Datrysiadau Morwellt

Juvenile undulate ray

Juvenile undulate ray ©Andy Jackson

Morwellt Gwych

Beth yw morwellt?

Mae'r dolydd tanddwr yma’n gartref i fywyd gwyllt rhyfeddol ac yn storio llawer iawn o garbon gan eu gwneud yn ateb naturiol allweddol i'r argyfwng hinsawdd.

Caiff morwellt ei enw oddi wrth ei ddail gwyrdd, tebyg i laswellt, sy'n ffurfio dolydd (neu welyau) ir helaeth o dan ddŵr, yn union fel y glaswellt a welwn yn ein caeau. Un o'r rhesymau pam mae morwellt mor arbennig yw am eu bod yn un o ddim ond tri phlanhigyn blodeuo morol yn y byd. Mae morwellt yn byw, yn peillio ac yn atgynhyrchu mewn dŵr môr, ond maent wedi'u cyfyngu i ardaloedd arfordirol bas lle mae digon o olau haul iddynt dyfu a ffynnu. Yn rhyfeddol, amcangyfrifir bod morwellt wedi esblygu am y tro cyntaf pan oedd deinosoriaid yn dal i gerdded y ddaear, dros 100 miliwn o flynyddoedd yn ôl. Heddiw, mae mwy na 60 rhywogaeth o forwellt ledled y byd, ac mae pump ohonynt i'w gweld yma yn y DU.

Mae'n hawdd drysu rhwng morwellt a gwymon; er eu bod yn debyg fel planhigion ac yn byw ar ein glannau ni, mae rhai gwahaniaethau allweddol. Mae gwymon yn glynu wrth wely’r môr, creigiau neu riffiau yn aml, gyda 'gludafael' ac yn cludo maethynnau yn uniongyrchol o'r dŵr drwy eu corff. Gan eu bod yn blanhigion fasgwlaidd sy’n blodeuo, mae gan forwellt system gludo fewnol ar gyfer y maethynnau maent yn eu cymryd i mewn drwy system o wreiddiau sydd wedi'i lleoli yn y gwaddodion ar wely’r môr.

Pam mae cynefinoedd morwellt yn bwysig?

Weithiau mae morwellt yn cael eu galw’n beirianwyr ecosystemau oherwydd gallant newid yr amgylchedd maent i’w gweld ynddo yn llwyr, gan greu cynefinoedd unigryw sy'n dod yn llecynnau allweddol i fioamrywiaeth ar gyfer ystod eang o fywyd gwyllt morol gwych. Mae dail hir morwellt yn gartref i bob math o anemonïau, hydroidau, chwistrellau môr, matiau môr ac algâu cwrel amrywiol. Fodd bynnag, mae morwellt hefyd yn sefydlogi ac yn ocsigeneiddio'r gwaddod, gan arafu llif y dŵr, sy'n creu cynefin delfrydol ar gyfer crancod ifanc a hŷn, malwod môr, môr gyllyll, pibellbysgod a hyd yn oed ceffylau môr. Mae gan y DU ddwy rywogaeth frodorol o geffyl môr; ceffyl môr trwyn byr a cheffyl môr trwyn hir (pigog), ac mae’r ddwy rywogaeth i’w gweld o amgylch gwelyau o forwellt.

Yn union fel y planhigion a'r coed yng nghefn gwlad ac mewn coetiroedd, mae morwellt yn gynhyrchwyr sylfaenol, sy'n golygu eu bod yn defnyddio'r haul i wneud bwyd er mwyn gallu tyfu. Nid yn unig mae hyn yn golygu eu bod yn rhan bwysig o weoedd bwyd fel ffynhonnell werthfawr o fwyd ar gyfer anifeiliaid morol ac arfordirol eraill, gan gynnwys môr ddraenogod, crancod a gwyddau, ond maent hefyd yn hidlo llygryddion ac yn lleihau erydiad arfordirol drwy leihau grym y tonnau sy'n taro ein harfordir.

Fodd bynnag, wrth i'r argyfwng hinsawdd gynyddu gyda lefelau cynyddol o garbon deuocsid yn ein hatmosffer, mae gan forwellt rôl bwysig iawn hefyd o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Ateb naturiol i'r argyfwng hinsawdd

Mae gan blanhigion a dolydd morwellt y potensial i ddal a storio llawer iawn o garbon sy’n toddi yn ein moroedd ni – gelwir hwn yn 'garbon glas'. Yn yr un modd â choed yn cymryd carbon o'r awyr i greu eu boncyffion, mae morwellt yn cymryd carbon o'r dŵr i greu eu dail a'u gwreiddiau (a elwir yn ffotosynthesis). Wrth i blanhigion morwellt farw a chael eu disodli gan egin a dail newydd, mae'r deunydd marw’n casglu ar wely’r môr ynghyd â deunydd organig (carbon) o organebau marw eraill. Mae'r deunydd hwn yn cronni gan ffurfio haenau o waddodion morwellt, a all storio carbon yng ngwely’r môr am filoedd o flynyddoedd os cânt lonydd heb i neb darfu arnynt.

O ystyried bod morwellt yn dal carbon ar gyfradd sydd 35 gwaith yn gyflymach na choedwigoedd glaw trofannol, ac yn cyfrif am 10% o gyfanswm claddu carbon y cefnfor (er ei fod yn gorchuddio llai na 0. 2% o wely’r cefnfor), maent yn un o'n hatebion naturiol pwysicaf i'r argyfwng newid yn yr hinsawdd.

ASTUDIAETH ACHOS

Prosiect Morwellt Solent

Mae Ymddiriedolaeth Natur Hampshire ac Ynys Wyth yn hyrwyddo cynefin morwellt; gan arolygu a mapio ei raddfa nawr ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mwy o wybodaeth
ASTUDIAETH ACHOS

Morwellt: Achub Cefnfor

Mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Project Seagrass a WWF-UK yn cydweithio i adfer dolydd morwellt ar draws Ynys Môn a Phen Llŷn.

Mwy o wybodaeth

Bygythiadau a phwysau

Er gwaethaf pa mor hanfodol bwysig yw morwellt ar gyfer gweithredu ecosystem ehangach, yn anffodus, mae ein cynefinoedd morwellt gwerthfawr mewn perygl. Yn fyd-eang, amcangyfrifir ein bod yn colli ardal o forwellt sy’n faint dau gae pêl droed bob awr, ac yn y DU amcangyfrifir ein bod wedi colli 92% o'n gwelyau morwellt yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Yn y 1930au bu farw cyfran sylweddol o forwellt y DU o glefyd sy'n ymosod ar y dail ac yn atal ffotosynthesis, gan ladd y planhigyn yn y pen draw. Gall tarfu'n gorfforol ar blanhigion morwellt leihau goroesiad morwellt yn ddramatig hefyd. Gall hyn fod ar ffurf digwyddiadau naturiol fel tonnau cryfion a stormydd, ond yn fwy cyffredin o darfu gan ddyn nad yw morwellt mewn sefyllfa cystal i adfer yn ei sgil, fel datblygiadau arfordirol, treillio, angori a gweithgarwch cychod i enwi dim ond rhai. Mae llygredd a dŵr ffo maethynnau o dir hefyd yn fygythiad allweddol i gyflwr a chynhyrchiant dolydd morwellt. Mae llwyth cynyddol o faethynnau’n achosi blodau algaidd, sy’n rhwystro golau'r haul yn aml, sy’n angenrheidiol ar gyfer tyfiant morwellt.

Cadwraeth ac adferiad

Os byddwn yn gweithredu nawr, gallwn ddod â'n morwellt yn ôl. Er gwaethaf colledion enfawr o'r cynefin gwerthfawr hwn ledled y DU ac yn fyd-eang, mae lle i obeithio. Pan fyddwn yn cael gwared ar weithgareddau niweidiol ac yn rhoi cyfle i forwellt ffynnu, gall fod yn syndod o wydn. Nid yn unig y gallant wella o darfu diweddar, ond hefyd gall dolydd morwellt ledaenu ac ailsefydlu ar hyd rhannau o'n harfordir lle nad ydynt wedi'u cofnodi ers degawdau.

Mae ymchwil i sut gall cadwraethwyr ddiogelu ac adfer cynefinoedd morwellt wedi dechrau arwain at ganlyniadau cadarnhaol. Er nad yw rheoli cynefinoedd yn hawdd yn y môr, mae'n bosibl! Mae prosiectau adfer morwellt yn cael eu treialu yn y DU, gyda chymorth yr Ymddiriedolaethau Natur. Mae hadau’n cael eu casglu o wahanol safleoedd a'u trin, yn barod i'w hailblannu i greu dolydd newydd. Mae gwaith arall yn cynnwys edrych ar systemau angori sy'n lleihau effaith gorfforol cychod ac addysgu pobl am bwysigrwydd morwellt. Yn ffodus, mae cynefinoedd morwellt i’w gweld mewn nifer o'n Hardaloedd Morol Gwarchodedig, ond dim ond y cam cyntaf yw'r dynodiad – er mwyn diogelu eu dyfodol yn y tymor hir, mae rheoli a monitro priodol ar y safleoedd hyn yn hanfodol.

Er bod y dolydd yma’n parhau’n gudd i lawer o bobl, mae ganddynt rôl hollbwysig i’w chwarae o ran sicrhau adferiad natur yn y môr.

Seagrass bed

Seagrass ©Paul Naylor www.marinephoto.co.uk/

Mae arnom ni angen Moroedd Byw

Mwy o wybodaeth