Amdanom ni

A father looking through binoculars whilst his toddle daughter sits in a bluebell meadow

Tom Marshall

Amdanom ni

Pam ein bod ni yma

Rydyn ni angen natur ac mae natur ein hangen ni. Rydyn ni yma i wneud y byd yn wylltach ac i wneud natur yn rhan o fywyd, i bawb. Rydyn ni’n helpu i wneud bywyd yn well – i fywyd gwyllt, i bobl ac i genedlaethau'r dyfodol.

Pwy ydym ni?

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn un o 46 o Ymddiriedolaethau Natur sy'n gweithio ar draws y DU. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â’r 5 Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru i helpu i sicrhau Cymru sy’n fwy gwyllt ac yn fwy bioamrywiol.

Dod o hyd eich ymddiriedolaeth natur leol

Beth ydyn ni'n ei gredu?

Mae pobl yn rhan o natur; mae popeth rydyn ni'n ei werthfawrogi yn y pen draw yn dod ohono ac mae popeth rydyn ni'n ei wneud yn cael effaith arno.

Mae natur yn werthfawr ynddo'i hun, ac yn sylfaen i'n lles a'n ffyniant; rydym yn dibynnu arno ac mae'n dibynnu arnom ni.

Mae pawb yn haeddu byw mewn byd naturiol iach, llawn bywyd gwyllt.

Dylai pawb gael y cyfle i brofi bywyd gwyllt yn eu bywydau bob dydd.

An ant walks across a piece of grass covered in dew drops with a flower in the background

Jon Hawkins

Ymgyrchoedd

Helpu i ddod â natur yn ôl

Rhoi llais i natur
A female blackbird on a hawthorn tree with berries

Dawn Monrose

DU

Yr Ymddiriedolaethau Natur

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn fudiad ar lawr gwlad o bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd sy'n credu ein bod ni angen natur a bod natur ein hangen ni. Mae gennym ni fwy nag 850,000 o aelodau, 38,000 o wirfoddolwyr, 2,000 o staff a 600 o ymddiriedolwyr.

Mae pob Ymddiriedolaeth Natur yn elusen annibynnol sydd wedi’i ffurfio gan bobl sydd wedi dod at ei gilydd i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywyd gwyllt a chenedlaethau'r dyfodol, gan ddechrau lle maen nhw’n byw.

Cwrdd â'n pobl ni

Beth ydyn ni'n ei wneud?

Ers mwy na chanrif mae’r Ymddiriedolaethau Natur ledled y DU wedi bod yn achub bywyd gwyllt a mannau gwyllt, yn cynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth pobl o’r byd naturiol, ac yn dyfnhau perthynas pobl ag ef.

Rydyn ni'n gweithio ar dir a môr, o gopaon mynyddoedd i waelod y môr, o ddyffrynnoedd a childraethau cudd i strydoedd dinasoedd. Ble bynnag yr ydych chi, nid yw pobl, lleoedd a phrosiectau'r Ymddiriedolaeth Natur byth yn bell i ffwrdd, gan wella bywyd gwyllt a phobl gyda'i gilydd, o fewn cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt.

Rydym yn gofalu am fwy na 2,300 o warchodfeydd natur, yn gorchuddio 98,500 hectar, ac yn gweithredu mwy na 100 o ganolfannau ymwelwyr ac addysg ym mhob rhan o’r DU, ar Alderney ac Ynys Manaw.

Trwy weithio mewn partneriaeth gallwn gael mwy o effaith ar fywyd gwyllt. Ledled y DU rydym yn gweithio'n agos gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion, gyda channoedd o ffermwyr a thirfeddianwyr, pysgotwyr a deifwyr; gyda miloedd o gwmnïau, mawr a bach; gyda grwpiau cymunedol a sefydliadau amgylcheddol eraill; gyda loterïau, ymddiriedolaethau a sefydliadau elusennol; gyda gwleidyddion o bob rhan o'r sbectrwm gwleidyddol; gyda llywodraethau lleol a chenedlaethol; a mwy.

Darganfyddwch mwy

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn chwarae rhan bwysig iawn wrth ddiogelu ein treftadaeth naturiol. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n poeni am fywyd gwyllt i ymuno â nhw.
Sir David Attenborough