Adolygiad Ffyrdd: Penderfyniad ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

Adolygiad Ffyrdd: Penderfyniad ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol

Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gael gwared ar gynlluniau ffyrdd allweddol o blaid natur a hinsawdd, penderfyniad pwysig i genedlaethau’r dyfodol sydd wedi’i ganmol gan Ymddiriedolaethau Natur Cymru

Heddiw (14/02/2023) mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r Adolygiad Ffyrdd a sefydlwyd ym mis Mehefin 2021 gan Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd. O’r 55 o gynlluniau ffyrdd a aseswyd, mae nifer fawr bellach wedi’u dileu gan gynnwys y ‘Red Route’ yn Sir y Fflint a fyddai wedi dinistrio coetir hynafol.

Roedd yr Adolygiad yn cynnwys panel annibynnol o arbenigwyr i adolygu cynlluniau ffyrdd sy’n cael eu datblygu ledled Cymru. Archwiliwyd y cynlluniau hyn i weld a oeddent yn cyd-fynd â pholisi Llywodraeth Cymru ac, yn benodol, a allent gynorthwyo i fynd i’r afael â’r argyfyngau hinsawdd a natur.

Dywedodd Tim Birch, Uwch Reolwr Polisi ac Eiriolaeth yn Ymddiriedolaethau Natur Cymru:

“Mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw busnes fel arfer yn opsiwn o ran adeiladu ffyrdd ledled Cymru – mae rhaid i ni fynd i’r afael ar yr  argyfyngau hinsawdd a natur. Mae mynd i’r afael â’r allyriadau o’r sector trafnidiaeth, sydd ar hyn o bryd yn cyfrif am dros 15% o gyfanswm allyriadau carbon Cymru, yn hollbwysig yn y frwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Mae adeiladu mwy o ffyrdd ar gyfer mwy o geir nid yn unig yn niweidio'r hinsawdd ond hefyd yn dinistrio cynefinoedd hanfodol i fywyd gwyllt. Dyna pam mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod amodau llym ar unrhyw ffyrdd newydd yn gam pwysig iawn."

“Mae’r amodau hyn yn cynnwys yr angen i sicrhau na fydd unrhyw adeiladu ffyrdd yn y dyfodol yn arwain at gynnydd yn y carbon a ryddheir o gerbydau. Ond yn hollbwysig, mae’n ceisio sicrhau nad yw unrhyw ffyrdd yn y dyfodol yn dinistrio safleoedd ecolegol gwerthfawr. Y gobaith yw y bydd y cam hwn yn dod â chynlluniau ffyrdd niweidiol i ben.”

Dywedodd Adrian Lloyd Jones, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:

“Rydym yn falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi argymhelliad y Panel Adolygu Ffyrdd i ddileu’r ‘Red Route’ yn Sir y Fflint yng Ngogledd Cymru. Byddai’r briffordd newydd 13km arfaethedig wedi torri drwy gefn gwlad, gan achosi niwed anadferadwy i goetir hynafol, gwrychoedd, dolydd blodau gwyllt a chynefinoedd eraill, yn ogystal â’r rhywogaethau y maent yn eu cynnal. Gobeithiwn y bydd hyn yn dod â’r dyfalu am y cynllun hwn i ben ac y bydd pawb, beth bynnag fo’u barn ar hen syniad y 'Red Route', yn cefnogi’r dewisiadau arall. Rydym yn ddiolchgar iawn i grŵp gweithredu lleol 'Stamp Out The Red Route' a phawb a ymunodd â’n hymgyrch.”

Dywedodd Rachel Sharp, Prifweithredwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru:

“Ers blynyddoedd, mae’r Ymddiriedolaethau Natur wedi gorfod gwario ein hadnoddau cyfyngedig fel elusen wrth frwydro yn erbyn cynlluniau ffyrdd niweidiol. O’r diwedd, mae gennym bellach bolisi blaengar; Dylid llongyfarch Llywodraeth Cymru am ddangos arweiniad dewr, sef yr union beth sydd ei angen os ydym am weld y newidiadau sylweddol sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r argyfyngau natur a hinsawdd.”

Ychwanegodd Alex Griffiths, Swyddog Ymgysylltu Gwyllt ar gyfer Sefyll Dros Natur Caerdydd:

“Bydd y penderfyniad heddiw gan Lywodraeth Cymru cyfyngu ar gynlluniau ffyrdd yn y dyfodol o fudd aruthrol i genedlaethau’r dyfodol, ac fel person ifanc sy’n ymroddedig i weld adferiad natur yn cael ei gefnogi gan y llywodraeth, mae’r polisi hwn yn mynd ymhell i sicrhau dyfodol i’n bywyd gwyllt.”

Yellowhammer dead at the side of the road

Yellowhammer dead at the side of the road © Shutterstock

Sefyll dros fywyd gwyllt

#AmddiffynNatur heddiw!