Ein Hamcanion

snowdrops

Amy Lewis

Amdanom ni

Ein Hamcanion

Dangos sut mae natur yn gweithio

Ein ffocws yw dangos sut i adfer cyflwr ein hecosystemau a darparu'r amodau i fywyd gwyllt adfer. Rydyn ni eisoes yn dangos sut mae natur yn gweithio ar ein tir ein hunain; rydyn ni’n ysbrydoli ac yn cefnogi perchnogion tir i reoli eu tir ar gyfer natur ac rydyn ni’n chwarae rôl ymgynghorol ac eiriolaeth i ddangos sut gellir rheoli'r amgylchedd morol.

Ysbrydoli pobl a chymunedau i werthfawrogi a gweithredu dros natur

Mae bywyd gwyllt wedi ysbrydoli pobl erioed. Mae gweld barcutiaid coch yn uchel uwch ben llethrau bryn, dyfrgwn yn chwarae ar lan afon, neu ddarganfod tegeirian hardd mewn dôl o flodau gwyllt yn codi ein hysbryd ac yn gwella ein lles mewn ffordd unigryw. Rydyn ni’n credu bod gan bawb yng Nghymru hawl i'r profiadau hyn lle bynnag maen nhw’n byw. Rydyn ni’n gweithio i ddod â'r profiadau hyn i fywydau pobl drwy ein hymgyrchoedd, ein prosiectau a'n gwaith allgymorth ledled Cymru.

Edrych ar ein prosiectau a'n hymgyrchoedd

Hyrwyddo natur a'n gwaith

Rhaid i ni hyrwyddo natur a'n gwaith drwy eiriolaeth a gwaith partneriaeth hynod effeithiol.

Er mwyn creu'r newid gwleidyddol a chorfforaethol cynaliadwy sydd ei angen i sicrhau adferiad natur, mae angen i ni ymgysylltu a pharatoi'r rhai sy'n rhannu ein gweledigaeth, ein credoau a'n gwerthoedd. Rhaid i ni ymdrechu nid yn unig i gynyddu ein dylanwad ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ac yn ffurfio barn mewn diwydiant a llywodraeth a phobl allweddol eraill yn yr amgylchedd naturiol, ond hefyd cynyddu'r gwerth maen nhw’n ei roi ar ein gwaith.