Ein hanes

A black and white image of Rothschild walking through a field

Woodwalton Fen 1935

Ein Hanes

Sut dechreuodd y cyfan

Ym mis Mai 1912, fis ar ôl i'r Titanic suddo, cynhaliodd y banciwr a'r naturiaethwr arbenigol Charles Rothschild gyfarfod yn y Natural History Museum yn Llundain i drafod ei syniad am sefydliad newydd i achub y mannau gorau ar gyfer bywyd gwyllt ar Ynysoedd Prydain. Arweiniodd y cyfarfod hwn at ffurfio'r Gymdeithas er Hybu Gwarchodfeydd Natur. Gweledigaeth Rothschild oedd canfod a sicrhau gwarchodaeth i safleoedd bywyd gwyllt pwysicaf ein hynysoedd. Roedd ei weledigaeth yn un radical a arweiniodd at gadwraeth natur fel rydym yn ei hadnabod heddiw. 

Gwyliwch ffilm am ein hanes

Charles Rothschild

A black and white image of Rothschild sitting down

Roedd Nathaniel Charles Rothschild (1877-1923) yn rhan o ymerodraeth fancio ei deulu ac yn fanciwr da yn ôl pob tebyg.  Ond ei wir angerdd oedd bywyd gwyllt, yn enwedig pryfed, ac roedd yn pryderu'n fawr am golli ei ffeniau hoff. Y sefydliad a sylfaenwyd ganddo yn 1912 oedd dechrau'r Ymddiriedolaethau Natur. Yn ddyn o flaen ei amser, galwodd am ddiogelu cynefinoedd cyfan yn ogystal â rhywogaethau unigol ac roedd yn gwybod bod rhaid i bolisi cadwraeth fod yn seiliedig ar wyddoniaeth gadarn.

Chwaraeodd merch Rothschild, Miriam, a oedd hefyd yn wyddonydd dawnus, ran allweddol gyda'r Gymdeithas yn ddiweddarach hefyd. Yn anffodus, bu farw Rothschild yn 1923, ac felly ni welodd erioed Ddeddf Seneddol 1949 a oedd yn benllanw ei waith a'i weledigaeth. Yn dilyn ei farwolaeth, ceisiodd y Gymdeithas sicrhau gwarchodaeth y Llywodraeth ar gyfer safleoedd ledled y DU yr oeddent yn eu hystyried yn 'deilwng o'u cadw', ond ni ddaeth cadwraeth natur yn rhan o’r gyfraith tan y 1940au, pan grëwyd y Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad yn 1949. O’r diwedd, roedd gweledigaeth wreiddiol Rothschild o ddiogelu mannau pwysicaf Prydain ar gyfer bywyd gwyllt yn cael ei gwireddu. Sefydlodd hyn asiantaeth gadwraeth gyntaf y Llywodraeth (y Nature Conservancy Council), a'r Parciau Cenedlaethol cyntaf a safleoedd bywyd gwyllt dan warchodaeth (Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig - SoDdGAoedd)

Mae etifeddiaeth Rothschild yn fyw heddiw ar ffurf mudiad pwerus yr Ymddiriedolaethau Natur ar gyfer pob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Yr Ymddiriedolaethau Natur