Cyhoeddi lleoliadau cyntaf rhaglen adfer Coedwigoedd law Celtaidd yr Ymddiriedolaethau Natur

Cyhoeddi lleoliadau cyntaf rhaglen adfer Coedwigoedd law Celtaidd yr Ymddiriedolaethau Natur

Ynys Manaw a Gogledd Cymru sydd gyntaf i elwa o gronfa Aviva gwerth £38 miliwn

Ynys Manaw a Gogledd Cymru yw’r llefydd cyntaf o'r Ymddiriedolaethau Natur i ddechrau adfer ac ehangu coedwigoedd glaw Celtaidd ar draws yr Ynysoedd Prydain, yn dilyn rhodd o £38 miliwn gan Aviva.

Mae coedwigoedd glaw Prydain wedi cael eu dinistrio i raddau helaeth dros gannoedd o flynyddoedd ac maent bellach yn gorchuddio llai nag 1% o Brydain. Mae adfer y cynefin gwerthfawr hwn yn rhan o raglen ehangach o brosiectau natur a ariennir gan Aviva i gael gwared ar garbon o’r atmosffer ac i helpu bywyd gwyllt i adfer.

Bydd cymunedau lleol yn ymwneud yn agos â phrosiectau coedwig law a byddant yn elwa o fynediad cynyddol i fyd natur, gwirfoddoli, addysg a chyfleoedd cyflogaeth. Bydd adfer coedwigoedd glaw Celtaidd hefyd yn darparu aer a dŵr glanach a llai o berygl llifogydd.

Bydd y rhaglen uchelgeisiol yn gweld coedwigoedd glaw Celtaidd yn cael eu hadfer a’u hehangu mewn ardaloedd lle’r oeddent yn arfer tyfu ar hyd hinsoddau gorllewinol mwy llaith Ynysoedd Prydain. Y ddau safle cyntaf yw Creg y Cowin yn Ynys Manaw a Bryn Ifan yng Ngogledd Cymru.

A pine marten standing on a log, looking towards the camera

Pine marten © Mark Hamblin / 2020VISION

Creg y Cowin, Ynys Manaw – Ymddiriedolaeth Natur Manaw

Bydd dros 70 erw yng Nghreg y Cowin yn cael eu plannu â rhywogaethau o goed brodorol, gyda thua 20 erw yn cael eu caniatáu i adfywio'n naturiol. Bydd ardaloedd heb eu plannu o ros yr iseldir, dolydd, glaswelltir cap cwyr a phyllau yn darparu cynefin pellach i fywyd gwyllt. Ymhen amser, bydd pori cadwraethol gyda defaid a gwartheg yn gwella'r lle arbennig hwn. Mae Ymddiriedolaeth Natur Manaw yn obeithiol y bydd anifeiliaid coed derw fel telor y coed, y gwybedog brith a tingoch, yn ogystal ag adar ysglyfaethus, tylluanod ac infertebratau'r coetir yn dychwelyd. Bydd y goedwig law yn cynyddu purdeb dŵr ar gyfer Cronfa Ddŵr West Baldwin, yn helpu i atal llifogydd, ac yn cyfrannu at rwydwaith adfer natur yn Ynys Manaw. Bydd anheddau amaethyddol segur, a elwir yn tholtans Manaw, yn cael eu diogelu oherwydd eu harwyddocâd diwylliannol a hanesyddol.

Bryn Ifan, Gwynedd – Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru

Nod Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yw sefydlu dros 100 erw o goedwig law Celtaidd ar lethrau arfordirol llawn rhedyn ar Fwlch Mawr, y mynydd sy'n edrych dros Fryn Ifan, trwy gymysgedd o blannu brodorol sympathetig ac adfywiad naturiol. Bydd ardaloedd o Fryn Ifan yn cael eu cysegru i ffermio sy’n gyfeillgar i natur, tra bydd gwaith hefyd yn dechrau i wella gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol i helpu rhywogaethau prin fel glöyn byw britheg y gors. Bydd rhywogaethau coed yn cynnwys derw, bedw a gwern, a bydd yr ardal yn cael ei rheoli gan bori cadwraethol. Mae agosrwydd Bryn Ifan at warchodfa natur bresennol, Caeau Tan-y-bwlch, yn cynyddu ei werth ar gyfer adferiad byd natur trwy gyfrannu at rwydwaith o ardaloedd llawn bywyd gwyllt. Bydd Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru yn gweithio gyda chymunedau a ffermwyr i wneud y mwyaf o fanteision diwylliannol, economaidd ac amgylcheddol adfer coedwigoedd glaw Celtaidd.

Atlantic oak wood, Achduart, Sutherland, Scotland

Atlantic oak wood, Achduart, Sutherland, Scotland - Niall Benvie/2020VISION

Dywedodd Rob Stoneman, Cyfarwyddwr Adfer Tirweddau, Yr Ymddiriedolaethau Natur:

“Rydym wrth ein bodd bod y prosiectau i adfer coedwigoedd glaw Celtaidd yn ddechrau go iawn. Byddant yn darparu cynefin hanfodol i fywyd gwyllt mewn cyfnod o argyfwng bioamrywiaeth, yn storio llawer iawn o garbon, ac o fudd i gymunedau lleol am genedlaethau i ddod. Bydd adfer y cynefin hyfryd hwn hefyd yn caniatáu addasu i newid yn yr hinsawdd, yn lleihau bygythiadau o wres eithafol, llifogydd a sychder, ac yn galluogi pobl leol i elwa ar y buddion.”

Meddai Claudine Blamey, Cyfarwyddwr Grŵp Cynaliadwyedd, Aviva:

“Mae’n newyddion gwych y gall yr Ymddiriedolaethau Natur ddechrau adfer coedwigoedd glaw tymherus yng Ngogledd Cymru ac Ynys Manaw. Mae Aviva yn falch o chwarae ei ran yn y prosiectau hyn, gan helpu'r economi i fod yn fwy parod ar gyfer yr hinsawdd. Bydd coedwigoedd glaw yn ychwanegu at harddwch naturiol a threftadaeth ddiwylliannol pob ardal, yn ogystal â darparu gwydnwch rhag llifogydd, a chyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli, swyddi gwyrdd a thwristiaeth. Bydd y prosiectau hyn yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i natur, hinsawdd a chymunedau, felly rydym wrth ein bodd.”

Dywedodd Leigh Morris, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Natur Ynys Manaw:

“Mae olion coetir hynafol Ynys Manaw yn hollbwysig ac, ers blynyddoedd lawer, mae ecolegwyr Ymddiriedolaeth Natur Ynys Manaw wedi bod yn gweithio’n galed i’w gwarchod. Mae’n wych bod yr ynys yn chwarae rôl hynod o bwysig at ddod â choedwigoedd glaw tymherus yn ôl ar raddfa fawr. Mae’r tir yr ydym yn mynd i fod yn ei adfer mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Coetir Ynys Manaw yn arwyddocaol. Bydd hwn yn brosiect tirnod i’r ynys, o ran adferiad natur, datrysiadau sy'n seiliedig ar natur ac ymgysylltu â phobl yn y broses. Cyfnod cyffrous i fywyd gwyllt Fanaweg!”

Dywedodd Frances Cattanach, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:

“Rydym wrth ein bodd yn chwarae ein rhan i helpu i adfer coedwigoedd glaw Celtaidd i Gymru – maent yn rhan o’n treftadaeth naturiol hynafol. Edrychwn ymlaen at weithio gyda’r gymuned leol a ffermwyr, i gyfoethogi’r hyn sydd eisoes yn dirwedd ddiwylliannol ac amgylcheddol arbennig iawn."

Mae coedwigoedd glaw Ynysoedd Prydain yn goedwigoedd glaw tymherus, sy'n golygu eu bod yn tyfu mewn ardaloedd sydd â glawiad a lleithder uchel, ac amrywiad blynyddol isel mewn tymheredd. Fe'u gelwir hefyd yn Coedwigoedd Iwerydd neu Coedwigoedd Glaw Celtaidd.

Mae rhywogaethau coed yn cynnwys derw, bedw, criafol, celyn, gwern, helyg a chyll. Maen nhw’n gartref i garlymod, gwiwerod coch, a beleod, ac adar dan fygythiad fel telor y coed, tingoch, a gwybedog brith. Mae amodau gwlyb yn cynnal toreth o fwsoglau, llys yr afu, cennau a rhedyn - llawer ohonynt yn tyfu ar y coed neu'n gorchuddio clogfeini a cheunentydd. Mae'r lleithder yn ddelfrydol ar gyfer ffyngau, gan gynnwys rhywogaethau sy'n brin yn fyd-eang fel ffwng menyg cyll.