Dyfodol o Ffermio

Clattinger Farm - Barney Wilczak

Clattinger Farm - Barney Wilczak

Dyfodol o Ffermio

Ffermio a bywyd gwyllt

Mae dros 70% o dir y DU yn cael ei ffermio mewn rhyw ffordd – felly mae sut mae’r tir hwn yn cael ei reoli yn cael effaith fawr ar fywyd gwyllt. Mae polisi amaethyddiaeth felly yn siapio ein cefn gwlad. Ers degawdau mae polisi amaethyddol wedi cael effaith dirywiol ar fywyd gwyllt a chynefinoedd naturiol, felly mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gweithio gyda ffermwyr a’r llywodraeth i newid hyn. Mae adferiad bywyd gwyllt yn y DU yn dibynnu ar bolisi ffermio sy’n galluogi ffermwyr i greu ac adfer amgylchedd naturiol ffyniannus ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd domestig.

Mae nawr neu byth

Mae amgylchedd naturiol ffyniannus yn hanfodol i ddiogelwch yr economi a lles cymdeithas, ond mae dan bwysau: mae peillwyr a chynefinoedd naturiol yn prinhau; mae carbon yn dianc o'n priddoedd blinedig ac yn hytrach na dal dŵr, mae ein priddoedd yn golchi i'n hafonydd ac yn llifo allan i'r môr.

 

Mae ein bywyd gwyllt wedi dioddef gyda dirywiad o 56% mewn bioamrywiaeth, gyda llawer o rywogaethau mewn perygl o ddiflannu.

 

Mae penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd yn gyfle unwaith mewn oes i wneud Cymru yn genedl wirioneddol gynaliadwy. Rhaid i ni ddefnyddio'r foment unigryw hon i ddatrys y problemau yr ydym wedi'u creu. Dylem fuddsoddi yn y gwaith o adfer ein tir a’n bywyd gwyllt fel y gall barhau i ddarparu’r holl bethau sydd eu hangen arnom: bwyd cynaliadwy a maethlon, cynefinoedd bywyd gwyllt, rheoli llifogydd a sychder, dŵr ac aer glân, storio carbon a lleoedd i ni i fwynhau

Wildflowers at Bonhurst Farm, Surrey Wildlife Trust -

James Adler

Sut gallwn ni gyflawni hyn?

 

Mae angen i ni roi iechyd ein hamgylchedd wrth galon ein polisi rheoli tir cynaliadwy yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu newid y system bresennol a dylunio cynllun ffermio a rheoli tir newydd sy’n seiliedig ar ganlyniadau amgylcheddol a nwyddau cyhoeddus.

Faint o fuddsoddiad cyhoeddus sydd ei angen?

Er mwyn helpu ein bywyd gwyllt a’n hamgylchedd i adfer mae angen i ni fuddsoddi yn ein tir a’n cefn gwlad, ar lefel uwch nag yr ydym ar hyn o bryd. Er mwyn aros yn llonydd a chyflawni ymrwymiadau amgylcheddol domestig a rhyngwladol presennol byddai angen i Gymru fuddsoddi £204 miliwn yn flynyddol yn ei hamgylchedd ffermio. Mae’n fuddsoddiad ymlaen llaw yn ein system cynnal bywyd, sy’n sail i’n cymdeithas a’n heconomi, ac mae’n cymharu â chyllidebau Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd ac addysg ac yn eu gwella.

Mae angen gwobrwyo ffermwyr am ddarparu buddion na allant eu gwerthu ond sydd eu hangen ar gymdeithas.

wyth budd gwych

Gan ddilyn yr egwyddorion, dylai dull newydd o reoli tir yn gynaliadwy ddod â manteision mawr i’n heconomi, cymdeithas, diwylliant a’r amgylchedd.

Elmley Marshes RSPB Reserve, Kent A view over sunlit reed-beds towards nearby farms Elmley Marshes, Kent, UK -

Andrew Parkinson/2020VISION

Mwy o gynefinoedd naturiol, mwy a gwell

Dylid gwarchod, adfer ac ehangu ein hardaloedd o gynefin naturiol sy'n weddill - mawndiroedd, coetiroedd, glaswelltiroedd, rhostiroedd a gwlypdiroedd fel eu bod yn gallu addasu a bod yn wydn.

Water vole

Tom Marshall

Bywyd gwyllt ffyniannus ym mhobman

Mae angen i ni adfer ac ehangu cynefinoedd â blaenoriaeth a gwrthdroi dirywiad rhywogaethau. Mae angen i fywyd gwyllt allu ffynnu y tu hwnt i ardaloedd gwarchodedig a gwarchodfeydd natur. Mae angen i ni greu rhwydwaith o gynefinoedd cysylltiedig, dros y DU cyfan – gan gyfuno ardaloedd llai o gynefin a gwrychoedd ag ardaloedd naturiol mwy.

Bee flying towards a purple flower

Josh Kubale

Dod a'n peillwyr yn ôl

Dylai poblogaethau peillwyr gwyllt fod yn cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn os ydym am osgoi argyfwng mewn cynhyrchu bwyd ac iechyd ecosystemau.

Worm

Priddoedd iach

Mae priddoedd iach yn hanfodol i bryfaid a rhaid adfer iechyd naturiol i'n priddoedd. Bydd angen ystod o fesurau i gyflawni hyn.

Brown Trout (Salmo trutta) in a shallow beck (small river), at night, England: Cumbria, Ennerdale valley, November -

Linda Pitkin/2020VISION

Dŵr glân

Mae angen nentydd, afonydd a gwlypdiroedd iach ar ein gwlad. Ar hyn o bryd mae ein hafonydd yn cario gormod o waddod, gormod o gemegau a lefelau uchel o faetholion o dir amaethyddol.

Bogbean / buckbean flowering in pool system, Insh Marshes, Scotland. -

Peter Cairns/2020VISION

Aer glân a lliniaru newid hinsawdd

Dylid lleihau'r defnydd o adnoddau anadnewyddadwy mewn amaethyddiaeth a lleihau allyriadau.

Beaver in water

Clare James/Cornwall Wildlife Trust

Rheoli perygl llifogydd

Dylid defnyddio atebion naturiol yn llawer ehangach i amsugno ac arafu llif y dŵr.

Child in a tunnel

Adrian Clarke

Pobl iach

Dylai mwy o bobl allu mwynhau'r byd naturiol hardd sy'n gyfoethog mewn bywyd gwyllt.

Darllen mwy

Dyma linc i'n hadroddiad 'A Future for Our Land'

Dyfodol o Ffermio