30 Diwrnod Gwyllt

30 Diwrnod Gwyllt!

Oedwch am ennyd a sylwi ar fyd natur ym mis Mehefin


30 Diwrnod Gwyllt yw her natur fwyaf y DU. Ym mis Mehefin, dewiswch un peth gwyllt y dydd (neu ychydig bob wythnos) - o roi help llaw i fyd natur i sylwi ar bethau gwyllt ar garreg eich drws.


 Mae’r cofrestru ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt 2026 ar gau bellach

 

Ond fe allwch chi gymryd rhan o hyd! Byddem wrth ein bodd pe baech chi'n rhannu eich gweithgareddau gwyllt ar ein grŵp Facebook 30 Diwrnod Gwyllt. Gallwch hefyd edrych ar ffyrdd o helpu bywyd gwyllt drwy gydol y flwyddyn.   

Os ydych chi'n byw yng nghanol dinas brysur neu yng nghefn gwlad, mae posib dod o hyd i fywyd gwyllt ym mhobman os gwnewch chi dreulio eiliad yn chwilio amdano.

O blannu blodau gwyllt ar gyfer gwenyn, i wrando ar gân adar neu adael i gornel o'ch gardd dyfu ychydig yn wylltach, mae ffyrdd diddiwedd i chi dreulio eich mis gwyllt.

 

Mwy am 30 Diwrnod Gwyllt

Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn her am fis, am ddim, sydd wedi'i chynllunio i ysbrydoli pobl o bob oed i gysylltu â byd natur yn ystod mis Mehefin. O wylio adar yn eich gardd i archwilio gwarchodfa natur leol, mae pob gweithred - mawr neu fach, bob dydd neu bob wythnos - yn eich helpu chi i ddod yn nes at natur.

Gallwch gwblhau gweithgaredd y dydd, neu ryw ddau mewn wythnos - beth bynnag fyddwch chi’n ei wneud, byddwch yn cysylltu â bywyd gwyllt, yn teimlo'n well ac yn helpu'r blaned ar yr un pryd.