Mynd i'r afael â'r argyfwng natur

A bee sat on a white flower with a cityscape in the background

Paul Hobson

Mynd i'r afael â'r argyfwng natur

Nid yw'n rhy hwyr

Rydyn ni'n profi'r 6ed difodiant torfol yn hanes ein planed. Rydym wedi colli dros 60% o’r holl fioamrywiaeth ar y blaned ers 1970, hynny yw o fewn un genhedlaeth. Heddiw mae 1 o bob 7 rhywogaeth yn y DU mewn perygl o ddiflannu ac mae bywyd gwyllt a oedd unwaith yn gyffredin bellach yn mynd yn brin.

Yn ôl y Llwyfan Polisi-Gwyddoniaeth Rynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystem (neu IPBES), gall miliwn o rywogaethau gael eu gwthio i ddifodiant yn yr ychydig flynyddoedd nesaf, gyda chanlyniadau difrifol i fodau dynol yn ogystal â gweddill bywyd ar y ddaear. Mae'r amrywiaeth anhygoel o rywogaethau byw yn ffurfio ein system cynnal bywyd sy'n darparu ein bwyd, dŵr glân, aer, ynni, a llawer mwy.

Mae’r ymchwil diweddaraf yn y DU a nodir yn adroddiad State of Nature 2019, yn rhoi darlun llwm iawn. Mae llawer o rywogaethau yng Nghymru yn prinhau gyda 666 o rywogaethau dan fygythiad o ddiflannu a 73 o rywogaethau eisoes wedi’u colli. Ond nid yw'n rhy hwyr.

Mae Cymru yn un o'r gwledydd sydd wedi'i disbyddu fwyaf o ran natur yn y byd. Mae'n bryd helpu byd natur i wella.

Mae angen i ni weithio gyda'n gilydd

Bydd atal colli natur yn gofyn am ymdrech a chydgysylltu digynsail gan lywodraethau, busnesau, elusennau a chymdeithas sifil. Fodd bynnag, mae Cymru mewn sefyllfa unigryw i arwain y ffordd yn adferiad natur drwy ein deddfwriaeth amgylcheddol sy’n arwain y byd, ein hymdeimlad o le yn ein cysylltu â’r dirwedd, a’n harfordir a’n moroedd rhyfeddol.

Er mwyn galluogi hyn mae'r Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru yn argymell creu Rhwydwaith Adfer Natur. Byddai hyn yn rhoi lle i fywyd gwyllt wrth galon ein systemau ffermio a chynllunio ac yn dod â natur i’r mannau lle mae pobl yn byw, fel y gallwn oll elwa.

Er mwyn cyflawni hyn, mae angen nid yn unig amddiffyn bywyd gwyllt a mannau gwyllt ond hefyd eu hadfer a'u cysylltu.

10 cam i alluogi adferiad bywyd gwyllt yng Nghymru

1. Blaenoriaethu adferiad natur

Rydym angen buddsoddiad yn adferiad natur gan holl adrannau’r llywodraeth a’r sector preifat.

Darganfyddwch beth yr ydym ei wneud 

2. Atal colli cynefinoedd naturiol

Rhaid i ni nid yn unig atal colli cynefinoedd ond hefyd cynyddu maint ac ailgysylltu cynefinoedd presennol i greu gwytnwch.

30 erbyn 30 - ein ymgyrch i achub natur

3. Atal y difodiant o rywogaethau Gymreig

Mae angen buddsoddi mewn prosiectau daearol a morol er mwyn atal difodiant unrhyw rywogaeth Gymreig.

Ydach chi'n gwybod eich rhywogaeth?

4. Creu cynefinoedd

Rhaid i ni greu a chysylltu cynefinoedd â blaenoriaeth megis coetiroedd a glaswelltiroedd.

Dysgwch am cynefinoedd

5. Rheoli tir gyda nid erbyn natur

Rhaid i ni alluogi ffermwyr i reoli eu tir ar gyfer natur drwy gyflwyno cynllun talu newydd.

Gwybodaeth am y dyfodol o ffermio

6. Adfer prosesau naturiol

Mae angen i ni adfer prosesau naturiol yn ein tirwedday trwy buddsoddiad yn ein hecosystemau. 

Ein gwaith tirweddau byw

7. Ailgysylltu pobl gyda bywyd gwyllt

Mae’n hanfodol bod pobl yn teimlo’n gysylltiedig ag yn rhan o natur. Mae hyn nid yn unig o fudd i bobl, ond mae hefyd o fudd i natur a bywyd gwyllt hefyd. Mae angen ymgysylltu o oedran cynnar i annog ffyrdd iach o fyw.

Darganfyddwch pam bod natur yn dda i chi

8. Creu cynefinoedd yn ardaloedd trefol

Mae angen i ni fuddsoddi yn ein dinasoedd i'w gwneud yn wyrddach fel y gall pobl a natur fyw ochr yn ochr. 

Dod o hyd allan beth mae eich Ymddiriedolaeth Natur leol yn wneud 

9. Rheoli ein amgylchedd morol yn gynaliadwy

Rhaid i ni fuddsoddi mewn pysgodfeydd cynaliadwy a rheoli ein Hardaloedd Morol Gwarchodedig er mwyn gwarchod ein moroedd a’r bywyd gwyllt sy’n byw ynddo.

Ein gwaith Moroedd Byw

10. Atal defnyddio plaladdwyr

Mae plaladdwyr yn cael effaith enfawr ar bryfed a'r ecosystem. Mae angen i ni  leihau faint o blaladdwyr y mae awdurdodau lleol yn eu defnyddio a chynnwys lleihau’r defnydd ohonynt fel un o ofynion y Cynllun Ffermio Cynaliadwy.

Gweithredwch dros Bryfaid

A photo of 15 people all wearing black tshirts with Stand for Nature Wales branding doing silly poses in a bird observatory

The Stand for Nature Wales team whilst on a team visit to Cors Dyfi Nature Reserve. Photo by Silvia Cojocaru

Sefyll Dros Natur!

Ydach chi'n 9-24 oed? Darganfyddwch ein prosiect ieuenctid!

Mwy o wybodaeth
A hedgehog crawling out of a metal watering can which is on some green grass

Tom Marshall

Cefnogi

Ymunwch a'ch Ymddiriedolaeth Natur leol heddiw!

Gweithredwch heddiw!