Cynffon twrci

Turkeytail

Turkeytail ©Les Binns

Cynffon twrci

Enw gwyddonol: Trametes versicolor
Mae'r cynffon twrci yn ffwng ysgwydd lliwgar iawn sy'n tyfu drwy gydol y flwyddyn, ond sydd ar ei orau yn yr hydref. Mae posib gweld ei gapiau crwn yn tyfu mewn haenau ar goed a phren marw.

Species information

Ystadegau

Cap diameter: 4-10cm

Statws cadwraethol

Common.

Pryd i'w gweld

Ionawr i Rhagfyr

Ynghylch

Mae'r cynffon twrci yn ffwng ysgwydd bychan, gwydn sy'n tyfu mewn haenau ar bren marw - pren caled yn bennaf, fel ffawydd neu dderw. Mae'n gyffredin iawn a gellir ei ganfod ledled y DU ar foncyffion a changhennau sy'n pydru. Mae ffyngau yn perthyn i'w teyrnas eu hunain ac yn cael eu maethynnau a'u hegni o ddeunydd organig, yn hytrach na ffotosynthesis fel planhigion. Yn aml, dim ond y cyrff ffrwytho, neu'r 'madarch', sy'n weladwy i ni, yn deillio o rwydwaith anweledig o ffilamentau bach o'r enw 'hyffae'. Mae'r cyrff ffrwytho hyn yn cynhyrchu sborau ar gyfer atgenhedlu, er gall ffyngau atgenhedlu'n anrhywiol hefyd drwy ddarnio.

Sut i'w hadnabod

Mae'r cynffon twrci yn ffwng ysgwydd sy'n ffurfio capiau hanner cylch o amgylch boncyffion coed. Mae'r capiau'n denau ac yn wydn, gyda chylchoedd clir, melfedaidd, consentrig o liw. Mae’r lliwiau’n gymysgeddau amrywiol o frown, melyn, llwyd, porffor, gwyrdd a du, ond mae'r ymyl allanol bob amser yn olau - naill ai hufen neu wyn. Mae'r capiau wedi'u haenu gyda'i gilydd yn aml, gan ffurfio haenau.

Dosbarthiad

Widespread.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae'r cynffon twrci yn ffwng lliwgar iawn ac roedd unwaith yn boblogaidd fel addurn bwrdd; ar un adeg, roedd yn cael ei ddefnyddio i addurno hetiau hyd yn oed!

Sut y gall bobl helpu

Mae ffyngau'n chwarae rhan bwysig yn ein hecosystemau ni, gan helpu i ailgylchu maethynnau o ddeunydd organig marw neu sy'n pydru, a darparu bwyd a lloches i wahanol anifeiliaid. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn rheoli llawer o warchodfeydd natur er budd pob math o fywyd gwyllt, gan gynnwys ffyngau: gallwch helpu drwy gefnogi eich Ymddiriedolaeth leol a dod yn aelod. Mae ein gerddi ni hefyd yn adnodd hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, gan ddarparu coridorau o ofod gwyrdd rhwng cefn gwlad agored. Ceisiwch adael pentyrrau o foncyffion a phren marw yn eich gardd i helpu ffyngau a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt. I gael gwybod mwy am ddenu bywyd gwyllt i'ch gardd, ewch i'n gwefan Gwyllt Am Erddi: menter ar y cyd gyda'r RHS.