Glaswelltiroedd gwych

Calaminarian grassland

Glaswelltiroedd Gwych

Beth yw glaswelltiroedd?

Cynefinoedd hynafol yw glaswelltiroedd, yn rhan annatod o’n diwylliant. Yn dilyn yr Oes Iâ ddiwethaf, tua 12,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd llystyfiant fel mwsogl a phlanhigion fel chwyn wedi ymsefydlu ar y tir noeth, a adawyd ar ôl pan doddodd y rhewlifau. Yn raddol, datblygodd yr ardaloedd hyn yn gymunedau o laswelltau, hesg a pherlysiau wrth i fwy o blanhigion ddod o hyd i gartref - gan arwain at y dolydd rhyfeddol sy'n llawn blodau a welwn (yn rhy brin o lawer) heddiw.

Pam mae glaswelltiroedd yn bwysig?

Mae glaswelltiroedd 'heb eu gwella' yn eithriadol bwysig i fywyd gwyllt. Ystyr 'heb ei wella' yw glaswelltir nad yw wedi'i ailhadu, ei wrteithio na'i ddraenio. Er eu bod yn cael eu hystyried fel cynefinoedd ar bridd llai 'cynhyrchiol', maent yn cynnal amrywiaeth enfawr o rywogaethau, gan gynnwys tegeirian y waun, britheg pen neidr, pys-y-ceirw a blodyn y Pasg. Gall y llu o flodau gwyllt yn y cynefinoedd hyn fod yn gyfareddol!

Diolch i'r casgliad anhygoel hwn o flodau, mae amrywiaeth eang o bryfed, o gacwn i löynnod byw, yn gwledda yn yr ardaloedd hyn ac maent, yn eu tro, yn ysglyfaeth i adar a mamaliaid. Gellir dod o hyd i adar ysglyfaethus, fel tylluanod gwynion, yn hela ar hyd yr ymylon, ac mae gwiberod yn llithro drwy'r glaswellt.  

Ateb naturiol i'r argyfwng hinsawdd

Mae glaswelltiroedd y DU yn storio dwy biliwn tunnell o garbon yn eu priddoedd, ond mae posib tarfu ar hyn. Rhwng 1990 a 2006, rhyddhaodd trosi o laswelltir i gynhyrchu âr (fel aredig i dyfu cnydau) 14 miliwn tunnell o CO2. Mae glaswelltiroedd sy'n llawn rhywogaethau yn storfeydd carbon enfawr a phan gânt eu rheoli'n ofalus, e.e. drwy wyndwn sy'n llawn perlysiau a phori sensitif, maent yn cloi carbon ac yn hybu bioamrywiaeth.

Mae gan laswelltiroedd botensial enfawr i gloi carbon, nid yn unig oherwydd y planhigion y gallwn eu gweld ar yr wyneb, ond hefyd oherwydd y berthynas rhwng y planhigion, y ffyngau, y bacteria a’r llawer o rywogaethau eraill sy'n helpu i gyfoethogi'r pridd gyda charbon.

Action for Insects_header
GWEITHREDU

Mae pryfed yn wynebu dirywiad difrifol, ond gallwn ni i gyd chwarae ein rhan yn eu hadferiad drwy wn

Lawrlwythwch eich canllaw

Bygythiadau a phwysau

Tir fferm neu dir pori garw yn yr ucheldir yw'r rhan fwyaf o laswelltir heddiw, gyda dim ond cyfran fechan iawn o laswelltir 'heb ei wella' yn weddill. Yn Lloegr mae tua 4.5 miliwn hectar o laswelltir, a dim ond 100,000ha ohono sydd heb ei wella.

Dechreuodd y dirywiad yn y 19eg Ganrif, pan ddefnyddiwyd gwano (tail poblogaethau o adar môr) fel gwrtaith. Newidiwyd hwn yn ddiweddarach am opsiynau eraill artiffisial. Yn ystod y 1940au a'r 1950au defnyddiwyd gwrteithiau cemegol, chwynladdwyr a mathau newydd o laswellt i gynyddu'r cnwd. Ar yr un pryd, anogodd cymhelliant gan y llywodraeth (i helpu hunangynhaliaeth genedlaethol) ffermwyr i aredig glaswelltiroedd. Yn ystod yr 20fed Ganrif, collwyd 90% o laswelltiroedd yr iseldir.

Yn yr ucheldiroedd, roedd y stori'n wahanol, ond roedd y dirywiad mewn glaswelltir yr un mor ddramatig. Yma, arweiniodd gorbori at drosi rhostir a gorgors yn laswelltir asid ucheldirol llai cyfoethog o ran bywyd gwyllt a phorfa brwyn. Mae glaswelltir heb ei wella sy'n llawn rhywogaethau yn parhau i gael ei golli (er bod cyfradd y golled wedi arafu) ac mae glaswelltir ar safleoedd gwarchodedig yn dirywio. Mae nifer y glöynnod byw a’r adar magu, fel y gylfinir a'r gornchwiglen, yn parhau i ddirywio.

Cadwraeth ac adferiad

Gallai diogelu ac adfer glaswelltiroedd y DU chwarae rhan bwysig mewn cyflawni allyriadau di-garbon net.  Rhaid cydnabod bod rhywfaint o ddadlau ynghylch rôl pori o ran cefnogi gallu glaswelltiroedd i ddal carbon, gan fod anifeiliaid sy'n pori’n gyfrifol am allyriadau carbon a bod anifeiliaid sy’n cnoi cil, yn enwedig gwartheg, yn rhyddhau methan – nwy tŷ gwydr sydd â mwy o botensial cynhesu na CO2. Fodd bynnag, cydnabyddir bod lefelau pori isel sy'n cael eu rheoli'n dda yn cynyddu carbon mewn pridd a bioamrywiaeth, ac mae gorbori’n gallu arwain at ryddhau carbon o'r pridd.