Sut rydym yn cael ein hariannu

A arched bridge over a river with mountains in the background

Bob Coyle

Sut rydym yn cael ein hariannu

Ein hincwm

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn derbyn dau brif fath o incwm. Cyfyngedig (ar gyfer prosiectau penodol) a digyfyngiad (ar gyfer cyflawni ein hamcanion elusennol yn barhaus). Rydym yn defnyddio amrywiaeth o ffynonellau ariannu i dalu costau prosiectau cadwraeth, addysg a gwaith ymwybyddiaeth, ac i reoli ein rhwydwaith o warchodfeydd natur.

Incwm cyfyngedig

Rydym yn derbyn incwm gan gyllidwyr grantiau, cyrff cyhoeddus a sefydliadau partner sy'n gysylltiedig â chyflawni prosiectau penodol.

Mae'r ffynonellau cyllid cyfyngedig yn cynnwys:
Llywodraeth Cymru
Cyfoeth Naturiol Cymru
Royal Society of Wildlife Trusts
Swyddfa Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Incwm digyfyngiad

Mae'r math hwn o incwm yn eithriadol bwysig oherwydd gallwn ei ddefnyddio lle bynnag mae'r angen mwyaf i helpu i ddiogelu bywyd gwyllt.

Mae ein prif ffynonellau o incwm digyfyngiad yn cynnwys:
Loteri Cod Post y Bobl
Tanysgrifiadau aelodaeth o'r pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru

Mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn unigryw gan ein bod yn derbyn arian cyfyngedig gan gyllidwyr a phartneriaid i'w ddosbarthu i'r pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru. Mae pob un o'r sefydliadau hyn yn elusen annibynnol a gellir gweld eu gwybodaeth ariannol ar eu gwefannau.

Dod o hyd i'ch Ymddiriedolaeth leol

Mae pob un o gefnogwyr yr Ymddiriedolaethau Natur wrth galon yr hyn rydym yn ei wneud. Rydych chi'n gwneud ein gwaith ni’n bosibl – o ddiogelu bywyd gwyllt sydd dan fygythiad fel ystlumod, pathewod a gwenyn i achub rhai o lefydd gwyllt olaf y DU ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o blant i garu natur.

"Oherwydd ei bod yn elusen leol rydych chi’n gallu gweld i ble mae'r arian yn mynd, a gwerthfawrogi'r gwaith caled sy'n cael ei wneud." - aelod o Ymddiriedolaeth Natur"

Ein partneriaid

Ni fyddai ein gwaith yn bosib heb help ein partneriaid. O ddiogelu Moroedd Byw yng Nghymru i ailgyflwyno afancod i dirwedd Cymru, heb eu cymorth ariannol ni fyddai'r gwaith hwn yn bosib.