Pryf copyn tŷ cawraidd

Giant House Spider

Giant House Spider ©Malcolm Storey

Pryf copyn tŷ cawraidd

Enw gwyddonol: Eratigena atrica
Mae’r pryf copyn tŷ cawraidd yn un o'n infertebrata cyflymaf ni, yn rhedeg hyd at hanner metr yr eiliad. Mae'r pryf copyn mawr, brown yma’n troelli gwe sy'n debyg i gynfasau ac yn ymddangos yng nghorneli tywyll tai, yn enwedig yn yr hydref.

Species information

Ystadegau

Body length: up to 1.6cm
Leg span: up to 7.5cm

Statws cadwraethol

Common.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Mae’r pryf copyn tŷ cawraidd yn gefnder mwy i'r pryf copyn tŷ (Tegenaria domestica), a gellir ei ddarganfod yn byw y tu ôl i'r lle tân, o dan y soffa, neu yn y bath. Mae pryfed cop tŷ cawraidd yn arbennig o gyffredin yn yr hydref pan fydd y gwrywod allan yn chwilio am fenywod. Mae'r gwrywod yn aros gyda'r benywod o'u dewis am rai wythnosau, gan baru sawl gwaith nes byddant yn marw yn y pen draw, a bryd hynny cânt eu bwyta gan eu benyw. Mae pryfed cop tŷ cawraidd yn troelli gwe fel cynfasau ar draws corneli sydd wedi'u hesgeuluso o'r ystafell ac yn aros gerllaw i bryfed diarwybod gael eu dal; maent yn fwyaf prysur yn ystod y nos.

Sut i'w hadnabod

Mae’r pryf copyn tŷ cawraidd yn un o nifer o rywogaethau tebyg iawn o bryfed cop tŷ. Fel grŵp, mae eu coesau hir, eu cyrff tywyll blewog a'u hoffter o dai ac adeiladau yn eu gwneud yn hawdd eu hadnabod.

Dosbarthiad

Widespread.

Roeddech chi yn gwybod?

Gall pryfed cop tŷ benywaidd fyw am nifer o flynyddoedd, a gall y gwrywod a’r benywod oroesi am fisoedd heb fwyta nac yfed.