COP15

COP27: nature and climate on the international stage

Yr Ymddiriedolaethau Natur a COP15

Beth yw COP15?

Mae COP yn sefyll am 'Conference of the Parties' a dyma gynadleddau'r Cenhedloedd Unedig ar ei wahanol gonfensiynau. Yn 2022, mae COPs yn digwydd ar yr hinsawdd (COP27) a natur (COP15). COP15 yw lle mae arweinwyr y byd yn dod ynghyd i  adolygu gweithrediad y Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (neu CBD). Cytundeb byd-eang ar gadwraeth natur yw CBD. Trwy hyn, mae 196 o bleidiau yn anelu at gytuno ar 20 targed byd-eang a fydd yn atal colli bioamrywiaeth.

Gaeth COP15 ei gynnal rhwng dydd Mercher 7fed Rhagfyr a dydd Llun 19eg Rhagfyr 2022 gan Tsieina ym Montreal, Canada.

Beth mae'r Ymddiriedolaethau Natur eisiau ei weld o COP15?

Mae pobl ifanc ledled Cymru yn siarad am COP15

Mae cyfranogwyr y prosiect Sefyll Dros Natur Cymru gyfan wedi cydnabod pwysigrwydd COP15, a’r angen i sicrhau bod natur yn cael ei chynrychioli ym Montreal gan lais ifanc hefyd. Maent wedi creu maniffesto gwych y gallwch ei lawrlwytho a'i rannu isod, yn ogystal â fideo yn egluro pam eu bod yn siarad heddiw.

Mae gan y fideo is-deitlau Cymraeg os yr ydach chi eisiau dilyn yn y Gymraeg.

COP15 Wildlife, Wales, and the World: A Youth Manifesto cover

Mae pobl ifanc o bob rhan o Gymru wedi dod at ei gilydd i greu maniffesto ar gyfer COP15

Darganfyddwch y Maniffesto yma

Dewch i gwrdd â'r ymgyrchwyr a ysgrifennodd y maniffesto!

Camau y gallwch eu cymryd

Adnoddau COP

Rydym yn gwybod y gall fod yn llethol deall yr argyfyngau natur a hinsawdd, felly rydym wedi creu adnoddau defnyddiol a ffilm. Mae croeso i chi rannu'r rhain!

Cliciwch yma

Helpwch bywyd gwyllt adra

O adeiladu gwesty chwilod i greu pwll gardd, dyma rai syniadau am bethau y gallwch eu gwneud eich hun i helpu bywyd gwyllt.

Darganfyddwch mwy