Hwb Cymunedol

Hwb Cymunedol

Eich helpu chi i helpu byd natur lle rydych chi'n byw

Awydd gwneud eich cymdogaeth ychydig yn wyrddach ac ychydig yn wylltach? Rydych chi yn y lle iawn! Rydyn ni mewn argyfwng natur. Mae hyn yn golygu, heb ein help ni, y byddwn ni’n colli mwy a mwy o fywyd gwyllt – anifeiliaid, planhigion, adar a phryfed. Mae'r Hwb Cymunedol yn cynnig cyngor i chi ar sut i helpu byd natur wrth gysylltu â'ch cymuned.

Sut i ddefnyddio'r Hwb Cymunedol

Mae'r Hwb Cymunedol yn lle i unrhyw un sydd eisiau gwneud rhywbeth dros fyd natur yn eu cymdogaeth. Mae'r adnoddau welwch chi yma’n cynnig ysbrydoliaeth, syniadau a chyngor ar gyfer trefnu prosiect cymunedol, o arian a chyllido i weithio gyda phobl a dechrau eich grŵp eich hun.

Cliciwch ar 'Hwb Cymunedol' ar ochr chwith uchaf y sgrin, o dan logo'r Ymddiriedolaethau Natur, i ddychwelyd i'r hafan yma. Cliciwch ar 'Archwilio’r Canllawiau' i weld rhestr lawn o ganllawiau y gallwch chi eu didoli yn ôl pwnc. Gallwch lawrlwytho fersiwn PDF o unrhyw ganllaw os ydych chi eisiau argraffu unrhyw beth i bobl heb gyfleusterau digidol.

Cliciwch ar 'Archwilio’r Straeon' i weld rhestr lawn o straeon ysbrydoledig. Gallwch ddidoli’r canlyniadau yn ôl y math o brosiect a'i leoliad.

Beth yw Natur Drws Nesaf?

Wrth archwilio'r Hwb Cymunedol, efallai y byddwch chi’n dod ar draws y geiriau Natur Drws Nesaf. Mae hynny oherwydd bod yr adnodd yma’n gynnyrch uniongyrchol y prosiect Natur Drws Nesaf, menter 2 flynedd oedd yn gosod y gymuned wrth galon yr hyn rydyn ni’n ei wneud yn yr Ymddiriedolaethau Natur.

Roedd Natur Drws Nesaf yn bosibl diolch i gyllid o £5 miliwn o Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, a roddodd y cyngor a'r gefnogaeth oedd eu hangen ar bobl i helpu byd natur ar garreg eu drws. Cefnogwyd miloedd o grwpiau ledled y DU gan Natur Drws Nesaf ac mae gwaddol y cynllun yn parhau. Mae'r Hwb Cymunedol yn cofnodi straeon llawer o'r grwpiau hyn ac yn cynnig cyngor fel bod eraill yn gallu dilyn eu hesiampl.

Am grynodeb o Natur Drws Nesaf ledled y DU, edrychwch ar y fideos a'r straeon ar ein tudalen we ryngweithiol.

Dod o hyd i'ch Ymddiriedolaeth Natur leol

Os na allwch chi ddod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano yn yr Hwb Cymunedol neu os yw'n well gennych chi ofyn cwestiwn penodol dros y ffôn neu ar e-bost, gallwch ddod o hyd i'ch Ymddiriedolaeth Natur leol isod. Mae gan lawer o Ymddiriedolaethau aelod o staff neu dîm penodol i gefnogi unigolion a grwpiau yn y gymuned.

Canllawiau Arbennig

Mae'r canllawiau yma’n dweud wrthych chi sut i ddechrau grŵp, sut i ddod o hyd i gyllid a phopeth sydd angen i chi ei wybod am yswiriant, banciau a mwy.

Straeon Arbennig

Mae’r straeon yn llawn syniadau i ddangos i chi sut gall cymunedau bob dydd helpu byd natur a bywyd gwyllt ledled y DU. Fe allwch chi rannu eich stori yma hefyd!

Chwilio am gyngor ymarferol?

Os ydych chi'n chwilio am bethau syml y gallwch chi eu gwneud i helpu bywyd gwyllt gartref, mae gan yr Ymddiriedolaethau Natur lawer o wybodaeth am sut i wneud pethau fel adeiladu bocs adar, cloddio pwll, hau blodau gwyllt a llawer mwy.

Helpu bywyd gwyllt gartref

Man sitting by colourful plants

(c) The Wildlife Trusts

Ydych chi wedi bod yn rhan o brosiect natur cymunedol?

Os ydych chi eisiau dweud eich stori wrthym ni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi! Bydd eich profiadau'n cael eu rhannu yma yn yr Hwb Cymunedol ac yn ysbrydoli pobl eraill i weithredu yn eu cymdogaethau eu hunain.

Rhannwch eich stori
Nextdoor Nature Partnership: National Lottery Heritage Fund, The Queen's Platinum Jubilee and The Wildlife Trusts logo

Mae’r Hwb Cymunedol yn gynnyrch uniongyrchol prosiect Natur Drws Nesaf, menter 2 flynedd a wnaed yn bosibl gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol. Daeth Natur Drws Nesaf i ben yn 2024 ond mae ei etifeddiaeth yn parhau a bydd yn parhau i ddod â chymunedau at ei gilydd i helpu natur i ffynnu lle maent yn byw ac yn gweithio!

Ac eithrio lle nodir yn wahanol, a hefyd ac eithrio lluniau a logos cwmnïau a sefydliadau, mae'r gwaith yma’n cael ei rannu o dan Drwydded Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0)   

Nodwch fel: “Natur Drws Nesaf (2022-2024) gan Yr Ymddiriedolaethau Natur wedi’i gyllido gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a'i drwyddedu o dan CC BY 40