Pam fod y COP 26 mor bwysig?

Pam fod y COP 26 mor bwysig?

Gyda COP26 rownd y gornel, mae Rory yn dweud wrthym beth ydyw a pham ei fod yn bwysig.

Mae yna gymaint o newyddion drwg am yr amgylchedd, mae’n anodd bob yn optimistaidd weithiau. Ond yma yna obaith o hyd. Roedd neges adroddiad diweddar y Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd (IPCC) yn glir. Os bydd llywodraethau’n gweithio ar y cyd, mae modd iddyn nhw dorri allyriannau nwyon ty gwydr ac achub y byd.

Does dim angen edrych yn bell i weld tystiolaeth am newid yr hinsawdd. Dros yr haf welson ni danau gwyllt yn nwyrain Canada, llifogydd yn yr Almaen ac wedyn rhagor o danau gwyllt yn Nhwrci, Gwlad Groeg a Siberia, heb sôn am lifogydd a sychder nes adref hefyd yng Ngwledydd Prydain. Fe wnaeth adroddiad yr IPCC gadarnhau’r hyn yr oedd llawer ohonom yn wybod yn barod, fod gweithareddau dynol yn newid ein hinsawdd ni.

Roedden ni’n gwybod am flynyddoedd fod yr hinsawdd yn newid, ond wnaethon ni ychydig iawn i’w atal. Wedyn, fe wnaeth un llais sbarduno mudiad, sef Greta Thunberg.

“"Rydyn ni ar ddechrau difodiant torfol, a'r cyfan y gallwch chi siarad amdano yw arian a straeon y tylwyth teg am dwf economaidd tragwyddol. Sut meiddiwch chi wneud hynny!" - Greta Thunberg

Fel y nododd Greta Thunberg, mae yn argyfwng natur yn ogystal ag argyfwng hinsawdd. Nid yw'r argyfwng natur ar raddfa fyd-eang bob amser mor ddramatig, ond argyfwng go iawn ydy o. Mae adroddiad Sefyllfa Byd Natur yn 2019 yn datgan yn glir bod 73 o rywogaethau, o durturod i fras yr yd, eisoes wedi diflannu yng Nghymru tra bod 666 o rywogaethau eraill mewn perygl o ddioddef yr un dynged.

Ond beth yw COP26?

COP26 yw Uwchgynhadledd Fawr y Cenhedloedd Unedig ar newid hinsawdd yn 2021, a gynhelir yn Glasgow. Bob blwyddyn ers tri degawd, bron, mae’r Cenhedloedd Unedig wedi dod bron pob gwlad yn byd at ei gilydd ar gyfer cynadleddau ar hinsawdd y byd. Yn y cynadleddau hyn mae arweinwyr y byd yn trafod beth y mae rhaid ei wneud i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae’n cael ei alw yn COP-26 oherwydd mai hon yw’r 26ain “Conference of the Parties” a gynhaliwyd ers i’r broses ddechrau yn Uwchgynhadledd y Ddaear yn Rio yn 1992.

Mae’n bosibl mai COP26 fydd yr un pwysicaf, mwyaf brys, a gynhaliwyd hyd yn hyn. A thymheredd y byd yn brysur symud i 1.5 gradd yn uwch na’r lefel cyn-ddiwydiannol, fe fydd y cyfle i weithredu yn dod i ben cyn bo hir.

Beth am fyd natur?

Mae’n bwysig cofio fod natur yn wybebu dyfodol ansicr hefyd. Yn debyg i COP26, fe fydd COP15 y Confensiwn ar Fioamrywiaeth Fiolegol yng ngwanwyn 2022 yn dod ag arweinwyr y byd at ei gilydd i gytuno targedau i atal colli bywyd gwyllt ac i ddechrau adfer poblogaethau a chynefinoedd rhywogaethau erbyn 2030, ynghyd â chamau gweithredu penodol i gyflawni hyn, a monitro i sicrhau ei fod yn digwydd mewn gwirionedd.

Pobl ifainc yn gwneud safiad

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru yn cydnabod nad oes llawer o fygythiadau, os oes yna rai o gwbl, i'n dyfodol na'r argyfwng hinsawdd a natur. Dyna pam mae'r pum Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru wedi dod ynghyd i fynd i'r afael â’r ddau argyfwng. Ond dydyn ni ddim yn gwneud hyn ar ein pennau ein hunain.

Dros y tair blynedd nesaf, fe fydd ein prosiect ieuentid yn erbyn newid yr hinawdd, Sefyll dros Natur Cymru, yn gweithio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i weithredu dros fywyd gwyllt yn eu milltir sgwâr a hynny er mwyn mynd i’r afael â newid yr hinsawdd.

Mae pobl ifanc yng Nghymru’n dod at ei gilydd i fynd i’r afael â newid hinsawdd. A wnewch chi ymuno â nhw?

Gallwch chi derbynnu arnai!

Fe all natur helpu

Yng Nghymru mae gennym gyfleoedd unigryw i ail-wlychu ein hucheldiroedd i ddal dyfroedd llifogydd yn ôl ac ar yr un pryd storio carbon os ydym yn adfer ein mawndiroedd. Gallai coed trefol ddarparu cysgod ac amsugno llifogydd sy’n deillio o law trwm dros gyfnod byr. 

View over upland landscape of Pumlumon Living Landscape project, Cambrian mountains, Wales. -

Peter Cairns/2020VISION

Atebion naturiol i newid yn yr hinsawdd

Dysgwch mwy
A young woman painting a climate change diagram on cardboard, photo is taken from above

Cystadleuaeth gelf

Cyn COP26, rydyn ni am ddangos i'r byd y dyfodol rydyn ni am ei weld i Gymru. Ewch i mewn nawr am eich cyfle i ennill ysbienddrych Opticron!

Mwy o wybodaeth