Woohoo – beth am fod yn wyllt yn ystod mis Mehefin!
Byddwn yn anfon e-bost atoch chi yn fuan i gadarnhau eich cofrestriad llwyddiannus ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt 2025 gyda dolenni i syniadau ar gyfer gweithgareddau fel eich bod yn gallu dechrau cynllunio eich mis gwyllt ar unwaith!
Os ydych chi wedi dewis derbyn pecyn o hadau yn y post, byddant yn cael eu hanfon allan rhwng canol a diwedd mis Mai yn barod ar gyfer 1af Mehefin. Mae hynny'n golygu, os ydych chi wedi cofrestru'n gynnar, y bydd ychydig o oedi efallai cyn i chi eu derbyn - felly peidiwch â phoeni os na fyddant yn cyrraedd ar unwaith!
Gwnewch yn siŵr eich bod yn ychwanegu 30dayswild@wildlifetrusts.org at eich rhestr o anfonwyr diogel yn eich mewnflwch, oherwydd byddwn yn anfon llawer o ysbrydoliaeth a chefnogaeth atoch chi ar e-bost wrth i ni symud drwy 30 Diwrnod Gwyllt. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ymuno â chi ar eich siwrnai wyllt.
Eisiau dechrau cynllunio eich mis gwyllt ar unwaith?
Dyma rai syniadau y byddwch chi eisiau eu hystyried efallai fel rhan o’ch her 30 Diwrnod Gwyllt, ond mae angen paratoi rhywfaint ar gyfer rhai ohonyn nhw – felly ewch ati i edrych arnyn nhw ar unwaith.
30 Diwrnod Gwyllt siart wal - mwen lliw
30 Diwrnod Gwyllt siart wal - graddlwyd
Sut i sefydlu gardd bywyd gwyllt

Cynnig anhygoel!
Mae ein ffrindiau ni yn Seedball eisiau helpu i sicrhau bod eich hoffter chi o’r gwyllt yn arwain at dyfu yn ystod mis Mehefin, gyda gostyngiad o 50% ar gynhyrchion Seedball pan fyddwch chi'n defnyddio'r cod WILD50 wrth y ddesg dalu!
Nod Seedball yw helpu i gynyddu'r cyfoeth o flodau gwyllt Prydeinig a’r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnyn nhw. Fe allwch chi droi eich gardd, balconi neu focs ffenest yn warchodfa bywyd gwyllt fechan gyda'u hamrywiaeth o beli hadau cynaliadwy a hawdd eu tyfu. Does dim angen gwasgaru’r hedyn, na’i blannu hyd yn oed! Dim ond ei roi ar ben pridd, dyfrio a’i wylio yn tyfu.
*Dydi’r cynnig yma ddim yn cynnwys eitemau personol, talebau anrheg, eitemau sydd eisoes ar werth na’r holl eitemau ar eu tudalen siop gyfanwerthu. Mae’r cynnig yn dod i ben ar 30ain Mehefin 2025.
Other things to do
Helpu bywyd gwyllt gartref
Anna Williams
Mae gennym ni lawer o adnoddau i'ch helpu chi i helpu bywyd gwyllt gartref - o wneud eich compost eich hun i blannu blodau gwyllt ar gyfer gwenyn.
Codi Arian i'r Ymddiriedolaethau Natur
Os hoffech chi godi arian ar gyfer eich Ymddiriedolaeth Natur fel rhan o 30 Diwrnod Gwyllt, mae awgrymiadau defnyddiol ar gael yn ein canllaw ni.
Archwilio eich gwarchodfa natur leol
River Torridge, Devon ©Kevin New
Mae gwarchodfeydd natur yn llefydd gwych i brofi bywyd gwyllt ac i dawelu eich enaid - o deithiau cerdded yn y coetir i ddilyn olion traed anifeiliaid neu wylio adar rhydio.
Helpu newid hinsawdd yn y cartref

Photo by Robert Wiedemann on Unsplash
Achub y blaned yn ystod 30 Diwrnod Gwyllt eleni gyda’n wyth cam hawdd tuag at fynd i’r afael â newid hinsawdd o’ch cartref eich hun.