Datrysiadau Mawndiroedd

Bogbean growing on a bog peatland at dawn

Mark Hamblin/2020VISION

Mawndiroedd Pwerus

Beth yw mawndiroedd?

Mae mawndiroedd yn llefydd anhygoel o wyllt, yn gartref i blanhigion, adar a phryfed prin ac anarferol. Tirweddau gwlybdir yw mawndiroedd wedi’u nodweddu gan briddoedd llawn dŵr wedi'u creu o blanhigion marw ac yn pydru, o'r enw mawn. Mae mawn yn ffurfio ar gyfradd eithriadol araf, gan gronni ar gyfartaledd o ddim ond 1mm y flwyddyn - mae hynny'n golygu ei bod yn cymryd 1,000 o flynyddoedd i un metr o fawn ffurfio! Un elfen allweddol mewn mawn yw mwsogl o'r enw sffagnwm, sy'n ffurfio carpedi amryliw ar draws y dirwedd ac yn dadelfennu’n araf iawn o dan yr amodau llawn dŵr.

Yn y DU mae gennym ni dri phrif fath o gynefin mawndir: cyforgors yr iseldir, gorgors a ffen. Mae cyforgors yr iseldir a gorgors yn wlybdiroedd anarferol, gan eu bod yn cael eu bwydo'n llwyr gan ddŵr glaw ac eira tawdd yn hytrach na dŵr daear. I’w gweld yn amlach mewn ardaloedd bryniog a mynyddig, mae rhai mawndiroedd isel yn weddill, er bod y rhan fwyaf wedi'u draenio ar gyfer amaethyddiaeth.

Pam mae mawndiroedd yn bwysig?

Mae ein mawndiroedd yn y DU yn storio 3.2 biliwn tunnell o garbon, sy’n gyfanswm anhygoel. O'i ystyried yn fyd-eang, mae hyn hyd yn oed yn fwy trawiadol, gan mai dim ond 3% o arwynebedd y tir maent yn ei orchuddio ond maent yn storio 30% o'r holl garbon pridd yn yr ardal hon! Mewn cyflwr iach, maent hefyd yn dirweddau hardd, dramatig, sy’n gartref i fywyd gwyllt prin ac mewn perygl fel gweirlöyn mawr y waun ac adar rhydio fel pibydd y mawn.

Ond mae mawndiroedd yn bwysig am resymau eraill hefyd, gan eu bod yn helpu i liniaru llifogydd, drwy arafu llif dŵr a hidlo dŵr, gan ei wneud yn lanach yn ein gweithfeydd prosesu dŵr - ac yn y pen draw, yn ein tapiau, gyda 70% o ddŵr yfed yn dod o ardaloedd ucheldirol sy’n cael eu rheoli gan fawn.

Ateb naturiol i'r argyfwng hinsawdd

Mae ein mawndiroedd yn storfa garbon enfawr felly maent yn hanfodol yn ein brwydr yn erbyn newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae mwy nag 80% o fawndiroedd y DU wedi'u difrodi - a phan maent wedi'u difrodi, mae'r mawn yn mynd yn sych ac yn agored i'r elfennau, ac yn hytrach na storio ac amsugno carbon, maent yn ei ollwng yn ôl i'r atmosffer fel CO2.

Pe bai dim ond 5% yn rhagor o'n mawndiroedd yn diflannu, byddai swm y carbon a gollwyd yn cyfateb i gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr blynyddol y DU sy’n cael eu creu gan ddyn. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn eu hadfer i fod yn iach eto, fel eu bod yn cadw carbon dan glo yn y ddaear. Unwaith y byddant wedi'u hadfer i gynefin iach a gweithredol byddant hefyd yn dechrau amsugno carbon wrth iddynt gronni mwy o fawn.

Pumlumon Living Landscape project

Pumlumon Living Landscape project ©Peter Cairns/2020VISION

ASTUDIAETH ACHOS

Prosiect Pumlumon

Mwy o wybodaeth

Bygythiadau a phwysau

Yn hanesyddol, mewn rhai ardaloedd fel y Peak District, mae llygredd atmosfferig sy'n gysylltiedig â'r chwyldro diwydiannol wedi arwain at ddiraddio mawndiroedd. Fodd bynnag, y rheswm pennaf fu draenio mawndiroedd mewn ymgais i'w gwneud yn fwy cynhyrchiol i amaethyddiaeth h.y. llai  dwrlawn ac yn well ar gyfer tyfu cnydau. Arweiniodd draeniad ar gyfer plannu coedwigoedd mewn llefydd fel gogledd yr Alban at ddinistrio llawer iawn o fawndiroedd hefyd.

Mae’r pwysau arall ar fawndiroedd wedi cynnwys echdynnu mawn ar gyfer garddwriaeth. Mae hyn yn parhau heddiw, er bod y rhan fwyaf o'r mawn yn ein canolfannau garddio bellach yn dod o Ddwyrain Ewrop, gan gludo'r broblem i wledydd eraill. Mae llosgi a gorbori hefyd yn dwysáu erydiad mawndiroedd sy'n arwain at fawn agored, sy'n fwy agored i niwed.

Cadwraeth ac adferiad

Mae angen rheoli'r storfeydd enfawr o garbon yn ein mawndiroedd yn y tymor hir. Bydd hyn yn cadw'r carbon presennol dan glo yn y ddaear a gyda gwaith adfer mawndiroedd wedi'i reoli a'i fonitro'n ofalus, bydd yn arwain at ddal mwy o garbon yn ogystal â lleihau llifogydd, dŵr glanach a mwy o lefydd i fywyd gwyllt ffynnu.

peat free illustration
GWEITHREDU

Bod yn ddi-fawn

Cael gwybod sut