Ysgwydd felen

Chicken of the Woods

Chicken of the Woods ©Steve Waterhouse

Ysgwydd felen

Enw gwyddonol: Laetiporus sulphureus
Mae’r ysgwydd felen yn ffwng ysgwydd lliw melyn sylffwr ar goed mewn coedwigoedd, parciau a gerddi. Mae i'w ganfod yn aml mewn clystyrau haenog ar dderw, ond mae hefyd yn hoffi ffawydd, castanwydd, ceirios a hyd yn oed yw.

Species information

Ystadegau

Cap diameter: 10-40cm

Statws cadwraethol

Common.

Pryd i'w gweld

Mehefin i Dachwedd

Ynghylch

Mae’r ysgwydd felen yn ffwng ysgwydd hawdd ei weld oherwydd ei liw melyn sylffwr nodedig; mewn gwirionedd, mae hefyd yn cael ei alw yn 'polypor sylffwr'. Mae'n tyfu'n uchel ar foncyffion coed collddail sy'n sefyll, fel derw. Mae ffyngau yn perthyn i'w teyrnas eu hunain ac yn cael eu maethynnau a'u hegni o ddeunydd organig, yn hytrach na ffotosynthesis fel planhigion. Yn aml, dim ond y cyrff ffrwytho, neu'r 'madarch', sy'n weladwy i ni, yn deillio o rwydwaith anweledig o ffilamentau bach o'r enw 'hyffae'. Mae'r cyrff ffrwytho hyn yn cynhyrchu sborau ar gyfer atgenhedlu, er gall ffyngau atgenhedlu'n anrhywiol hefyd drwy ddarnio.

Sut i'w hadnabod

Mae’r ysgwydd felen yn ffwng melyn sylffwr llachar sy'n cynnwys nifer o ysgwyddau trwchus sy'n gorgyffwrdd. Mae'r ysgwyddau unigol yn feddal ac yn sbyngaidd pan maent yn ifanc ac yn rhyddhau hylif melyn os cânt eu gwasgu. Maent yn siâp gwyntyll gydag ymyl tonnog. Mae'r arwyneb uchaf yn felfedaidd ac yn felyn oren gydag ymyl parth, a’r ochr isaf yn felyn ac wedi'i gorchuddio gyda mandyllau.

Dosbarthiad

Widespread.

Roeddech chi yn gwybod?

Mae’r ysgwydd felen yn cael ei henw yn Saesneg, ‘chicken of the woods’, o wead ei chnawd, y dywedir ei fod yn debyg i gyw iâr wedi'i goginio.

Sut y gall bobl helpu

Mae ffyngau'n chwarae rhan bwysig yn ein hecosystemau ni, gan helpu i ailgylchu maethynnau o ddeunydd organig marw neu sy'n pydru, a darparu bwyd a lloches i wahanol anifeiliaid. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn rheoli llawer o warchodfeydd natur er budd pob math o fywyd gwyllt, gan gynnwys ffyngau: gallwch helpu drwy gefnogi eich Ymddiriedolaeth leol a dod yn aelod. Mae ein gerddi ni hefyd yn adnodd hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, gan ddarparu coridorau o ofod gwyrdd rhwng cefn gwlad agored. Ceisiwch adael pentyrrau o foncyffion a phren marw yn eich gardd i helpu ffyngau a'r bywyd gwyllt sy'n dibynnu arnynt. I gael gwybod mwy am ddenu bywyd gwyllt i'ch gardd, ewch i'n gwefan Gwyllt Am Erddi: menter ar y cyd gyda'r RHS.

Gwyliwch

Chicken of the woods with the FUNgi Guy