriedolaeth Natur Leicestershire a Rutland am barhau â'u gwaith yn Nyffryn Soar, gan adfer y dirwedd naturiol fel ei fod yn atal llifogydd ac yn cynyddu lle i fywyd gwyllt.

Darganfyddwch mwy
House sparrow

©Fergus Gill/2020VISION

Natur yn agos at adref

Mae Ymddiriedolaeth Natur Warwickshire eisiau creu mwy o lefydd gwyllt yn agos at ble mae pobl yn byw - gan gynyddu lles a gwneud lle i natur.

Darganfyddwch mwy
Flying Bittern (c) Tim Stenton

Tim Stenton

Dyffryn Trent naturiol

Mae Ymddiriedolaeth Natur Derbyshire yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol i greu gwlypdiroedd enfawr, wedi’u cysylltu efo afonydd a chamlesi, a fydd yn caniatáu i fywyd gwyllt symud yn rhydd ar draws Dyffryn Trent.

Darganfyddwch mwy

Adfer mawnogydd i gloi carbon a helpu bywyd gwyllt

Mae fferm garbon arloesol Ymddiriedolaeth Natur Lancashire yn Winmarleigh yw’r gyntaf o’i fath yn y DU.

Darganfyddwch mwy

Copa Gwyllt

Mae Ymddiriedolaeth Natur Derbyshire yn gweithio i adfer prosesau naturiol ac ecosystemau iach ar raddfa na welwyd ei thebyg o’r blaen. Nod Copa Gwyllt yw dod â mwy o fywyd gwyllt yn ôl a chreu tirwedd amrywiol sy'n well i natur.

Darganfyddwch mwy
heather

Katrina Martin / 2020VISION

Rhoddir blaenoriaeth i dir sydd â gwerth isel o ran bywyd gwyllt

Mae Ymddiriedolaeth Natur Warwickshire yn newid y ffordd eu bod nhw'n cael gwarchodfeydd. Bydd yn rhoi'r flaenoriaeth uchaf i gaffael tir sydd â gwerth isel o ran bywyd gwyllt oherwydd bod y potensial mwyaf ar gyfer budd bioamrywiaeth mewn safleoedd o'r fath.

Darganfyddwch mwy
Cirl buntings

Cirl buntings by Steve Waterhouse

Ynys Wyth Mwy Gwyllt

Mae Ymddiriedolaeth Natur Hampshire ac Ynys Wyth yn gweithio i ddod â rhywogaethau coll fel afancod a brain coesgoch yn ôl.

Darganfyddwch mwy

Glaswelltir calch prin

Yn ystod y pum mlynedd nesaf bydd Ymddiriedolaeth Natur Surrey yn helpu natur i adfer yn rhai o’r ardaloedd sydd mewn perygl fwyaf ar draws y sir, gan gynnwys y North Downs, bryniau sialc godidog sy’n rhedeg o Surrey i'r White Cliff of Dover.

Darganfyddwch mwy

Corsydd i gael eu hachub

Nod Ymddiriedolaeth Natur Lincolshire yw adfer 50 hectar o gorsydd-mawn yn Bourne North Fen i ddod yn gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt, gan gysylltu gwarchodfeydd natur bwysig.

Darganfyddwch mwy
Nottinghamshire Wildlife Trust's Rainworth Heath Nature Reserve

Nottinghamshire Wildlife Trust's Rainworth Heath Nature Reserve © Electric Egg

Newid y Dyfodol o Goedwig Sherwood

Mae Ymddiriedolaeth Natur Nottinghamshire yn gweithio gyda phartneriaid i wella, adfer, ail-greu ac ailgysylltu cynefinoedd bywyd gwyllt ar draws Coedwig Sherwood ac i weithio gyda chymunedau lleol i drawsnewid y dirwedd chwedlonol hon ar gyfer bywyd gwyllt a phobl.

Darganfyddwch mwy
Barn owl flying near houses, The Wildlife Trusts

© Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Achub Tylluan Wen

Amcangyfrifir mai ychydig na 30 pâr magu o dylluanod gwynion sydd ar ôl yng Ngogledd Iwerddon. Mae Ulster Wildlife yn achub tylluanod gwynion trwy osod blychau nythu wedi’u targedu, mapio poblogaethau, monitro a modrwyo cywion, a chynghori tirfeddianwyr ar reoli tir a diogelu safleoedd ar gyfer tylluanod gwynion.

Darganfyddwch mwy

Brecks Mwy a Gwell

Ers ei dyddiau cynharaf, mae Ymddiriedolaeth Natur Norfolk wedi bod yn diogelu’r Brecks a’i bywyd gwyllt. Heddiw mae ganddyn nhw gyfle rhyfeddol i ehangu Comin Thompson drwy ei ailgysylltu â thir âr a choetir cyfagos.

Darganfyddwch mwy