Eiriolaeth

Pied flycatcher (Ficedula hypoleuca) adult male in woodland,

Mark Hamblin/2020VISION

Rhoi llais i natur

Rhoi llais i natur

Rydym yng nghanol argyfwng hinsawdd ac argyfwng natur, ac mae cysylltiad anorfod rhwng y ddau. Mae newid yn yr hinsawdd yn sbarduno dirywiad natur, ac mae colli bywyd gwyllt a llefydd gwyllt yn ein rhoi mewn sefyllfa wan i leihau allyriadau carbon ac addasu i newid.

Ni ellir datys un heb y llall.

Dyma pam mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn galw ar y Llywodraeth, diwydiant ac awdurdodau lleol i gamu i’r adwy a gweithredu, drwy fuddsoddi yn adferiad byd natur a lliniaru newid yn yr hinsawdd.

Rydym yn gwybod o brofiad y gall adfer natur helpu i amsugno allyriadau carbon, gan gyfrannu llawer o fanteision ychwanegol. Pan maent yn iach, gall ein cynefinoedd naturiol leihau'r perygl o lifogydd, helpu i atal erydu arfordirol, gwella iechyd a lles pobl, yn ogystal â chynnal priddoedd iach, dŵr glân a'r pryfed peillio sydd eu hangen ar gyfer ein cnydau – ac felly ein cynnal ni.

Pool system on peat bog

Pool system on peat bog - Mark Hamblin/2020VISION

Atebion sy'n seiliedig ar natur i newid yn yr hinsawdd

Dysgu sut gall natur ein helpu ni i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd

Mwy o wybodaeth
Dunes

Callum Deveney

30 erbyn 30

Rydym am adfer 30% o dir a môr ar gyfer natur erbyn 2030

Wnewch chi ein helpu?

Beth rydym yn ei wneud

Heddiw mae'r pwysau ar natur yn eang a chymhleth felly rydym yn achub bywyd gwyllt a llefydd gwyllt mewn gwahanol ffyrdd. Yma rydym yn edrych ar y prif ffyrdd rydym yn gwneud hyn:

Rydym yn dylanwadu ar bolisïau ar gyfer ein tir a'n moroedd ac yn eu datblygu 

Drwy ddefnyddio ein profiad o'r hyn sy'n gweithio ar lawr gwlad i weithio ac ymgyrchu dros gyfreithiau a pholisïau sy'n helpu bywyd gwyllt ar dir ac yn y môr. Mae deddfwriaeth a pholisi sy'n helpu bywyd gwyllt yn sicrhau llawer o fanteision i bobl yn aml hefyd.

Rydym yn gofalu am 216 o warchodfeydd natur yng Nghymru

Drwy ddiogelu a rheoli cynefinoedd arbennig a bywyd gwyllt prin ac anghyffredin, gan eu hamddiffyn rhag niwed.

Rydym yn creu Tirweddau Byw

Drwy weithio gyda phartneriaid i adfer cynefinoedd dros ardaloedd mwy o dir fel coridorau afonydd.

Rydym yn diogelu bywyd gwyllt yn y môr

Drwy ymgyrchu dros ei ddiogelu, casglu data a sicrhau bod datblygiadau fel ffermydd gwynt yn gwneud y niwed lleiaf i gynefinoedd morol.

Rydym yn helpu eraill i reoli tir ar gyfer bywyd gwyllt

Drwy roi cyngor a chymorth i ffermwyr, busnesau, cynghorau lleol ac ysgolion. Mae llawer o Ymddiriedolaethau Natur yn ymwneud â gofalu am gofrestri o Safleoedd Bywyd Gwyllt Lleol - ardaloedd o dir sy'n llawn bywyd gwyllt ac sy’n cael rhywfaint o amddiffyniad drwy'r system gynllunio. Mae'r gwaith hwn yn aml mewn partneriaeth â chynghorau lleol, perchnogion tir a chanolfannau cofnodion amgylcheddol lleol.

Rydym yn achub rhywogaethau sydd mewn perygl

Drwy gynnal rhaglenni cadwraeth wedi'u targedu i helpu i achub llygod pengrwn y dŵr, gwiwerod coch, tylluanod gwynion, draenogod a bywyd gwyllt arall.

Rydym yn cynnal ymchwil

Drwy gynnal arolygon i gasglu gwybodaeth am fywyd gwyllt a chynefinoedd ac effaith ein rheolaeth gadwraeth. Nid dim ond ar dir rydym yn gwneud hyn. Rydym yn cynnal rhaglen o arolygon bywyd gwyllt arfordirol - 'Shoresearch, - ac arolygon tanddwr lle mae deifwyr yn casglu gwybodaeth am fywyd gwyllt a chynefinoedd morol i lywio cadwraeth a nodi ardaloedd o wely'r môr y dylid eu diogelu ar gyfer eu bywyd gwyllt.

Gan weithio gyda'i gilydd, gall pobl newid y byd naturiol er gwell; mae gan bawb ran i'w chwarae.
Silver-studded Blue butterfly

©Chris Gomersall/2020VISION

EIN HYMGYRCHOEDD

Gweithredu dros Bryfed

Yn y DU, mae ein poblogaethau o bryfed wedi dioddef dirywiad aruthrol, a fydd yn arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol i fywyd gwyllt a phobl.

Gweithredu!
Pumlumon Living Landscape project

Pumlumon Living Landscape project ©Peter Cairns/2020VISION

BETH RYDYM YN EI WNEUD

Tirweddau Byw

Dychmygwch ddôl o flodau gwyllt wedi’i gwahanu oddi wrth y ddôl o flodau gwyllt agosaf gan 10 milltir, neu goetir wedi’i wahanu oddi wrth goetiroedd eraill gan ffyrdd a datblygiadau. Beth sy'n digwydd pan fydd angen i'r rhywogaethau ynddynt symud i ddod o hyd i gynefin neu ffrindiau newydd?

Darganfyddwch mwy!
Bottlenose dolphin playing in Moray Firth in beautiful golden evening light

BotJohn MacPherson/2020VISION

BETH RYDYM YN EI WNEUD

Moroedd Byw

Traethau llawn plastig, pysgodfeydd ar fin dymchwel, datblygu seilwaith anghynaliadwy ac effeithiau cynyddol newid yn yr hinsawdd byd-eang.                              

Mwy o wybodaeth am beth rydym yn ei wneud i helpu
Clattinger Farm - Barney Wilczak

Clattinger Farm - Barney Wilczak

BETH RYDYM YN EI WNEUD

Dyfododol o Ffermio

Mae dros 70% o dir y DU yn cael ei ffermio mewn rhyw ffordd – felly mae sut mae’r tir hwn yn cael ei reoli yn cael effaith fawr ar fywyd gwyllt.

Darganfyddwch mwy