
Byddwch yn Nerth i Natur
Gyda'r Bil Natur Bositif ddod yn fuan yng Nghymru, rydym yn cefnogi lansio ymgyrch newydd ledled Cymru – Nerth Natur - ac rydych chi wedi'ch gwahodd!
Rydym yn aelodau balch o Climate Cymru - mudiad gweithredol sy'n cynnwys 380 o sefydliadau amrywiol o bob cornel o gymdeithas Cymru gan gynnwys busnes, arloesedd, addysg, y trydydd sector, grwpiau cymunedol a miloedd o gefnogwyr o bob rhan o Gymru.
Gyda'n gilydd byddwn yn gwneud sŵn mawr dros natur eleni!
Cofrestrwch
Bydd ein gweithgareddau cyntaf yn sicrhau y gall pob aelod o'r Senedd ledled Cymru gyfarfod ag etholwyr yn rhithiol neu'n bersonol rhwng 19 - 23 Mai. Bydd y digwyddiad hwn yn sicrhau eu bod yn clywed pa mor bwysig yw hi y bydd y Bil Natur Bositif, a deddfau eraill, yn amddiffyn, yn adfer ac yn cynyddu natur ledled Cymru.
Beth yw eich profiad o golli natur yn eich ardal? Mae gennych lais i siarad ar ran afonydd, tir, moroedd a bywyd gwyllt. Byddwn yn eich cefnogi ar hyd y ffordd i gymryd rhan yn y cyfle pwysig hwn.
