Gweithredu dros Bryfed

false

Ross Hoddinott/2020VISION

Gweithredu dros Bryfed

Mae ein pryfed yn wynebu anawsterau

Yn y DU, mae ein poblogaethau o bryfed wedi dioddef dirywiad aruthrol, a fydd yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol i fywyd gwyllt a phobl.

Gyda thraean o'n cnydau bwyd yn cael eu peillio gan bryfed, a chymaint ag 87% o'n planhigion yn cael eu peillio gan anifeiliaid (ac fel mwyafrif gan bryfed), mae llawer i'w golli. Mae llawer o'n bywyd gwyllt, yn adar, ystlumod, ymlusgiaid, amffibiaid, mamaliaid bach neu bysgod, yn dibynnu ar bryfed am fwyd. Hebddynt, mae perygl i’r byd naturiol ddymchwel.

Casglodd adroddiad Insect Declines and Why They Matter a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019 â thystiolaeth at ei gilydd oedd yn dangos colli 50% neu fwy o'n pryfed ers 1970, a'r realiti dychrynllyd bod 41% o'r pum miliwn o rywogaethau o bryfed sy'n weddill ar y Ddaear bellach 'dan fygythiad o ddifodiant'.

Darllen yr adroddiadau

 

Insect Declines and Why They Matter 

Gwyrdrio'r Dirywiad mew Pryfed

Gardening with wildlife, snail on gardening gloves with pot plants behind

Tom Marshall

Ymgyrch

Addewid Dim Plaladdwyr Heddiw!

Mae’r llysgenhadon ifanc ar ein prosiect Sefyll dros Natur yn addo mynd yn rhydd o blaladdwyr ochr yn ochr â phobl a chymunedau ledled Cymru. A wnewch chi ymuno â nhw?

Darganfyddwch mwy

Gofalu am bryfed yn eich ardal chi

Mae gennym y canllawiau perffaith i'ch helpu i weithredu gartref, yn eich gardd ac yn eich cymuned.

Lawrlwytho eich canllaw

Gofalu am bryfed yn eich ysgol

Bydd ein canllaw ysgol yn helpu eich myfyrwyr i ddysgu am bryfed a sut i helpu eu hamgylchedd lleol.

Lawrlwytho eich canllaw