Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i 30 erbyn 30!

Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i 30 erbyn 30!

© Ben Hall/2020VISION

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i amddiffyn 30% o dir a môr erbyn 2030.

Ddoe, cyhoeddodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, fod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gefnogi’r targed 30 erbyn 30. Mae hynny'n golygu y caiff 30% o'r tir a'r môr ei amddiffyn erbyn 2030.

Gyda rhan gyntaf Cynhadledd Fioamrywiaeth y Cenhedloedd Unedig (COP15) ar y gweill a Chynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (COP26) yn dechrau mewn ychydig, rydym yn croesawu'r newyddion hyn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cwrdd â’r alwad i adfer natur i gyd erbyn 2030. Rhaid inni osgoi’r temtasiwn o ddynodi ardaloedd fel Parciau Cenedlaethol, oherwydd yn anffodus nid yw'r mwyafrif yn cael eu rheoli'n ar gyfer natur mewn gwirionedd.

Mae bywyd gwyllt yn diflannu ar raddfa frawychus - mae rhai yn galw hyn y difodiant torfol nesaf. Rydym wedi colli dros 60% o’r holl fioamrywiaeth ar y blaned ers 1970, sef fewn un genhedlaeth. Heddiw mae 1 o bob 7 rhywogaeth yn y DU mewn perygl o ddiflannu ac mae bywyd gwyllt oedd unwaith yn gyffredin bellach yn dod yn brin.

"Rydyn ni mewn argyfwng natur gyda rhywogaethau'n dal i ddiflannu. Mae'n hawdd dynodi safleoedd fel Parciau Cenedlaethol, ond nid yw'r ardaloedd hyn yn warchodfeydd natur. Dylai Llywodraeth Cymru arwain y ffordd trwy geisio adfer natur erbyn 2030."

Rachel Sharp, Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaethau Natur Cymru
Red-tailed bumblebee

Red-tailed bumblebee ©Jon Hawkins - Surrey Hills Photography

Ymgyrchoedd

30 erbyn 30

Darganfyddwch fwy

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw am gysylltu ac amddiffyn o leiaf 30% o'n tir a'n môr ar gyfer adferiad natur erbyn 2030. Fe fydd gwneud mwy o le i natur ddod yn doreithiog unwaith eto yn rhoi cyfle fywyd gwyllt sydd o dan fygythiad ddod yn ôl. Fe fydd hyn hefyd yn adfer llefydd sy’n hardd ac yn wyllt - llefydd sy'n storio carbon ac yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

30% yw'r lleiafswm y mae natur ei angen i ddechrau gwella ond rydym ond rydym yn bell o gyrraedd y targed yma ac mae arnom angen eich help i droi pethau wrthdroi colledion y gorffennol.

"Rhaid i'r deng mlynedd nesaf fod yn gyfnod o adnewyddiad, o ailwylltio ein bywydau, o adferiad gwyrdd. Rydym ni i gyd angen natur yn fwy nag erioed a phan fyddwn yn llwyddo i gyrraedd 30 erbyn 30 bydd gennym dirweddau anial fydd yn storio carbon ac yn darparu natur ar y stepen drws i bobl hefyd. Gall pawb ein cefnogi a'n helpu i lwyddo."
Craig Bennett Prif Weithredwr, Yr Ymddiriedolaethau Natur
A photo of 15 people all wearing black tshirts with Stand for Nature Wales branding doing silly poses in a bird observatory

The Stand for Nature Wales team whilst on a team visit to Cors Dyfi Nature Reserve. Photo by Silvia Cojocaru

Sefyll dros Natur Cymru

Gweithredwch dros fyd natur yn eich ardal leol!

Os ydych chi'n 9-24 oed, ymunwch â'ch fforwm ieuenctid lleol Sefyll dros Natur Cymru a chymryd camau yn yr hinsawdd!

Allwch dibynu arnai!
View over upland landscape of Pumlumon Living Landscape project, Cambrian mountains, Wales. -

Peter Cairns/2020VISION

Sut all natur datrys newid yr hinsawdd

Darganfyddwch fwy