Rhwng 2024 a 2026, mae Ymddiriedolaethau Natur Cymru yn falch iawn o dderbyn cymorth gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Mae’r cymorth hanfodol hwn yn galluogi Ymddiriedolaethau Natur Cymru i weithio ar draws y pum Ymddiriedolaeth ryfeddol yng Nghymru i gynyddu eu gwaith ar y cyd, meithrin partneriaethau newydd a datgloi potensial adnoddau newydd. Bydd y gwaith hwn yn gwneud cyfraniad pwysig at ddyfodol mwy cynaliadwy ar gyfer adferiad byd natur a gwytnwch ecosystemau yng Nghymru, gan fod o fudd i fioamrywiaeth, yr hinsawdd, pobl a ffyniant.

Andy Rouse/2020VISION
Mae gan gyllid preifat ar gyfer byd natur – sy’n cael ei alw hefyd yn gyllid gwyrdd – botensial enfawr ar gyfer adferiad byd natur ar raddfa fawr a diogelu’r gwasanaethau ecosystemau rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw, fel afonydd glân, lliniaru rhag llifogydd ac ansawdd pridd. Gall cyllid gwyrdd weithio ar y cyd â chymorth y llywodraeth a chefnogaeth ddyngarol i gyrraedd graddfeydd cyflawni ac effaith na ellir eu cyrraedd drwy grant a chymhorthdal yn unig. Mae’n faes cymhleth sy’n esblygu’n gyflym. Mae’r cyllid hanfodol hwn gan Lywodraeth Cymru yn cefnogi uwchsgilio’r Ymddiriedolaethau yng Nghymru ar gyllid gwyrdd, rhannu’r dysgu o fentrau presennol a chwmpasu’r cyfleoedd yn y farchnad. Rydyn ni’n edrych ar raddfa ranbarthol neu dirwedd, gan greu rhaglenni gwaith a fydd yn cwmpasu gwarchodfeydd yr Ymddiriedolaeth, ardaloedd gwarchodedig a thu hwnt, gan weithio gyda ffermwyr, perchnogion tir, cymunedau, busnesau, a llawer o weithredwyr eraill.
Os hoffech chi ddeall mwy am y gwaith yma, cysylltwch â Lucy Livesley, y Swyddog Datblygu Rhaglenni ar gyfer Ymddiriedolaethau Natur Cymru – llivesley@wtwales.org
