Tirweddau Byw

View over agricultural upland landscape on edge of Pumlumon Living Landscape project, Cambrian mountains, Wales.

View over agricultural upland landscape on edge of Pumlumon Living Landscape project, Cambrian mountains, Wales - Peter Cairns/2020VISION

Tirweddau Byw

11 Cynlluniau Tirweddau Byw ledled Cymru
100 Cynlluniau Tirweddau Byw ledled y DU
1.5 miliwn hectar ledled y DU
Dychmygwch ddôl o flodau gwyllt wedi’i gwahanu oddi wrth y ddôl o flodau gwyllt agosaf gan 10 milltir, neu goetir wedi’i wahanu oddi wrth goetiroedd eraill gan ffyrdd a datblygiadau. Beth sy'n digwydd pan fydd angen i'r rhywogaethau ynddynt symud i ddod o hyd i gynefin neu ffrindiau newydd?

Ein Gweledigaeth

Dylai pobl fod yn agos at natur a dylai tir a moroedd fod yn gyfoethog mewn bywyd gwyllt. Mae'r gwarchodfeydd natur rydym wedi'u hachub yn llochesi hanfodol i fywyd gwyllt ond nid ydynt yn ddigon ar eu pen eu hunain os yw natur i ffynnu ym mhob man. Mae angen i ni greu Tirweddau Byw lle mae cynefinoedd bywyd gwyllt yn fwy, yn cael eu rheoli'n well ac yn fwy unedig.

Yn draddodiadol, mae cadwraeth natur yng Nghymru wedi canolbwyntio ar warchod safleoedd penodol. Ond y tu allan i'r ychydig leoedd hyn, mae cynefinoedd naturiol wedi’u colli ar raddfa ddigynsail ac mae llawer o rywogaethau, cyffredin a phrin, yn wynebu dirywiad hirdymor. Wrth i'r galw am dir ar gyfer amaethyddiaeth, tai a datblygu gynyddu, mae'r gofod i fywyd gwyllt a phrosesau naturiol wedi lleihau. Mae hyn wedi arwain at werddonau bach o dir gwarchodedig sy'n llawn bywyd gwyllt, fel gwarchodfeydd natur, yn cael eu hamgylchynu gan dirwedd sydd fel arall yn anghroesawus i lawer o blanhigion ac anifeiliaid.

Yr ardaloedd ynysig hyn o dir gwarchodedig yw'r isafswm sylfaenol bellach sydd arnom ei angen i warchod natur ar gyfer y dyfodol. Mae sylfaenwyr llawer o Ymddiriedolaethau Natur wedi ymladd i achub y lleoedd arbennig hyn - coedwigoedd, corsydd, dolydd, rhostir - ond mesurau brys oedd y rhain, a roddwyd ar waith yn erbyn llanw o ddinistrio eang ar ein cynefinoedd naturiol; llochesi y gobeithid bob amser y byddai natur yn ailymddangos ynddynt pan oedd yr amser yn iawn.

River, underwater split level view

Jack Perks

Meddwl ar raddfa fawr

 

Er mwyn cyflawni ein gweledigaeth o Dirwedd Fyw, lle mae bywyd gwyllt yn ffynnu ac yn gwella o ddirywiad yn y gorffennol, mae angen i ni feddwl ar raddfa fwy ac yn y tymor hwy ac adeiladu ar y sylfeini a osodwyd gan waith cenedlaethau'r gorffennol o gadwraethwyr. Mae arnom angen dalgylchoedd afonydd cyfan a rhannau cyfan o ucheldir gydag amcanion uchelgeisiol ar raddfa tirwedd a allai gymryd degawdau lawer i'w cyflawni.

Mae'r Ymddiriedolaethau Natur wedi dechrau'r broses hon eisoes ac, yn aml drwy ein cynlluniau Tirwedd Fyw ar raddfa fawr, rydym yn gweithio gyda phobl a chymunedau i wneud y canlynol:

Adfer blociau darniog ac wedi’u difrodi o gynefin

Ail-greu cynefinoedd a choridorau naturiol yn y dirwedd

Ailgysylltu’r cynefinoedd hyn, gan eu cysylltu â gofod gwyrdd yn ein dinasoedd, trefi a phentrefi ac ailadeiladu natur yn ein canol fel ein bod yn gallu elwa i gyd o’r gwasanaethau hanfodol mae’n eu darparu.

Mewn Tirwedd Fyw...

  1. Mae bywyd gwyllt yn gyffredin ac yn ffynnu, yng nghefn gwlad ac yn ein trefi a'n dinasoedd
  2. Mae tirweddau ac ecosystemau cyfan wedi’u hadfer
  3. Mae bywyd gwyllt yn gallu symud yn rhydd drwy'r tirweddau hyn ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd
  4. Mae cymunedau'n elwa'n llawn o'r gwasanaethau sylfaenol mae ecosystemau iach yn eu darparu
  5. Mae gan bawb fynediad i fannau gwyrdd sy'n llawn bywyd gwyllt ac yn gallu mwynhau a chael eu hysbrydoli gan y byd naturiol.
Ynghyd â phartneriaid lleol a chenedlaethol, gallwn greu Tirweddau Byw sy'n cefnogi, darparu, ysbrydoli ac adnewyddu.
Two seals basking on rocks

David Hopley

Nid yw ein gwaith yn stopio ar y traeth

Edrychwch ar ein gwaith Moroedd Byw!