
30 Diwrnod Gwyllt: Her natur fwyaf y DU!
Byddwch yn barod i gofleidio byd natur mewn ffordd gwbl newydd! 30 Diwrnod Gwyllt yw her flynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur, lle rydyn ni’n gofyn i chi ymgymryd â gweithgareddau gwyllt drwy gydol mis Mehefin.
O blannu blodau gwyllt ar gyfer gwenyn, i wrando ar gân yr adar, mae yna ffyrdd diddiwedd o dreulio eich mis gwyllt! Os ydych chi'n cwblhau gweithgaredd y dydd, neu ddau mewn wythnos, fe fyddwch chi'n cysylltu â bywyd gwyllt, yn rhoi hwb i'ch lles ac yn cael effaith gadarnhaol ar y blaned ar yr un pryd.
Cofrestrwch heddiw i dderbyn eich nwyddau AM DDIM yn y post a derbyn e-byst dyddiol yn llawn ffeithiau hynod ddiddorol a gweithgareddau ysbrydoledig i'ch helpu chi i gyflawni eich her wyllt.
Cofrestrwch ar gyfer 30 Diwrnod Gwyllt nawr
Barod i gofrestru? Rydyn ni'n gyffrous am eich cael chi’n rhan o’r her! Dim ond nifer cyfyngedig o nwyddau post sydd ar gael, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cofrestru’n gynnar.
Os ydych chi'n cymryd rhan gyda phlant, fel rhan o deulu, ysgol neu grŵp, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dewis yr opsiwn plant.
Sut byddwch chi'n cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt?
Mwy am 30 Diwrnod Gwyllt
Mae 30 Diwrnod Gwyllt yn her mis o hyd, am ddim, sydd wedi’i dylunio i ysbrydoli pobl o bob oed i gysylltu â byd natur yn ystod mis Mehefin. O wylio adar yn eich gardd i archwilio gwarchodfa natur leol, mae pob gweithgaredd - mawr neu fach, dyddiol neu wythnosol - yn eich helpu chi i ymgysylltu â byd natur.
Cwestiynau Cyffredin
Pa opsiwn ddylwn i ei ddewis pan fyddaf yn cofrestru a beth sydd wedi'i gynnwys?
Eleni rydyn ni wedi symleiddio’r dewisiadau a chreu gwahaniaethau clir rhwng adnoddau i blant ac oedolion. Ar ôl cynnal arolwg gyda llawer o’r bobl sydd wedi cymryd rhan yn 30 Diwrnod Gwyllt o’r blaen, fe wnaethon ni wrando ar eich adborth chi a chreu un her 30 Diwrnod Gwyllt sy’n berffaith i’r rhai sy’n cymryd rhan gyda phlant, a fersiwn i ‘oedolion’ i’r rhai sy’n cymryd rhan heb blant.
Mae adnoddau post y plant yn cynnwys dyluniad sy’n addas i blant ac yn cynnwys hadau perlysiau, poster gyda ffeithiau bywyd gwyllt am infertebrata a thaflen adnabod, sticeri a chanllaw i rieni / gwarcheidwaid / athrawon ar sut i fod yn wyllt gyda llawer o syniadau am weithgareddau.
Bydd yr ‘oedolion’ sy’n cymryd rhan heb blant yn derbyn cerdyn cyfarch drwy’r post, a hefyd pecyn o hadau perlysiau a cherdyn post gyda darn i’w dorri oddi arno i’w anfon at ffrind i’w annog i gymryd rhan gyda chi!
Bydd pawb hefyd yn cael mynediad at adnoddau digidol, gan gynnwys:
- E-byst dyddiol gyda syniadau ac ysbrydoliaeth
- Canllawiau gweithgarwch
- Taflenni adnabod
- Bathodynnau cwblhau wythnosol i'w defnyddio ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol
- Tystysgrif cwblhau
- Cynlluniau gwersi (ar gyfer addysgwyr)
Ydi ysgolion, busnesau a chartrefi gofal yn cael cymryd rhan?
Roedd y llynedd yn nodi 10fed pen-blwydd 30 Diwrnod Gwyllt, felly fe wnaethon ni roi amser i siarad gyda’r cyfranogwyr am yr hyn oedden nhw’n ei hoffi am 30 Diwrnod Gwyllt a’r hyn roedden nhw’n meddwl y gellid ei wella. O ganlyniad i'r adborth gawsom ni, fe aethom ati i symleiddio'r opsiynau cofrestru.
Os ydych chi’n cymryd rhan gydag ysgol, grŵp gweithgaredd plant fel Sgowtiaid neu grŵp addysg gartref, dewiswch yr opsiwn ‘cymryd rhan gyda phlant’. Byddwch yn dal i gael mynediad at gynlluniau gwersi 30 Diwrnod Gwyllt pan fyddwch yn cofrestru, ynghyd â'r gyfres lawn o adnoddau digidol.
Os ydych chi’n cymryd rhan gyda chartref gofal neu fusnes, rydyn ni’n argymell dewis yr opsiwn ‘cymryd rhan heb blant’. Byddwch yn cael mynediad i ystod eang o adnoddau digidol a syniadau drwy e-bost, a bydd posib addasu’r rhain i weddu i'ch anghenion.
Byddaf yn cymryd rhan gyda phobl ifanc yn eu harddegau. Pa opsiwn ddylwn i ei ddewis?
Chi sydd i ddewis! Efallai y bydd yr awgrymiadau dylunio a gweithgarwch ar gyfer yr opsiwn ‘oedolion’ yn teimlo’n fwy priodol, yn dibynnu ar oedran eich pobl ifanc yn eu harddegau, felly byddem yn argymell hynny. Fodd bynnag, mae croeso i chi archebu adnoddau'r plant os ydych chi'n teimlo y byddai'r rhain yn fwy priodol i'ch teulu. Cofiwch edrych ar ein holl adnoddau digidol hefyd!
A fydd bathodynnau defnydd ar gael eleni?
Bydd! Bydd y bathodynnau defnydd i’w casglu gan Pawprint Family yn ôl eleni. Gallwch eu harchebu ar eu gwefan.
A big thanks to the players of the People's Postcode Lottery, who have helped make the #30DaysWild challenge possible.
