Gwaddodion Moroedd Eithriadol

Small-spotted catshark

Small-spotted catshark ©Alex Mustard/2020VISION

Gwaddodion Moroedd Eithriadol

Beth yw gwaddodion cefnfor a pham maent yn bwysig?

Mae llawer o wely'r môr ar yr arfordir ac oddi ar y lan wedi'i orchuddio gan waddod trwchus, mwdlyd, tywodlyd a llifwaddodol. Yn gannoedd o gilometrau o'r wyneb yn aml, mae’r cynefinoedd gwaddodion hyn yn cael eu ffurfio dros filoedd o flynyddoedd pan mae anifeiliaid morol a ffytoplancton yn marw, yn suddo i wely’r môr ac yn cael eu hymgorffori yn y gwaddod. 

Mae gwaddodion cefnfor yn eithriadol bwysig i fywyd gwyllt morol, gan eu bod yn darparu cartref ar gyfer amrywiaeth eang o infertebrata morol a physgod, yn ogystal â darparu tir cyfoethog i chwilio am fwyd i ysglyfaethwyr mwy fwydo arno. Fodd bynnag, mae cynefinoedd gwaddodion hefyd yn storio llawer iawn o garbon, sy'n eu gwneud yn gynefin naturiol pwysig wrth fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. 

Ateb naturiol i'r argyfwng hinsawdd

Mae cefnforoedd yn amsugno 20 i 35% o allyriadau CO2 o wneuthuriad dyn bob blwyddyn!

Mae pob anifail a phlanhigyn yn storio carbon. Mae'r carbon yn cael ei ymgorffori yn eu meinwe i ddechrau, ac wedyn yn cael ei drosglwyddo'n ddiweddarach i'r mwd a’r gwaddodion pan fyddant yn marw ac yn suddo i wely’r môr.

Er syndod, nid yr anifeiliaid mwyaf yn ein moroedd ni, fel morfilod, dolffiniaid a heulforgwn, yw’r cyfranwyr carbon mwyaf at waddodion gwely’r cefnfor. Yn hytrach, rhai o'n horganebau morol lleiaf, gan gynnwys ffytoplancton, sy'n cael yr effaith fwyaf, gan ffurfio haenau o waddod ar wely’r môr, sy’n storio carbon yn y pen draw am filoedd o flynyddoedd os cânt lonydd heb unrhyw darfu. Yn fyd-eang, trosglwyddir 10 biliwn tunnell o garbon i waddodion gwely'r môr pan fydd ffytoplancton yn marw neu'n cael eu bwyta ac wedyn eu hysgarthu bob blwyddyn!

Ar gyfer gwledydd morol fel y DU, gyda rheolaeth dros ardaloedd eang o fôr a nodweddion fel fjords a lochs môr, mae gwaddodion arfordirol ac oddi ar y lan yn hynod bwysig wrth fynd i'r afael â'r argyfyngau hinsawdd ac ecolegol.  

Minke whale breaching

Tom McDonnell

ASTUDIAETH ACHOS

Asesu storfeydd carbon glas yn amgylchedd morol yr Alban

Mwy o wybodaeth

Bygythiadau a phwysau

Yn anffodus, mae rhai gweithgareddau dynol yn niweidio gwaddodion morol, gan ryddhau carbon a allai fel arall fod wedi'i gloi am filenia. Er enghraifft, mae treillio a mathau penodol o ddatblygiadau morol nid yn unig yn tarfu ar allu gwaddod cefnfor i storio carbon, ond yn dinistrio cynefinoedd a bywyd gwyllt hefyd.

Cadwraeth ac adferiad

Bydd mwy o gyfyngiadau ar weithgareddau niweidiol yn yr amgylchedd morol a gweithredu Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn helpu i ddiogelu bioamrywiaeth forol a chadw carbon gwaddodion cefnfor yn ddiogel allan o'r atmosffer. Gall dull gofodol o reolaeth forol helpu i lywio sut gellir gwneud hyn yn iawn gan hefyd liniaru'r arferion mwyaf niweidiol. 

Mae diogelu gwaddodion cefnfor a chynefinoedd pwysig eraill yn eu galluogi i ffynnu ac adfer o ddirywiad yn y gorffennol, gan weithredu fel atebion naturiol i newid yn yr hinsawdd ar raddfa fawr.

Two seals basking on rocks

David Hopley

Rydym yn gweithio tuag at Foroedd Byw

Mwy o wybodaeth