Moroedd Byw

A puffin (Fratercula arctica) swims underwater. Puffins spend most of their lives at sea and are excellent underwater swimmers, which is how they catch small fish, their main food. They swimming is rather robotic to watch, with discret flaps of their wings and jerky changes in direction. Photographed in July 2011, Farne Islands, Northumberland. England, UK. North Sea.

Alexander Mustard/2020VISION

Moroedd Byw

Ein moroedd yng Nghymru

I’w weld lle mae dyfroedd cynnes o'r de yn cwrdd â cherrynt llawn maethynnau oer o'r gogledd, mae'r môr o amgylch Cymru yn arbennig mewn sawl ffordd ac mae'n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt rhyfedd a rhyfeddol. Mae môr tiriogaethol Cymru yn dyblu maint Cymru bron. Gan orchuddio 15,000km2, mae'n gartref i amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau, gan gefnogi poblogaethau o rywogaethau sy'n bwysig yn rhyngwladol, gan gynnwys adar drycin Manaw, morloi llwyd Atlantaidd, a dolffiniaid trwyn potel.

Moroedd Byw

Mae angen moroedd cynhyrchiol ac iach ar gymdeithas ac economi gynaliadwy. Ac eto, ers blynyddoedd lawer, mae llygredd, datblygiad anghynaliadwy a'r ffordd rydym yn pysgota wedi niweidio a gwagio ein moroedd. Mae ein gweledigaeth ar gyfer Moroedd Byw - lle mae diogelu a rheoli ein moroedd yn well yn golygu y gall rhywogaethau sydd wedi dirywio ddod yn gyffredin eto.

Moroedd mewn argyfwng

Traethau llawn plastig, pysgodfeydd ar fin dymchwel, datblygu seilwaith anghynaliadwy ac effeithiau cynyddol newid yn yr hinsawdd byd-eang. Dyma'r pwysau sy'n addasu cydbwysedd ein moroedd ni heddiw, gan ddefnyddio eu hadnoddau y tu hwnt i derfynau diogel a pheryglu'r hyn rydym yn ei gymryd ohonynt - o'r stociau pysgod i fwydo ein gwlad i ynni i'r aer rydym yn ei anadlu.

Beth rydym wedi’i golli

Bluefin tuna

Bluefin tuna, Scarborough, 1949 - Phil Burton

Mae'r llun yma’n dangos tiwna asgell las wedi’i ddal yn Scarborough, Sir Efrog yn 1949. Gwelwyd tranc pysgodfa tiwna asgell las Môr y Gogledd yn 1963 a heddiw mae wedi diflannu i bob pwrpas yma fel stoc pysgod masnachol. Os byddwn yn gwella'r ffordd rydym yn rheoli ein moroedd ac yn diogelu cynefinoedd morol, gallem weld tiwna asgell las yn dychwelyd yn llawn i’r DU, a llawer o anifeiliaid godidog eraill.

Beth mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn ei wneud?

  • Ymgyrchu dros Ardaloedd Morol Gwarchodedig - rydym yn ymgyrchu dros ddiogelu rhannau o wely'r môr a'r môr rhag gweithgareddau niweidiol
  • Polisi pysgodfeydd - polisïau pysgota cytbwys sy'n helpu i ddiogelu ein hamgylchedd morol a sicrhau diwydiant pysgota cynaliadwy
  • Arolygu - rydym yn cynnal arolygon ar hyd yr arfordir ac o dan y môr i gasglu gwybodaeth am gynefinoedd a bywyd gwyllt morol
  • Cynghori ar ddatblygu - rydym yn helpu i sicrhau bod datblygiadau ar y môr, fel ffermydd gwynt, yn osgoi'r rhannau pwysicaf o'r môr ar gyfer natur
  • Ysbrydoli pobl am y môr - rydym yn cynnal digwyddiadau o amgylch yr arfordir, o sgyrsiau i grwydro pyllau creigiog a saffaris snorcelu tanddwr
Mae'r byd naturiol yn werthfawr ynddo'i hun, ac mae'n sylfaen i'n lles a'n ffyniant; rydym yn dibynnu arno ac mae yntau’n dibynnu arnom ni.
Two people pulling litter from a beach

Jonny Easter

Dau berson yn symud sbwriel o draeth

Jonny Easter

    Pum her mae ein moroedd yn eu hwynebu

    1. Dim digon o ardaloedd gwarchodedig ar y môr - does dim digon o lefydd gwyllt gwarchodedig ar y môr. Mae angen i rwydwaith y DU o Ardaloedd Morol Gwarchodedig ddiogelu'r amrywiaeth lawn o fywyd gwyllt yn ein moroedd.

    2. Pysgota – ar ôl diwygio'r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn sylweddol, rydym wedi dechrau gweld rhai o'n stociau pysgod yn adfer. Ond mae problemau sylweddol o hyd.  Mae angen i ni sicrhau bod y broses hon yn parhau a bydd hynny o fudd i swyddi, defnyddwyr a bywyd gwyllt

    3. Diffyg cynllunio buddiannau sy'n cystadlu â'i gilydd – mae pysgota, rigiau olew, ffermydd gwynt a chloddio graean o wely'r môr i gyd yn cael effaith enfawr ar foroedd y DU, cynefinoedd gwely'r môr bregus a'r bywyd gwyllt sy'n byw ynddynt; mae angen i ni gynllunio ein moroedd fel bod gennym le i fywyd gwyllt adfer a rhoi sicrwydd i ddiwydiant o ran ble gallant ddatblygu a physgota.

    4. Llygredd difrifol – mae carthion, cemegau ffermio, sbwriel plastig sy'n cael ei olchi allan i'r môr, rhwydi pysgota sy’n cael eu gadael a llygredd sŵn o ddatblygiadau newydd yn y môr yn lladd bywyd gwyllt ac yn cael effaith niweidiol ar iechyd pobl

    5. Ymddygiad dynol – mae ein llwyddiant wrth fynd i'r afael â'r bygythiadau hyn yn dibynnu yn y pen draw ar ddealltwriaeth pobl a derbyn yr angen am newid.