Peli abwyd syfrdanol yn y môr, gwarchodaeth forol newydd a gobaith i forfilod a thiwna asgell las: adolygiad morol yr Ymddiriedolaethau Natur 2023

Peli abwyd syfrdanol yn y môr, gwarchodaeth forol newydd a gobaith i forfilod a thiwna asgell las: adolygiad morol yr Ymddiriedolaethau Natur 2023

Llwyddiant gwaith morol yn cael ei danseilio gan y ffliw adar, tarfu a llygredd

Mae crynodeb blynyddol yr Ymddiriedolaethau Natur o fywyd ym moroedd y DU yn cyflwyno straeon o obaith a thorcalon trwy gyfarfyddiadau syfrdanol, llwyddiannau cadwraeth a heriau i fywyd gwyllt morol ac arfordirol. Mae uchafbwyntiau ac isafbwyntiau 2023 yn cynnwys y canlynol:

  • Bwrlwm bwydo peli abwyd yn llawn tiwna asgell las yr Iwerydd a morfilod cefngrwm a morfilod asgellog llwyd yn bennaf
  • Ardaloedd Morol Hynod Warchodedig cyntaf erioed wedi'u dynodi yn y DU
  • Perygl o darfu gan bobl, llygredd a’r ffliw adar.

Dywedodd Dr Lissa Batey, pennaeth cadwraeth forol yr Ymddiriedolaethau Natur:

“Mae 2023 wedi bod yn flwyddyn hanesyddol i gadwraeth forol gyda chreu’r Ardaloedd Morol Hynod Warchodedig cyntaf yn nyfroedd Lloegr. Mae hon yn garreg filltir enfawr a gyflawnwyd diolch i flynyddoedd o ymgyrchu gan ein cefnogwyr ni sy’n hoff o’r môr. Bydd y safon aur newydd hon o warchodaeth yn atal pob gweithgaredd niweidiol fel treillio ac yn galluogi bywyd gwyllt y môr i adfer, gan fod o fudd i bysgotwyr a chynefinoedd sy’n storio carbon. Mae’r llefydd arbennig yma’n gorchuddio llai na hanner y cant o foroedd Lloegr – felly mae’n gam cyntaf bach iawn tuag at fwy o ddynodiadau.

“Mae rheoleiddio yn hanfodol er mwyn gwarchod y byd naturiol a gwyrdroi’r dirywiad mewn bywyd gwyllt. Mae rhoi terfyn ar forfila masnachol wedi dod â morfilod cefngrwm a morfilod asgellog llwyd yn ôl i ddyfroedd y DU, ac mae mesurau i warchod y tiwna asgell las wedi arwain at gynnydd mawr yn y niferoedd sydd wedi’u gweld. Mae’r pysgodyn gwych yma wedi dychwelyd o fod yn agos at ddifodiant ac mae’r risg o roi terfyn ar y boblogaeth am yr eildro yn parhau i fod yn uchel – felly mae’n hanfodol bod cwotâu pysgota masnachol yn cael eu pennu’n realistig ac yn cael eu gorfodi’n drylwyr. Pan rydyn ni’n rhoi gofod i fyd natur, gall bywyd gwyllt adfer – mae mor syml â hynny. Rhaid i ni weithredu’n gyflymach i warchod targed y DU o 30% o’r moroedd erbyn 2030.”

Humpback whale (c) Richard Shucksmith/scotlandbigpicture.com

Humpback whale (c) Richard Shucksmith/scotlandbigpicture.com

Bwrlwm bwydo peli abwyd, ‘arch-bodiau’ o ddolffiniaid, morfilod a morloi bach ar y brig ymhlith y pethau a welwyd yn 2023

Gallai cynnydd yn niferoedd y tiwna asgell las yr Iwerydd sydd wedi’u gweld, a’r morfilod asgellog llwyd a’r morfilod cefngrwm, fod yn arwydd bod y rhywogaethau hyn yn adfer. Roedd adroddiadau lluosog am fwrlwm bwydo peli abwyd yn cynnwys morfilod, dolffiniaid, a thiwna - o'r Alban i Ynysoedd Sili. Mae pêl abwyd yn cael ei ffurfio pan fydd ysglyfaethwr yn gorfodi pysgod i grwpio gyda'i gilydd yn bêl drwchus - wedyn mae huganod, morfilod a thiwna yn plymio i mewn i fwydo, gan greu môr sy’n 'ferw' o weithgarwch.

Roedd tiwna asgell las yr Iwerydd, sy'n tyfu i fwy na 10 troedfedd o hyd ac yn pwyso mwy na 1,000 pwys, yn gyffredin yn nyfroedd y DU ar un adeg. Achosodd gorbysgota i’r niferoedd blymio yn ystod yr 20fed ganrif. Daeth eu gweld yn beth prin ac roedd y pysgod wedi diflannu bron erbyn y 1990au. Gwelodd cynllun adfer 15 mlynedd a lansiwyd yn 2007 y niferoedd yn gwella ac, yn y pen draw, tynnwyd y tiwna asgell las oddi ar Restr Goch yr IUCN o Rywogaethau Mewn Perygl. Cofnododd tystion weld sawl un yn 2023, yn Nyfnaint, Cernyw, Ynysoedd Sili, yr Alban, Alderney a Dorset, lle cofnododd yr Ymddiriedolaeth Natur leol diwna asgell las 9 troedfedd o hyd wedi’i olchi i’r lan ym Mae Kimmeridge.

Cafodd pawb sy’n mwynhau bywyd gwyllt yng Nghernyw flwyddyn aruthrol diolch i ddolffiniaid Risso gyda 156 wedi’u gweld eleni o gymharu â 45 yn 2022. Roedd adroddiadau lluosog am fwrlwm bwydo mewn arch-bodiau oddi ar arfordir de orllewin Lloegr, gyda dolffiniaid cyffredin a morfilod asgellog llwyd yn ymuno.

Gwelwyd bwrlwm peli abwyd oddi ar ynys Coll yn Ynysoedd Mewnol yr Hebrides yn yr Alban hefyd. Ymunodd hyd at 10 morfil pigfain ac adar fel huganod, adar drycin Manaw, carfilod, gwylanod coesddu, sgiwennod mawr, trochyddion mawr ac eryrod y môr ag arch-bod o tua 350 o ddolffiniaid cyffredin.

Risso's dolphins (c) Ben Stammers

Risso's dolphins (c) Ben Stammers

Profwyd digwyddiad tebyg gan Dr Lissa Batey oddi ar arfordir Dyfnaint. Dywedodd:

“Fe es i ar drip teuluol i wylio dolffiniaid a gweld nifer fawr o huganod yn plymio. Fe wnaethon ni hwylio’n nes ac wrth i ni agosáu roedd y dŵr i’w weld yn ‘ferw’ o weithgarwch. Fe ymddangosodd nifer anhygoel o ddolffiniaid o'n cwmpas ni yn bwydo ar bêl abwyd enfawr o bysgod islaw. Fe ddechreuodd y tiwna asgell las lamu'n uchel allan o'r dŵr yng nghanol y cythrwfl. Yn sydyn ymddangosodd morfilod asgellog llwyd a chwythu colofnau uchel yn yr awyr cyn hyrddio oddi tanodd i wledda ar y pysgod. Roedd yn olygfa hynod gyffrous ac yn un yr ydw i wedi clywed am bobl eraill yn ei mwynhau oddi ar arfordir y DU yr haf yma.”

Seal pup, Calf of Man (c) Lara Howe

Seal pup, Calf of Man (c) Lara Howe

Mae’r cyfarfyddiadau cyffrous eraill eleni â bywyd gwyllt yn cynnwys y canlynol:

  • Gwelwyd orca gwrywaidd dair milltir oddi ar y lan o Glogwyni Bempton yn Swydd Efrog. Hwn oedd y tro cyntaf i orca gael ei weld oddi ar arfordir y sir ers 2007.
  • Ymgasglodd nifer fawr o heulforgwn yn Moray Firth, dwyrain yr Alban, gan synnu pobl leol gan mai dim ond oddi ar arfordir y gorllewin maent i’w gweld fel rheol.
  • Gwelwyd pod o ddolffiniaid trwyn potel oddi ar arfordir Norfolk, golygfa brin yn yr ardal. Roedd y pod wedi teithio o ogledd yr Alban i Norfolk mewn 11 diwrnod.
  • Blwyddyn wych i forloi bach ar y Calf of Man gyda 94 ohonyn nhw, o gymharu â thua 65 o forloi bach.
  • Cafodd gwylwyr bywyd gwyllt olygfa arbennig o 30 o forfilod cefngrwm drwy gydol y flwyddyn hon oddi ar arfordir Cernyw, Ynysoedd Sili a mwy oddi ar arfordir Burhou ar Ynysoedd y Sianel. Cofnodwyd llawer o forfilod asgellog llwyd o amgylch arfordiroedd y DU, (gwelwyd 20+ o forfilod oddi ar arfordir Cernyw yn unig, gan gynnwys 12 mewn un digwyddiad yn unig - y llynedd gwelwyd llai na 5 o forfilod asgellog llwyd) yn ogystal â morfil asgellog llwyd wedi dod i’r lan yn Newquay. Ym mis Medi, ar daith cwch ym Mae Ceredigion, gwelwyd morfil gylfinog Sowerby prin - mae'r rhan fwyaf o'r rhai sy'n cael eu gweld yn y DU wedi dod i’r lan; dim ond 13 gwaith y mae’r anifeiliaid hyn wedi’u gweld yn nyfroedd y DU ers 2007.
  • Cafodd Ymddiriedolaeth Natur Swydd Gaer flwyddyn eithriadol i lyffantod y twyni, diolch i'w rheolaeth ofalus ar y twyni tywod arfordirol. Daethpwyd o hyd i 200 o lyffantod y twyni bach mewn un diwrnod.
  • Ac yn olaf … gwelwyd rhywogaeth anarferol, tebyg i angel o wlithen fôr, y thecacera adeiniog, gyda smotiau oren a du, gan ddeifwyr Seasearch oddi ar arfordir Suffolk, yn glynu wrth gragen cranc.
The Wildlife Trusts' Marine_Review_Map_2023 © The Wildlife Trusts

The Wildlife Trusts' Marine Review Map 2023 © The Wildlife Trusts.jpg

Mae prosiectau gwarchodaeth gyfreithiol a chadwraeth forol newydd yn cynnig gobaith i'r môr

  • Roedd 2023 yn flwyddyn hanesyddol i gadwraeth forol gan fod yr Ardaloedd Morol Hynod Warchodedig (HPMAs) cyntaf erioed wedi'u dynodi yn nyfroedd Lloegr. Dewiswyd tri lle: Bae Allonby, Cumbria, Dolphin Head, Sussex ac i’r Gogledd Ddwyrain o Farnes Deep ym Môr y Gogledd. Maent wedi’u gwarchod bellach rhag pob gweithgarwch niweidiol. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn croesawu’r dynodiadau ond yn rhybuddio mai dim ond 0.4% o foroedd Lloegr y mae’r rhain yn eu cynnwys – ac mae angen llawer mwy o HPMAs er mwyn gwarchod bywyd gwyllt y môr a mynd i’r afael â newid hinsawdd.
  • Rhoddwyd hwb i wystrys brodorol yng Ngogledd Iwerddon a Gogledd Ddwyrain Lloegr:

o Creodd Ulster Wildlife a Harbwr Belfast feithrinfa wystrys ar ynys Iwerddon gyda thua 700 o wystrys brodorol yn hongian mewn cewyll ym Marina Belfast. Gobaith y prosiect uchelgeisiol yw adfer wystrys brodorol, a ddiflannodd oherwydd gorbysgota, llygredd ac effaith rhywogaethau ymledol. Mae wystrys yn gwella ansawdd dŵr – gall dim ond un hidlo hyd at 200 litr o ddŵr môr y dydd.

o Yn 2023 ailgyflwynwyd 10,000 o wystrys brodorol i rîff yn ardal Glannau Tyne.

  • Bu Ymddiriedolaeth Natur Sussex a phartneriaid yn helpu pysgotwyr i ailgylchu bron i 10,000 kg o hen rwydi pysgota, sy'n cael eu troi'n gynhyrchion newydd. Mae offer pysgota sy’n cael ei adael yn ffurf farwol ar blastig morol, gan fygwth dwy ran o dair o famaliaid morol yn fyd-eang.
  • Cynhaliodd Ymddiriedolaeth Natur Alderney yr arolygon cyntaf erioed o rywogaethau ymledol gyda chofnodion swyddogol o wystrys y Môr Tawel a chwyn tafod y cythraul o amgylch yr ynys. Adroddodd Ymddiriedolaeth Natur Dyfnaint am broblemau gyda'r chwyn hefyd. Cyflwynwyd y ddwy rywogaeth i'r DU yn y 1960au gan achosi problemau.
  • Mae Ymddiriedolaethau Natur Swydd Lincoln a Swydd Efrog wedi bod yn gweithio'n galed i adfer morfa heli, twyni tywod a morwellt fel rhan o brosiect Wilder Humber.
  • Canfu adroddiad gan Ymddiriedolaeth Natur Cernyw a Natural England fod Bae St Austell yn gartref i’r gwely morwellt islanwol mwyaf i ni wybod amdano yng Nghernyw – a dyma un o'r gwelyau morwellt mwyaf i ni wybod amdano yn y DU. Gall morwellt amsugno llawer iawn o garbon, ond mae mwy na 90% o forwellt y DU wedi’i golli.
  • Dathlodd Ymddiriedolaeth Natur Cernyw 20fed pen-blwydd ei Marine Strandings Network, sy'n cofnodi bywyd gwyllt morol sy’n dod i’r lan yng Nghernyw ac Ynysoedd Sili gyda chymorth mwy na 150 o wirfoddolwyr. Mae'r prosiect wedi dylanwadu'n gadarnhaol ar ddeddfwriaeth genedlaethol ac Ewropeaidd.
Ocean Rescue Champions seagrass seed collection porthdinllaen 3 (c) Iolo Penri

Ocean Rescue Champions seagrass seed collection porthdinllaen 3 (c) Iolo Penri - WWF

Hyrwyddwyr y môr

  • Ni fyddai cadwraeth forol y DU yn bosibl heb gefnogaeth staff a gwirfoddolwyr gwych. Dyma enillwyr gwobrau morol 2023 yr Ymddiriedolaethau Natur:
  • Aeth Gwobr Gwirfoddolwr Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh am Gadwraeth Forol i Charlotte Cumming sy'n gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Cernyw ac sydd wedi dilysu pob un o'r 4000 o gofnodion bywyd morol Cernyw ar ei phen ei hun. Enillodd grŵp monitro gwirfoddol poblogaeth morloi llwyd Donna Nook y wobr hefyd.
  • Aeth Gwobr Gwirfoddolwr Ifanc Ymddiriedolaeth Elusennol Marsh am Gadwraeth Forol i Arun Curson, hyrwyddwr morol ieuengaf Ymddiriedolaeth Natur Swydd Hamp ac Ynys Wyth, ac i Josh Symes sydd wedi bod yn aelod amhrisiadwy o Shoresearch Ymddiriedolaeth Natur Cernyw.
  • Dyfarnwyd Medal Christopher Cadbury i'r naturiaethwr am oes Rosemary Parslow sydd wedi gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Natur Ynysoedd Sili ers dros 60 mlynedd.
  • Derbyniodd Hyrwyddwyr a Mentoriaid Achub Cefnforoedd Ifanc o Ynys Môn fathodynnau gwyrdd anrhydeddus Blue Peter am gyfrannu at ymdrechion i gasglu miliwn o hadau morwellt ar gyfer prosiect adfer mawr ar Benrhyn Llŷn.

Mae’r ffliw adar, poblogaethau o adar môr mewn trafferthion, a tharfu a llygredd yn bygwth bywyd gwyllt

Parhaodd y pandemig byd-eang o’r ffliw adar i ddinistrio adar môr y DU. Er bod arwyddion bod rhai adar yn dangos imiwnedd, collwyd niferoedd enfawr gan gynnwys y canlynol:

  • Casglwyd 1,200 o fôr-wenoliaid marw yng Ngwarchodfa Natur Cemlyn yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys mwy na 700 o gywion môr-wenoliaid pigddu o’r unig boblogaeth nythu yng Nghymru. Mae'r boblogaeth wedi haneru'n fras o ran maint ers 2022 oherwydd y clefyd.
  • Yn yr Alban, golchwyd cannoedd o adar môr marw i’r lan ar hyd arfordir Swydd Aberdeen, gan gynnwys gwylanod coesddu, gwylanod y penwaig a gwylogod.
  • Casglwyd mwy na 1000 o adar marw o draethau yn Sir Benfro ym mis Gorffennaf.
  • Cofnododd Ymddiriedolaeth Natur Dorset 600 o adar marw ar Ynys Brownsea yn ystod y tymor magu, môr-wenoliaid pigddu a môr-wenoliaid cyffredin yn bennaf, a gwylanod penddu.
  • Ar nodyn cadarnhaol, mae ymchwil allanol ar Bass Rock yn awgrymu bod huganod y gogledd sydd â channwyll llygaid du yn hytrach na glas golau yn fwy tebygol o fod ag imiwnedd i’r feirws.
  • Mae gwaith monitro gan Ymddiriedolaeth Natur Alderney yn awgrymu na fu unrhyw ffliw adar ar yr ynysoedd eleni ac mae tua dwy ran o dair o’r parau magu o huganod wedi magu cywion yn llwyddiannus.

Creodd arolwg o adar môr gan Ymddiriedolaeth Natur Ynysoedd Sili a'r RSPB ddarlun sy'n peri pryder o un o'r poblogaethau adar môr mwyaf arwyddocaol yn Lloegr. Mae’r canfyddiadau’n cynnwys y canlynol:

  • Dirywiad cyffredinol o 20% o adar môr ers yr arolwg diwethaf yn 2015
  • Colled o bron i hanner adar môr yr ynysoedd yn ystod y 30 mlynedd diwethaf
  • Môr-wenoliaid cyffredin wedi’u colli fel adar magu blynyddol, gyda gwylanod coesddu’n debygol o ddilyn
  • Dirywiad sydyn ymhlith y gwylanod cefnddu mwyaf, 38%, a'r gwylanod cefnddu lleiaf, 58%, a gwylanod y penwaig sydd ar y rhestr goch, 40%

Tarfu ar forloi: Gofynnodd Ymddiriedolaeth Natur Cumbria yn garedig i gychod gadw eu pellter oddi wrth forloi yn dilyn marwolaeth rhai morloi llwyd a’u rhai bach a oedd, o bosibl, yn gysylltiedig â tharfu ar yr unig boblogaeth o forloi llwyd yng ngogledd orllewin Lloegr ger Barrow. Mewn mannau eraill, canfu ymchwil bod tarfu ar forloi yng Nghernyw wedi cynyddu tua 40% yn ystod y degawd diwethaf.

Mae llygredd o garthion, plastig a diwydiant yn parhau i herio bywyd gwyllt morol ar y lan ac yn y môr. Mae’r enghreifftiau yn cynnwys y canlynol:

  • Dywedodd Ymddiriedolaeth Natur Dyffryn Tees bod miloedd o beli rwber glas bach wedi'u golchi i'r lan ar draethau Glannau Tees. Defnyddir y peli yng ngorsaf bŵer EDF.
  • Peledi plastig (nurdles) – ffurfiau bychain, crai ar blastig – wedi'u golchi i'r lan ar draethau'r DU, wedi’u gollwng o longau cynwysyddion mae’n bur debyg. Gallant fod yn angheuol os cânt eu bwyta gan fywyd gwyllt. Adroddodd Ymddiriedolaeth Natur Dorset bod niferoedd enfawr o’r peledi plastig yma ym Mae Kimmeridge.

Am straeon ychwanegol a nodiadau i olygyddion, edrychwch ar

Nodiadau

Adolygiad morol yr Ymddiriedolaethau Natur

Bob blwyddyn mae timau Moroedd Byw yr Ymddiriedolaethau Natur yn llunio adolygiad morol sy’n edrych yn ôl ar y bywyd gwyllt rhyfeddol a ddarganfuwyd ym moroedd y DU yn ystod y flwyddyn ac yn adlewyrchu ar y gwaith enfawr a wnaed i warchod, adfer ac achub ein moroedd gan staff, gwirfoddolwyr ac eraill. Rydym hefyd yn ceisio tynnu sylw at rai elfennau yn unig o’r pwysau enfawr sy’n effeithio ar yr amgylchedd morol fel datblygiad, llygredd, ac egsbloetio moroedd y DU. Mae’r Ymddiriedolaethau Natur ar flaen y gad o ran cadwraeth forol yn y DU gyda gweledigaeth ar gyfer gwarchod a rheoli moroedd y DU yn well fel bod y rhywogaethau sydd wedi prinhau yn gallu dod yn gyffredin eto.

Yr Ymddiriedolaethau Natur

Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn gwneud y byd yn wylltach ac yn helpu i sicrhau bod byd natur yn rhan o fywydau pawb. Rydym yn fudiad ar lawr gwlad o 46 o elusennau gyda mwy na 900,000 o aelodau a 38,000 o wirfoddolwyr. Dim ots ble rydych chi ym Mhrydain, mae Ymddiriedolaeth Natur sy’n ysbrydoli pobl ac yn achub, yn gwarchod ac yn sefyll dros y byd naturiol yn eich ardal chi. Gyda chefnogaeth ein haelodau, rydym yn adfer ac yn gofalu am lecynnau arbennig ar gyfer byd natur ar y tir ac yn cynnal prosiectau cadwraeth forol ac yn casglu data hanfodol am gyflwr ein moroedd. Mae pob Ymddiriedolaeth Natur yn gweithio o fewn ei chymuned leol i ysbrydoli pobl i greu dyfodol gwylltach – o gynghori miloedd o berchnogion tir ar sut i reoli eu tir er budd bywyd gwyllt, i gysylltu cannoedd ar filoedd o blant ysgol â byd natur bob blwyddyn. www.wildlifetrusts.org