Diweddariad gan yr Ymddiriedolaethau yng Nghymru, Ebrill 23

Diweddariad gan yr Ymddiriedolaethau yng Nghymru, Ebrill 23

Mae’r ymddiriedolaethau ledled Cymru wedi bod yn brysur iawn gyda digon o ymgyrchoedd, apeliadau, gwaith prosiectau, rheoli gwarchodfeydd a llawer mwy! Dyma blas o beth eu bod nhw wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf.

De a Gorllewin Cymru

Ynys Sgomer yn Ynysoedd Gwyllt!

Mae wedi bod yn gyffrous gweld bywyd gwyllt Prydain yng nghyfres newydd Attenborough, Wild Isles. Mae’n anrhydedd cael croesawu Syr David a thîm yr Ynysoedd Gwyllt ar ein Gwarchodfa Ynys Sgomer, a chael sylw ym mhennod gyntaf y gyfres. Roeddem yn ffodus i ddal i fyny gyda Syr David y tu ôl i'r llenni i sgwrsio am ei brofiad bywyd gwyllt mwyaf cofiadwy yn Ne a Gorllewin Cymru - rydym yn falch iawn o ddweud mai ein palod oedd hyn!

Gwyliwch yma

David Attenborough on Skomer credit Alex Board

David Attenborough on Skomer credit Alex Board

Sir Faesyfed

Helpwch ni i achub yr Afon Gwy

Mae Afon Gwy yn marw. Gwyddom eisoes mai ewtroffigedd o dir amaethyddol ac  erydiad pridd yw prif achosion o blŵmiau algaidd sy’n dinistrio ecosystem yr afon. Ac eto, cymerwyd cam sylweddol tuag yn ôl pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru oedi o dri mis mewn rheoliadau ansawdd dŵr pwysig. Mae’n hollbwysig nad oes unrhyw oedi pellach i reoliadau ansawdd dŵr a rhaid i Fil Amaeth (Cymru) newydd gefnogi ffermwyr i wneud y gorau dros fywyd gwyllt, a gwella cyflwr dalgylch Afon Gwy yn sylweddol. Rydym hefyd am helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei hymrwymiadau rhyngwladol i adferiad natur, fel y cytunwyd yn COP15. Dyna pam mae Ymddiriedolaeth Natur Sir Faesyfed wedi lansio cam nesaf ein hymgyrch #SavetheWye.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru, gall eich Aelod Seneddol  helpu i achub yr Afon Gwy. Gofynnwch iddynt godi llais drwy anfon cerdyn post am ddim. Mae AS bob amser eisiau clywed gan eu hetholwyr – defnyddiwch y cerdyn post i leisio’ch pryderon a’r camau yr hoffech eu gweld. Gallech hefyd rannu pam mae Afon Gwy iach yn bwysig i chi:

Gweithredwch yma

Save the Wye Campaign Postcard

Save the Wye Campaign Postcard

Sir Drefaldwyn

Dechrau cyffrous i'r Gwanwyn i Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn!

Mae wedi bod yn ddechrau gwych i’r gwanwyn yn Ymddiriedolaeth Natur Maldwyn. Roedd cyfres newydd y naturiaethwr Cymreig Iolo Williams ar BBC Cymru, Iolo’s Borderlands, yn taflu goleuni ar ddwy o’n gwarchodfeydd natur: dolydd blodau gwyllt Tŷ Brith a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Roundton Hill. Yn ystod y rhaglen boblogaidd hefyd, ymwelodd Iolo â Chamlas Trefaldwyn, Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) sydd dan fygythiad ac sy’n destun ymgyrch yr ydym yn ei chynnal ar hyn o bryd. Roedd ein Gwarchodfa Natur Cors Dyfi ger Machynlleth – a oedd yn rhan o '20 lle gorau i weld creaduriaid prinnaf y DU' yn y Times y mis hwn – hefyd yn falch iawn o groesawu'n ôl ein pâr magu o Weilch y pysgod, Telyn ac Idris, sydd eisoes wedi dodwy nyth llawn o wyau. Mewn newyddion arall, roeddem wrth ein bodd yn sicrhau cyllid i barhau â’n prosiect natur er lles arobryn,  Sgiliau Gwyllt, Llefydd Gwyllt.

Iolo Williams at Ty Brith nature reserve, credit - Aden Productions

Iolo Williams at Ty Brith nature reserve, credit - Aden Productions

Mae angen eich help ar Gamlas Trefaldwyn!

Ymunwch a'n hymgyrch i amddiffyn Camlas Trefaldwyn. Mae cynlluniau’n cael eu gwneud i adfer y gamlas ac ni fydd rhan o’r cynllun yn helpu natur i wella. Mae rhywogaethau prin a phoblogaidd mewn perygl. Darganfyddwch fwy am ymgyrch a chefnogwch ein galwadau am adferiad sensitif na fydd yn dinistrio’r safle bywyd gwyllt hwn sydd o bwysigrwydd rhyngwladol.

Gweithredwch yma

Montgomery Canal

Credit - Tamasine_Stretton_twit

Gogledd Cymru

Mae Hyrwyddwyr Achub Cefnfor, ein grŵp o gadwraethwyr morol ifanc, yn ymddangos ar Blue Peter yn y bennod "Let It Grow", gan egluro popeth am blannu hadau morwellt. Mae'r bobl ifanc wedi bod yn chwarae eu rhan mewn cadwraeth morwellt. Maent wedi dysgu beth yw morwellt, pam ei fod yn bwysig, ac wedi cymryd rhan mewn casglu hadau ar ddolydd morwellt iach a fydd yn helpu gyda phrosiectau adfer morwellt. Roedd derbyn bathodyn gwyrdd Blue Peter ar gyfer yr Ymddiriedolaeth yn teimlo fel ffordd wych o nodi ein pen-blwydd 60!

Cafodd ein grŵp newydd o Hyrwyddwyr Achub Cefnfor eu sesiwn gyntaf ar Ddiwrnod y Ddaear – rydym mor gyffrous iddynt ddechrau ar eu taith gadwraeth gyda ni

Bydd y grŵp hwn o ddarpar gadwraethwyr yn cymryd camau cadarnhaol i ddysgu mwy am yr amgylchedd morol a’r hyn y gallwn ni i gyd ei wneud i helpu i ofalu amdano.

Darganfyddwch mwy yma

Ocean Rescue Champions with Blue Peter, Credit - Charlotte Keen North Wales Wildlife Trust

Ocean Rescue Champions with Blue Peter, Credit - Charlotte Keen North Wales Wildlife Trust