Dysgu am fywyd gwyllt - 30 Diwrnod Gwyllt

Graphical banner with green pebble elements and black and white illustrations of a man in a hoody reading a book and two hoverflies
30 Diwrnod Gwyllt

Dysgu am fywyd gwyllt

Dydd Llun 16eg – Dydd Sul 22ain Mehefin

Mae miloedd o bobl sy'n cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt wedi dweud wrthym ni faint maen nhw wrth eu bodd yn dysgu pethau newydd am fyd natur, felly defnyddiwch yr wythnos yma i ddarganfod mwy am y bywyd gwyllt anhygoel sy'n rhannu ein gofod ni. Boed yn wenyn yn suo o amgylch eich gardd neu gudyll coch yn hedfan dros gaeau, mae'n amser bod yn chwilfrydig a chysylltu â byd natur gyda'n gilydd.

Rhowch wybod i ni beth rydych chi wedi'i ddysgu'r wythnos yma drwy ein tagio ni ar y cyfryngau cymdeithasol neu drwy anfon e-bost atom ni.

Em-bost: fy ngweithred wyllt

Llai na 10 munud

Ychydig funudau i'w sbario? Darganfyddwch rywbeth newydd drwy ymchwilio i'n blogiau darllen cyflym neu ystyriwch noddi anifail i dderbyn ffeithiau rhyfeddol a theimlo eich bod yn gwneud daioni!

Llai nag awr

Ychydig mwy o amser ar gael? Mae sawl cyngor adnabod defnyddiol ar gael yn ein canllawiau ni ac wedyn ewch allan i weld beth allwch chi ddod o hyd iddo!

Awr neu fwy

Dyheu am wybodaeth? Mae'r gweithgareddau yma’n wych ar gyfer dysgu ac wedyn rhoi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith. Rhowch wybod i ni beth rydych chi'n rhoi cynnig arno!

Digwyddiadau yn eich ardal chi

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ledled y DU ac ar Ynysoedd Alderney a Manaw. O deithiau cerdded natur tywys i weithdai creadigol, archwiliwch y digwyddiadau yn eich ardal chi.

Archwilio beth sy'n digwydd

People's Postcode Lottery Postcode Planet Trust logos

 

Diolch yn fawr iawn i chwaraewyr Loteri Cod Post y Bobl, sydd wedi helpu i wneud #30DiwrnodGwyllt yn bosibl!