Ein Gweledigaeth a'n Cenhadaeth

Daffodils in a woodland

Neil Aldridge

Amdanom ni

Ein gweledigaeth a'n cenhadaeth

Ein cenhadaeth a'n gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw pobl sy'n agos at natur, gyda thiroedd a moroedd sy’n gyfoethog mewn bywyd gwyllt. 

Ein cenhadaeth yw creu tirweddau byw, moroedd byw a chymdeithas lle mae natur yn bwysig.

Ymlaen yn gyflym i Gymru yn 2040

Cymru lle mae gweld draenog yn brofiad bob dydd

Mae'r aer yn lanach, ac mae bwrlwm a sŵn cerbydau wedi diflannu bron o'r strydoedd. Mae'n ymddangos bod gan bron pob adeilad do gwyrdd, neu waliau gwyrdd. Erbyn hyn, mae gan stadau tai wythïen werdd ac mae llawer ohonynt yn cynnwys hen wrychoedd a choed. Mae gan gaeau fferm stribedi lliwgar o flodau gwyllt yn rhedeg ar eu hyd, neu byllau, neu wrychoedd trwchus. Mae mwy o ddraenogod, gwenoliaid a gwenoliaid y bondo, a llawer mwy o bryfed. Mae pobl yn edrych yn iachach ac yn hapusach, yn fwy parod i siarad. Mae llai o straen a gorbryder. Mae pobl yn deall mai'r byd naturiol yw sylfaen ein lles a'n ffyniant ni; ein bod ni’n dibynnu arno, ac yntau'n dibynnu arnom ni.

A smiling toddler holds up a flower to her grandfather

Ben Hall/2020VISION

Tirweddau Byw

Mae’r dystiolaeth yn dangos ein bod yn parhau i golli bywyd gwyllt a'r llefydd lle mae bywyd gwyllt yn byw ar raddfa frawychus. Mae dull cadwraeth ar raddfa tirwedd, lle mae cynefinoedd bywyd gwyllt yn fwy, yn cael eu rheoli'n well ac yn fwy cysylltiedig, wrth wraidd ymdrechion yr Ymddiriedolaethau Natur i fynd i'r afael â hyn. Rydyn ni’n galw hyn yn Dirweddau Byw.

Mae Tirweddau Byw yn sefyll dros weithio dros ardaloedd mwy o dir (nid dim ond y gwarchodfeydd natur rydyn ni’n berchen arnynt), ac fel arfer mewn partneriaeth ag eraill, i ddod o hyd i natur a gwneud lle iddo. Mae ein gwarchodfeydd natur wedi dod yn werddonau bach o dir sy'n llawn bywyd gwyllt mewn tirwedd sy'n aml yn anghroesawus i lawer o rywogaethau, a nod Tirweddau Byw yw cysylltu'r mannau yma. Yn aml, mae ffocws ar adfer cynefinoedd bywyd gwyllt; mae’r enghreifftiau'n cynnwys gweithio gyda pherchnogion tir i adfer corsydd mawn yn yr ucheldiroedd, neu weithio mewn dalgylchoedd afonydd i droi cynefinoedd glan afon yn fwy naturiol.

Mwy am Dirweddau Byw

Waterfall and river with leaves floating

Andy Rouse/2020VISION

Moroedd Byw

Mae tua hanner ein holl fywyd gwyllt yn byw yn y môr, ond mae degawdau o gamfanteisio wedi gadael ein moroedd wedi'u difrodi a'u diraddio; fodd bynnag, dydi hi ddim yn rhy hwyr i'w hachub nhw. Ein gweledigaeth ni yw Moroedd Byw lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu a rhywogaethau sy'n cael eu gyrru i ddifodiant yn dod yn gyffredin unwaith eto.

Yn ystod y pum mlynedd nesaf mae gennym gyfle digynsail i wella ein moroedd, drwy newid y ffordd rydyn ni’n pysgota, yn echdynnu adnoddau ac yn rheoli datblygiad yn y môr, a thrwy sicrhau bod ein moroedd yn cael eu diogelu gan ddeddfwriaeth gadarn. Bydd Sicrhau Moroedd Byw o fudd nid yn unig i'n bywyd gwyllt morol, ond i ffyniant a lles Cymru a'r DU gyfan.

Rydyn ni’n credu y gall pob un ohonom ni, waeth ble rydyn ni’n byw, helpu i ddod â'n moroedd yn ôl yn fyw. Bob blwyddyn, mae’r Ymddiriedolaethau Natur yng Nghymru a ledled y DU yn cynnal digwyddiadau i roi cyfle i fwy o bobl brofi a mwynhau ein bywyd gwyllt morol, gan ysbrydoli pobl i garu a gofalu am ein moroedd yn ystod y degawdau sydd i ddod.

Mwy am Foroedd Byw

Underwater shot including starfish

Alexander Mustard/2020VISION

Rhaid defnyddio pob lle ym Mhrydain i helpu bywyd gwyllt
Sir David Attenborough