Gwlad Ein Dyfodol

Wildlflower meadow on farm

Natures recovery and farming can go hand in hand - Photo Credit James Adler

Gwlad Ein Dyfodol

Mae amser yn rhedeg allan i natur yng Nghymru, ond gallwch chi helpu

Gweithred fach ond pwysig

Natur yw ein system cynnal bywyd. Mae’n amddiffyn ein hiechyd, yn gofalu am ein lles, ac yn hanfodol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd – a fydd yn niweidio ein tir, ein hafonydd a’n moroedd ymhellach. Heb natur, ni fyddai gennym ein treftadaeth amaethyddol Gymreig gref. Heb natur, rydym mewn perygl o golli’r rôl hanfodol y mae amaethyddiaeth yn ei chwarae wrth gynnal ein heconomi a’n cymunedau gwledig. Heb natur, ni allwn sicrhau iechyd a lles ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Heb gamau i gryfhau Bil Amaeth (Cymru) newydd, mae 1 o bob 6 rhywogaeth Gymreig yn parhau i fod mewn perygl oherwydd y ffordd rydym yn rheoli ein tir amaethyddol . Mae hyn yn cynnwys rhywogaethau eiconig fel y gylfinir, eog, draenogod ac ystlumod, i gyd yn cael eu hyrwyddo gan ein Haelodau Senedd.

Lapwing flock

©David Tipling/2020VISION

Dyna pam yr ydym yn cefnogi deiseb gyda’n partneriaid, WWF, yn galw ar y Senedd i gynnwys y geiriau ADFER NATUR ar wyneb y Bil. Bydd y newid syml hwn yn cael effaith fawr ar ddyfodol natur, a dim ond un cam hawdd y mae’n ei gymryd i chi ymuno â ni i helpu i gyflawni hyn!

Arwyddwch y ddeiseb hon a dangoswch i'r Senedd fod pobl ledled Cymru yn mynnu Bil Amaeth cryf sy’n ymrwymo i adfer natur.

Curlew in the Peak District

Curlew in the Peak District © Ben Hall/2020VISION

Gofynnwch y Senedd i adfer natur heddiw

Llofnodwch yr E-Gweithred yma

Rydym yn eich angen chi

Nid oes llawer o amser ar ôl i sicrhau y bydd y Bil Amaeth (Cymru) newydd yn galluogi adfer natur yng Nghymru. Er gwaethaf misoedd o drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru, mae’r Bil ar hyn o bryd yn anwybyddu pwysigrwydd adfer natur. Bydd y Senedd yn cytuno ar y Bil hwn cyn bo hir, ac os na chaiff adfer natur ei gynnwys, na fydd o'n addas i'r adferiad o natur.

Gyda thir fferm yn gorchuddio bron i 90% o Gymru, mae gan ffermwyr ran hanfodol i’w chwarae o ran diogelu ac adfer natur, sydd angen ei ymgorffori yn y gyfraith. Er bod rhai ffermwyr wedi dangos gallu gwych i fod yn geidwaid cefn gwlad, y lleiafrif ydynt o hyd. Anogir ffermwyr i ddefnyddio arferion ffermio anghynaliadwy sydd wedi lleihau cynefinoedd naturiol trwy ddefnyddio plaladdwyr, gwrtaith artiffisial, ac yn rhoi ormod o anifeiliaid ar y tir. Mae hyn oll wedi cyfrannu at golli bywyd gwyllt yn ogystal â llygredd llawer o’n hafonydd.

View over agricultural upland landscape, Cambrian mountains, Wales. - Peter Cairns/2020VISION

View over agricultural upland landscape on edge of Pumlumon Living Landscape project, Cambrian mountains, Wales. - Peter Cairns/2020VISION

Am beth rydyn ni'n gofyn?

Er mwyn atal difodiant bywyd gwyllt, mae angen i ni sicrhau newidiadau pwysig i Fil Amaeth (Cymru) gan sicrhau bod natur ar y ffordd i adferiad erbyn 2030. Mae gennym 4 prif ofyniad i gyflawni hyn, a gallwch ddarllen amdanynt isod.

Adfer

Cynnwys ‘adfer natur’ ar dudalen flaen y Bil, i sicrhau bod deddfwriaeth yn y dyfodol yn gweithredu nid yn unig i ddiogelu bywyd gwyllt ond hefyd i ddod ag ef yn ôl i’n tirweddau.

30 erbyn 30

Cyfeiriwch yn benodol at ddiogelu 30% o dir erbyn 2030, ymrwymiad a wnaed gan y byd a Llywodraeth Cymru yn COP15

Mynediad

Gwella ac ymestyn darpariaethau mynediad cyhoeddus

Taliadau

Cynnwys dyddiad i atal yr hen daliadau ffermio yn y Bil Amaeth (Cymru) erbyn 2029, er mwyn sicrhau nad yw hen brosesau’n parhau i’r dyfodol gan niweidio bywyd gwyllt yn hytrach nag adfer bywyd gwyllt.