Diolch i chi am gofrestru ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt

An illustrated badger and crow

Rydych chi wedi cofrestru ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt!

Woohoo – beth am fod yn wyllt yn ystod mis Mehefin!

Byddwn yn anfon e-bost atoch chi yn fuan i gadarnhau eich cofrestriad llwyddiannus ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt 2025 gyda dolenni i syniadau ar gyfer gweithgareddau fel eich bod yn gallu dechrau cynllunio eich mis gwyllt ar unwaith!

Os ydych chi wedi dewis derbyn pecyn o hadau yn y post, byddant yn cael eu hanfon allan rhwng canol a diwedd mis Mai yn barod ar gyfer 1af Mehefin. Mae hynny'n golygu, os ydych chi wedi cofrestru'n gynnar, y bydd ychydig o oedi efallai cyn i chi eu derbyn - felly peidiwch â phoeni os na fyddant yn cyrraedd ar unwaith!

Gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu 30dayswild@wildlifetrusts.org at eich rhestr o anfonwyr diogel yn eich mewnflwch, oherwydd byddwn yn anfon llawer o ysbrydoliaeth a chefnogaeth atoch chi ar e-bost wrth i ni symud drwy 30 Diwrnod Gwyllt. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â chi ar eich siwrnai wyllt.

#download

Eisiau dechrau cynllunio eich mis gwyllt ar unwaith?

Dyma rai syniadau y byddwch chi eisiau eu hystyried efallai fel rhan o’ch her 30 Diwrnod Gwyllt, ond mae angen paratoi rhywfaint ar gyfer rhai ohonyn nhw – felly ewch ati i edrych arnyn nhw ar unwaith.

30 Diwrnod Gwyllt siart wal - mwen lliw

30 Diwrnod Gwyllt siart wal - graddlwyd

Sut i sefydlu gardd bywyd gwyllt

Sut i adeiladu pwll

Sut i greu gardd fertigol

Sut i helpu bywyd gwyllt yn y gwaith

Archebu digwyddiad

Codi arian i'r Ymddiriedolaethau Natur

Seedball Lawn Flower grab bag laid on some grass with the seedballs scattered behind

Cynnig anhygoel!

Mae ein ffrindiau ni yn Seedball eisiau helpu i sicrhau bod eich hoffter chi o’r gwyllt yn arwain at dyfu yn ystod mis Mehefin, gyda gostyngiad o 50% ar gynhyrchion Seedball pan fyddwch chi'n defnyddio'r cod WILD50 wrth y ddesg dalu!

Nod Seedball yw helpu i gynyddu'r cyfoeth o flodau gwyllt Prydeinig a’r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnyn nhw. Fe allwch chi droi eich gardd, balconi neu focs ffenest yn warchodfa bywyd gwyllt fechan gyda'u hamrywiaeth o beli hadau cynaliadwy a hawdd eu tyfu. Does dim angen gwasgaru’r hedyn, na’i blannu hyd yn oed! Dim ond ei roi ar ben pridd, dyfrio a’i wylio yn tyfu.

*Dydi’r cynnig yma ddim yn cynnwys eitemau personol, talebau anrheg, eitemau sydd eisoes ar werth na’r holl eitemau ar eu tudalen siop gyfanwerthu. Mae’r cynnig yn dod i ben ar 30ain Mehefin 2025.

Siopa nawr

Other things to do

Helpu bywyd gwyllt gartref

container pond

Anna Williams

Mae gennym ni lawer o adnoddau i'ch helpu chi i helpu bywyd gwyllt gartref - o wneud eich compost eich hun i blannu blodau gwyllt ar gyfer gwenyn.

Helpu bywyd gwyllt gartref

Codi Arian i'r Ymddiriedolaethau Natur

 Hogan Lovells colleagues abseiling down their London office building, raising money to support The Wildlife Trusts!

Os hoffech chi godi arian ar gyfer eich Ymddiriedolaeth Natur fel rhan o 30 Diwrnod Gwyllt, mae awgrymiadau defnyddiol ar gael yn ein canllaw ni.

Canllaw i godi arian

Archwilio eich gwarchodfa natur leol

River Torridge at Halsdon reserve

River Torridge, Devon ©Kevin New

Mae gwarchodfeydd natur yn llefydd gwych i brofi bywyd gwyllt ac i dawelu eich enaid - o deithiau cerdded yn y coetir i ddilyn olion traed anifeiliaid neu wylio adar rhydio.

Dod o hyd i'ch gwarchodfa agosaf

Helpu newid hinsawdd yn y cartref

Achub y blaned yn ystod 30 Diwrnod Gwyllt eleni gyda’n wyth cam hawdd tuag at fynd i’r afael â newid hinsawdd o’ch cartref eich hun.

Pethau y gallwch chi eu gwneud am newid hinsawdd