Amanita’r gwybed

Fly Agaric

Fly agaric ©Mike Snelle

Fly agaric

Fly agaric ©Ben Hall/2020VISION

Amanita’r gwybed

Enw gwyddonol: Amanita muscaria
Y caws llyffant clasurol welwch chi mewn stori dylwyth teg ac mae’r ffwng coch a gwyn yma i'w ganfod yn aml o dan goed bedw yn yr hydref.

Species information

Ystadegau

Cap diameter: 8-20cm
Stem height: 8-18cm

Statws cadwraethol

Common

Pryd i'w gweld

Awst i Dachwedd

Ynghylch

Mae'n debyg mai amanita’r gwybed yw ein rhywogaeth hawsaf ei hadnabod o ffwng, gyda chap coch nodedig a choesyn gwyn y fadarchen yn ymddangos mewn straeon di-ri, ar raglenni teledu a hyd yn oed mewn gemau fideo! Mae amanita’r gwybed i'w ganfod mewn coetiroedd a pharciau ac ar rostiroedd sydd â choed gwasgaredig, gan dyfu yn nodweddiadol o dan goed bedw neu binwydd a sbriws. Mae'r cyrff ffrwytho lliwgar i'w gweld fel rheol rhwng diwedd yr haf a dechrau'r gaeaf.

Fel y rhan fwyaf o ffyngau, dim ond y cyrff ffrwytho, neu'r madarch, yw'r rhannau welwn ni. Mae'r rhain yn tyfu o rwydwaith anweledig o ffilamentau bach iawn o'r enw hyffae, sydd gyda'i gilydd yn ffurfio strwythur o’r enw myseliwm. Mae'r cyrff ffrwytho’n cynhyrchu sborau ar gyfer atgenhedlu, er gall ffyngau atgenhedlu'n anrhywiol hefyd drwy ddarnio. Mae myseliwm amanita’r gwybed yn ffurfio perthynas symbiotig gyda'r coed o'i gwmpas yn aml, gan lapio o amgylch y gwreiddiau a rhoi maethynnau sydd wedi’u tynnu o'r pridd iddynt. Am hynny, mae'r ffwng yn derbyn siwgrau sy’n cael eu cynhyrchu gan y coed.

Mae amanita’r gwybed yn wenwynig ac ni ddylid eu bwyta. Mae’r adroddiadau am farwolaethau yn brin, ond mae eu treulio yn achosi crampiau yn y stumog yn aml, a rhithweledigaethau.

Sut i'w hadnabod

Mae gan y madarch nodedig gap coch, naill ai'n fflat neu'n grwn, gyda smotiau neu ddafadennau gwyn ar wasgar yn aml, a choesyn gwyn. Nid yw’r tagellau, o dan y cap, yn cyffwrdd y coesyn.

Dosbarthiad

Widespread

Roeddech chi yn gwybod?

Er ei fod yn wenwynig i ni, mae rhai anifeiliaid yn bwyta amanita’r gwybed. Mae’r rhain yn cynnwys gwiwerod coch a gwlithod, yn ogystal ag arbenigwyr fel gwybed ffwng – mae’r pryfed hyn yn dodwy wyau ar y ffwng, a phan fyddant yn deor mae’r larfa’n bwydo ar y corff ffrwytho.

Sut y gall bobl helpu

Mae ffyngau'n chwarae rhan bwysig yn ein hecosystemau ni, gan helpu i ailgylchu maethynnau o ddeunydd organig marw neu sy'n pydru, a darparu bwyd a lloches i wahanol anifeiliaid. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn rheoli llawer o warchodfeydd natur er budd pob math o fywyd gwyllt, gan gynnwys ffyngau: gallwch helpu drwy gefnogi eich Ymddiriedolaeth leol a dod yn aelod. Mae ein gerddi ni hefyd yn adnodd hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, gan ddarparu coridorau o ofod gwyrdd rhwng cefn gwlad agored. Ceisiwch adael pentyrrau o foncyffion a phren marw yn eich gardd i helpu ffyngau a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt.

Gwyliwch

Steve Downer