Enwau anhygoel ar gyfer ein bywyd gwyllt!

Enwau anhygoel ar gyfer ein bywyd gwyllt!

Y #30DiwrnodGwyllt yma mae Ymddiriedolaethau yng Nghymru wedi dod at ei gilydd i ddathlu rhywfaint o’r bywyd gwyllt eiconig rydyn ni’n ffodus i’w weld ar yn ein hardaloedd ni drwy wneud rhywbeth ychydig yn wahanol a siarad â chi am eu henwau yn Gymraeg! Er y gallech fod wedi meddwl y byddent yn debyg, fe welwch yn y rhestr hon fod eu henwau yn aml yn hynod ddisgrifiadol.

Maldwyn

Osprey neu Gwalch y Pysgod

Gwal-kh uh Puss-god

Un rhywogaeth sydd wedi cael ei gysylltu ag Ymddiriedolaeth Natur Sir Drefaldwyn yw’r Osprey. Mae eu henw Cymraeg, ‘Gwalch y Pysgod’, yn cael ei gyfieithu fel ‘the fish hawk’ nol yn Saesneg oherwydd eu deiet o ‘pysgod’  er nad yw’n aelod o deulu’r hebogau.

Wedi darfod o Gymru a gweddill y DU fel rhywogaeth sy’n magu, diolch yn rhannol i ymdrechion cadwraeth ac addysgiadol Prosiect Gweilch y Pysgod yr Ymddiriedolaeth, mae’r adar hyn wedi magu’n llwyddiannus yng Ngwarchodfa Natur Cors Dyfi bob blwyddyn ers 2011 – y tro cyntaf iddynt wedi magu yn Nyffryn Dyfi mewn 400 mlynedd! Mae Cors Dyfi, sef gwlyptir y tu allan i Fachynlleth, yn lle gwych i weld a darganfod mwy am yr adar anhygoel hyn. Gallwch eu gwylio drwy eich ysbienddrych o Dŵr Arsyllfa 360, neu fwynhau delweddau sinematig wedi’u ffrydio’n fyw yn ystafell wylio Canolfan Natur Dyfi, trwy garedigrwydd saith camera 4k cydraniad uchel o amgylch nyth Gweilch y Pysgod. Mae’r haf yn amser arbennig o dda i ymweld, gan fod y pâr magu, Idris a Telyn, yn brysur yn magu epil eleni.

Osprey2 Peter Cairns/2020 Vision

Peter Cairns/2020 Vision

Fynwy

Foxglove neu Menyg Ellyllon 

Men-ig Ell-uh-llon

Yng Nghymru, planhigyn tylwyth teg a elwir Menyg Ellyllon neu "elves gloves" yn Saesneg, ymhlith enwau eraill, yw bysedd y cŵn. Dyma arwyddlun blodau sir Fynwy a waeth ble rydych chi yng Ngwent y mis hwn, gellir mwynhau pigau blodau pinc carismatig ar draws ein coetiroedd, gerddi, rhostiroedd, ymylon ffyrdd a thir diffaith.

Fel llawer o'n planhigion brodorol, maen nhw'n ffynhonnell wych o neithdar ar gyfer cacwn, gwyfynod a Chacwn Mêl, ond efallai nad dod o hyd i wenynen y tu mewn i'w chwpan blodeuog dwfn yw eu hunig bigiad yn y gynffon. Yn farwol wenwynig, gall llyncu unrhyw rannau o'r planhigyn arwain at gyfog, cur pen a dolur rhydd, neu hyd yn oed problemau gyda'r galon a'r arennau.

WildNet - Richard Burkmar

De a Gorllewin Cymru

 Badger neu Mochyn Daear 

Moh-chin Day-arr

Mae’r mis hwn yn amser gwych o’r flwyddyn i wylio moch daear, symbol mudiad yr Ymddiriedolaethau Natur. Yn cael eu hadnabod fel Mochyn Daear yn Gymraeg sy'n cyfieithu i 'earth pig' yn Saesneg, mae'r nosweithiau ysgafn hyn o haf yn gyfle da i weld cenawon yn chwarae ac yn archwilio eu hamgylchoedd. Cofiwch, os ewch allan i wylio moch daear gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw sŵn i’r lleiaf posibl, peidiwch â defnyddio fflach lampau neu ffotograffiaeth fflach, ac eisteddwch fel bod y gwynt yn chwythu o’r ddaear tuag atoch, rhag tarfu arnynt!

Maesyfed

Kingfisher neu Glas y Dorlan

Gl-aah-ss uh Door-lan

Mae’r enw Cymraeg ar las y dorlan yn trosi i ‘the blue of the riverbank’. Mae'r aderyn hardd hwn yn hawdd ei adnabod ar hyd afonydd a nentydd diolch i'w liwiau copr glas llachar a metelaidd. Mae Ebrill tan Awst yn amser gwych i weld glas y dorlan wrth iddynt ddechrau cloddio eu nythod ar lan yr afon a chlwydo'n dawel ar ganghennau crog isel dros y dŵr i blymio am bysgod. Mae gan y gwrywod big cwbl ddu, tra bod gan fenywod ddarn oren-goch yn y gwaelod.

Mae chwarter y rhywogaethau adar yng Nghymru bellach ar y Rhestr Goch, sy'n golygu eu bod yn prinhau ac angen cymorth cadwraeth. Fodd bynnag, mae Glas y Dorlan ymhlith y rhywogaethau sydd wedi symud i’r Rhestr Werdd, gan roi gobaith mawr ei angen y gall pethau newid er gwell o hyd!

Ewch ar daith i Warchodfa Natur Gilfach i gael y cyfle i weld yr aderyn trawiadol hwn ar hyd Afon Marteg, un o lednentydd yr Afon Gwy!

A kingfisher plunges down towards the water, its bright turquoise and orange colours glowing in the sunlight

Kingfisher © Malcolm Brown

Gogledd Cymru

Cormorant neu Mulfran

Meel-vran

Does dim ond un enw Cymraeg ar gyfer y Cormorant, a dim hyd yn oed dau …. ond pedwar! Un enw yw ‘Mulfran’, sy’n trosi’n ôl i’r Saesneg fel y ‘donkey crow’ ac yn cyfeirio at gri berfeddol yr aderyn. Ond dyma ein pedwerydd hoff enw Cymraeg ar y mulfrain. ‘Bilidowcar’ (hefyd teitl rhaglen deledu Cymraeg i blant yn y 70au a’r 80au) a ddefnyddir amlaf o hyd. Mae dau enw lleol arall yn dangos hoffter tebyg at aderyn sy'n amlwg yn gymeriad lleol: 'Wil Wal Waliog' a'r lluosog 'hen lanciau Llandudno' a all gysylltu ag un o gytrefi mulfrain mwyaf Cymru, ar glogwyni ein Gwarchodfa Natur Rhiwledyn, ar Drwyn y Fuwch yn Llandudno. Mae’r enw yn creu delwedd o hen fechgyn yn loetran o amgylch traethau’r dref, yn sychu eu hadenydd rhwng anturiaethau hallt.

Mae gan y DU niferoedd gaeafu o fulfrain o bwysigrwydd rhyngwladol. Maen nhw'n bwydo ar bysgod, y maen nhw'n eu dal gyda'u biliau hir, bachyn, wrth nofio o dan y dŵr. Mae mulfrain yn nythu ar glogwyni isel o amgylch yr arfordiroedd, neu mewn cytrefi mewn coed ar lynnoedd a phyllau graean dan ddŵr. Yn aml, gellir gweld mulfrain yn clwydo ar graig neu glawdd gyda'u hadenydd wedi'u dal allan. Yn y safiad hwn, gallant sychu eu plu, nad ydynt yn dal dŵr.

Ewch ar daith i’n Gwarchodfa Natur Rhiwledyn i gael golygfeydd gwych o’r adar godidog hyn.

Cormorant Credit - Bertie Gregory/2020VISION

Cormorant Credit - Bertie Gregory/2020VISION

Ymddiriedolaethau Natur Cymru

Lesser Weever Fish neu Diawl Dan Draed

Dee-owl Dan Dried

Yn adnabyddus i lawer sy'n byw ger y môr, mae gan y Lesser Weever fish bigiad cryf ar ben ei gorff sy'n arwain at ei enw Cymraeg 'Diawl Dan Draed' sy'n trosi'n ôl i'r Saesneg fel Devil Under Foot! Mae'r pysgodyn rhyfeddol hwn yn claddu ei hun yn y tywod gan aros am ysglyfaeth i ddod heibio fel y gall ymosod yn llechwraidd. Gan gyrraedd hyd at 15cm o hyd, mae’n gyffredin o amgylch glannau’r DU a dim ond pan fydd yn teimlo dan fygythiad y mae’n codi ei bigiad dorsal, felly cymryd rhwydd hynt wrth badlo a gwisgo esgidiau traeth yw’r ffordd orau o osgoi pigiad gan y creadur bach rhyfeddol hwn.

WildNet - Amy Lewis