Ym mis Mehefin bydd cymunedau ledled y DU yn ymuno â'i gilydd ar gyfer yr Wythnos Fawr Werdd. Dyma'r digwyddiad mwyaf erioed ar gyfer hinsawdd a natur yn y DU, ac mae pawb wedi'u gwahodd!
Wedi'i drefnu gan The Climate Coalition - grŵp o dros 100 o sefydliadau, gan gynnwys yr Ymddiriedolaethau Natur - bydd Wythnos Fawr Werdd yn gweld 1 miliwn o bobl o gymunedau ledled y DU yn gwneud cyfnewidiadau pob dydd i:
- gwarchod ac adfer natur
- lleihau'r effaith o newid hinsawdd
- cryfhau ein cymunedau
- dangos i wleidyddion fod angen iddyn nhw weithredu a chwarae eu rhan
Helpwch ni i sicrhau bydd yr Wythnos Fawr Werdd yn wythnos fwyaf gwyrdd yn y DU drwy gymryd rhan! Mae'n ffordd wych o ddod â'ch grŵp cymunedol, ysgol neu weithle at ei gilydd. A allech chi drefnu digwyddiad yn eich ardal leol? Mae yna lawer o syniadau ac adnoddau gwych ar gyfer digwyddiadau ar wefan yr Wythnos Werdd Fawr.
Darganfyddwch mwy am drefnu digwyddiadau Wythnos Fawr Werdd
Mae cymaint o ffyrdd i gymryd rhan yn Wythnos Fawr Werdd! Gallwch chi roi cynnig ar:
- un cyfnewid yn eich bywyd bob dydd, fel defnyddio'ch car yn llai
- rhedeg 'caffi cyfnewid dillad' neu atgyweirio dillad yn eich cymuned
- cyfnewid slabiau concrit am ardal blodau gwyllt yn eich gardd

Photo by Robert Wiedemann on Unsplash