Sut i wneud cais am gyllid

Sut i wneud cais am gyllid

Image copyright / The Wildlife Trusts 2024

Beth sydd angen i chi ei wneud pan fyddwch yn ystyried gwneud cais am gyllid. Syniadau ac awgrymiadau ar gyfer gwneud cais!

Canllaw fideo

Mae Jen o VCS Swydd Lincoln yn rhoi cyngor manwl ar geisiadau am arian. Mae'r fideo hwn yn cynnwys hyd yn oed mwy o help na'r ddogfen ysgrifenedig! (Saesneg yn unig).

Paratoi

Mae arnoch angen gwaith papur i ddangos bod gennych chi’r canlynol:

  • Pwyllgor (y grŵp o bobl sy'n gwneud penderfyniadau ar gyfer eich grŵp)
  • Cyfrif banc
  • Datganiad o gyfrifon ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf (oni bai eich bod yn grŵp newydd)
  • Dogfen lywodraethu (sef ychydig o fanylion ysgrifenedig am eich grŵp, sy’n dweud sut mae’n cael ei redeg)

Efallai hefyd y bydd arnoch angen gwaith papur i ddangos y canlynol:

  • Yswiriant
  • Polisi iechyd a diogelwch a / neu asesiadau risg
  • Polisi cyfleoedd cyfartal (mae polisi yn gyfres ysgrifenedig o ganllawiau rydych yn eu dilyn)
  • Polisi amddiffyn neu ddiogelu plant

Gweithiwch gyda'ch grŵp cyfan. Atebwch y cwestiynau allweddol hyn:

  • Beth ydych chi eisiau ei wneud? Oes gennych chi'r bobl i'w redeg?
  • Faint fydd yn ei gostio? (Peidiwch â dyfalu. Mae angen i chi wneud rhywfaint o ymchwil. Ac mae'n rhaid iddo fod yn gost-effeithiol, sy'n golygu nad ydych yn gwastraffu arian.)
  • Pam fod y gwaith hwn yn bwysig? Pwy neu beth sydd ei angen?
  • Sut byddwch chi'n gwybod a ydych chi'n gwneud gwaith da? Sut byddwch chi'n gwybod a yw'ch syniad wedi llwyddo?
  • Pa mor aml fydd yn digwydd, a pha mor hir y bydd yn para?
  • Ble bydd yn digwydd? Oes gennych chi ganiatâd ac yswiriant?

Meddyliwch am arian. Bydd angen i chi lunio cyllideb fanwl. Awgrymiadau:

  • Rhestrwch bopeth y byddwch yn talu amdano a faint fydd yn ei gostio
  • Rhestrwch yr holl incwm rydych yn ei ddisgwyl (er enghraifft ffioedd aelodaeth, rhoddion, grantiau sydd gennych eisoes)
  • Rhaid cael dyfynbrisiau am bopeth y bydd angen i chi dalu amdano
  • Peidiwch â thanamcangyfrif! Byddwch yn realistig
  • Gallai fod yn ddefnyddiol i chi baratoi cyllideb ar gyfer y flwyddyn gyfan

Dod o hyd i gyllidwr

I ddechrau, mae angen i chi fod yn glir ynghylch canlyniadau eich prosiect. Mae gan wahanol gyllidwyr wahanol flaenoriaethau, ac mae hyn yn golygu y byddant yn ariannu eich prosiect dim ond os oes gennych yr un nodau ag sydd ganddynt hwy. Mae cyllidwyr angen bod yn siŵr y bydd eich prosiect yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Nid ydynt eisiau gwastraffu arian. Rhaid i chi gael tystiolaeth i ddangos bod eich prosiect yn bwysig. Gallwch wneud hyn mewn sawl ffordd:

  • Gallwch ofyn i bobl sy'n cymryd rhan a chofnodi eu hatebion. Defnyddiwch eu dyfyniadau.
  • Gallwch ddefnyddio gwybodaeth ystadegol (ffeithiau a rhifau). Dechreuwch gyda gwefannau eich cyngor lleol, yr awdurdod lleol, yr heddlu neu awdurdodau iechyd. Defnyddiwch ffynonellau dibynadwy fel adroddiadau'r Llywodraeth.
  • Gallwch ddefnyddio llythyrau cefnogi gan grwpiau eraill, cynghorwyr lleol, yr heddlu ac ysgolion.
  • Gallwch ddangos bod gennych gysylltiad â strategaethau lleol a rhanbarthol neu brosiectau'r llywodraeth.

Bydd angen i chi brofi i’ch cyllidwr y byddwch yn llwyddiannus. Mae hyn yn golygu bod angen i chi ddangos bod gennych enw da. Gallech chi ddangos hyn gyda’r canlynol:

  • Proffiliau o'r bobl yn eich grŵp a fydd yn cymryd rhan, sy'n dangos eu cymwysterau a'u profiad
  • Astudiaethau achos o brosiectau tebyg y mae eich grŵp wedi'u cynnal
  • Tystiolaeth o gefnogaeth gan grwpiau neu sefydliadau lleol eraill

Ysgrifennu eich cais

Pan fydd gennych syniad da o'ch prosiect a'ch canlyniadau, gallwch ysgrifennu eich cais. Ond cofiwch:

  • Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod y cyllidwr yn gwybod unrhyw beth, felly peidiwch â defnyddio jargon a gwnewch yn siŵr bod popeth yn glir iawn
  • Astudiwch yr hyn y mae'r cyllidwr ei eisiau, a gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio ei eiriau allweddol yn eich cais
  • Atebwch y cwestiynau a pheidiwch â malu awyr
  • Byddwch yn gadarnhaol ac yn gadarn – mae “byddwn” yn well na “byddwn yn ceisio”
  • Gwnewch y cais yn hawdd ei ddarllen gyda phenawdau a phwyntiau bwled clir
  • Gofynnwch i rywun arall ei brawfddarllen

Mae cymdeithasau tai ledled y DU yn cyllido prosiectau lleol yn aml

Mae gan fanciau mawr i gyd gronfeydd amrywiol ar gael ar gyfer prosiectau lleol a chenedlaethol

Gallai cyllido torfol fod yn ddewis ar gyfer prosiectau llai hefyd

Am wybodaeth fanylach, edrychwch ar:

Canllaw y Ffederasiwn Cenedlaethol o Barciau a Gofod Gwyrdd, tudalennau 9 i 12

Mae gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Mudiadau Gwirfoddol lawer o help. Ewch yma am chwe erthygl am grantiau.

Am gyngor am gynllun busnes, a rhai templedi i’w lawrlwytho, edrychwch yma.

Ac mae sut i egluro pam mae eich prosiect yn bwysig ar gael yma.

 

Nextdoor nature - Swansea Nextdoor nature - Swansea

 The Wildlife Trusts 

Have you been part of a community nature project?

We'd love to hear from you! Your experiences will be shared right here on the Community Hub and will inspire others to take action in their own neighbourhoods. 

Share your story

 

 

CC by 4.0 attribution CC by 4.0 attribution

CC by 4.0 attribution

Except where noted and excluding images, company and organisation logos, this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence.

 

Please attribute as: “Nextdoor Nature (2022-2024) by The Wildlife Trusts funded by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 40