Mae angen rhoi terfyn ar unwaith ar werthiant mawn
Mae mawn sy’n cael ei ddefnyddio yn ein compost yn cael ei gloddio o lefydd gwyllt, gan niweidio rhai o’r mawndiroedd olaf sydd ar ôl yn y DU a thramor. Mae’r broses hon hefyd yn rhyddhau carbon i’r atmosffer, gan gyflymu newid yn yr hinsawdd.
Ddeng mlynedd yn ôl, gosododd Llywodraeth y DU darged gwirfoddol i’r sector garddwriaeth roi’r gorau i werthu compost mawn i arddwyr erbyn 2020. Ond mae’r dull yma o weithredu wedi methu!
Mae angen gweithredu nawr i roi terfyn ar werthiant compost mawn yn ein siopau a’n canolfannau garddio ni ar unwaith, ac i symud yn nes y dyddiad y mae’n rhaid i dyfwyr proffesiynol roi’r gorau i ddefnyddio mawn.
Beth am i ni wneud yr holl gompost 100% yn rhydd o fawn!
Llofnodwch ein deiseb i roi terfyn ar werthiant mawnMae mawndiroedd yn gynefinoedd bywyd gwyllt allweddol ac mae’n gwbl hanfodol eu bod yn aros yn eu lle er mwyn ein helpu ni i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Gall y Llywodraeth sicrhau bod y storfeydd carbon pwysig hyn yn gweithredu fel y’u bwriadwyd drwy wahardd gwerthu mawn yn awr.Prif weithredwr, Yr Ymddiriedolaethau Natur