Dod o hyd i gyllid

Dod o hyd i gyllid

Photo copyright Autumn Barlow/The Wildlife Trusts 2023

Syniadau cyffredinol ac awgrymiadau ar gyfer dod o hyd i gyllid ar gyfer eich prosiectau.

Cyngor cyffredinol am gyllid

Mae llawer o ffynonellau cyllid bach a mawr ledled y DU.

Ond yn gyntaf mae angen i chi wybod beth yn union rydych chi eisiau ei wneud. Bydd llawer o gyllidwyr ond yn gweithio gyda rhai prosiectau penodol, fel y celfyddydau, neu bobl ifanc, ac ati.

Mae angen i chi hefyd wybod faint o arian rydych chi'n gofyn amdano. Yn aml mae gan gyllidwyr gyfyngiadau ar faint fyddant yn ei roi.

Bydd angen i chi gael cyfrif banc ar gyfer y grŵp. Ni fydd angen i chi fod yn elusen bob amser.

Mae gan Groundwork gyngor ardderchog a syml ynghylch gwneud cais am gyllid. Mae gennym hefyd ein cyngor ein hunain mewn dogfen ar wahân.

I gael gwybod am gyllid penodol gan eich cyngor lleol, yng Nghymru a Lloegr, defnyddiwch ganfyddwr cyllid y llywodraeth. Cliciwch ar y ddolen yma a rhowch eich cod post yn y bocs. Bydd yn mynd â chi i’r dudalen gywir ar wefan eich cyngor lleol.

Cofrestrwch ar gyfer y cyfrif am ddim yn [My Funding Central.] (https://www.myfundingcentral.co.uk/) Byddant yn anfon e-bost atoch chi yn rheolaidd gyda newyddion cyllido.

Mae'r wefan Community Foundations yn cynnwys y rhan fwyaf o'r DU. Rhowch eich cod post i mewn, a bydd yn dod o hyd i'ch Sefydliad Cymunedol agosaf. Mae'r rhain yn grwpiau sy'n helpu sefydliadau bach i ddod o hyd i gyllid.

Rhestrau o gyllidwyr

Os yw'n well gennych edrych ar lyfr, gallwch ddefnyddio The Directory of Grant Making Trusts. Mae’n cael ei gyhoeddi bob blwyddyn gan The Directory of Social Change, ac fel arfer bydd yn eich llyfrgell leol.

Mae Grants Online yn rhestru’r grantiau newydd sydd ar gael ledled y DU. Mae'r rhestr yn cael ei diweddaru bob dydd.

Mae GrantFinder hefyd yn rhestru cyllid ar draws y DU. Mae’r ddolen honno’n mynd at eu grantiau datblygu cymunedol, ond hefyd yn edrych ar adrannau eraill. Gall y rhain gynnwys y canlynol:

  • Cyllid y Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth.
  • Grantiau Amgylcheddol, Grantiau i Blant.
  • Pobl Ifanc a Theuluoedd.
  • …ac efallai rhai o'r lleill, yn dibynnu ar ba mor arbenigol yw eich prosiect.

Mae gan Charity Excellence Gronfa Ddata Canfod Cyllidwyr am ddim.

Dyma Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Dyma rywfaint o gyllid yn yr Alban yn benodol.

Ffynonellau eraill o gyllid

Mae’n annhebygol y byddwch yn chwilio am fuddsoddiad yn hytrach na grant. Ond os ydych chi eisiau benthyg arian, edrychwch ar Locality.

Efallai y byddwch yn cynnal rhai gweithgareddau codi arian. Edrychwch ar ein dogfen ar wahân am gynnal digwyddiadau codi arian.

Help arall

Mae gan NCVO adnodd taenlen am ddim i'ch helpu i gynllunio'ch cyllideb. Gall hyn fod yn ddefnyddiol pan fyddwch yn gwneud cais am grantiau!

Nextdoor nature - Swansea Nextdoor nature - Swansea

 The Wildlife Trusts 

Have you been part of a community nature project?

We'd love to hear from you! Your experiences will be shared right here on the Community Hub and will inspire others to take action in their own neighbourhoods. 

Share your story

 

 

CC by 4.0 attribution CC by 4.0 attribution

CC by 4.0 attribution

Except where noted and excluding images, company and organisation logos, this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence.

 

Please attribute as: “Nextdoor Nature (2022-2024) by The Wildlife Trusts funded by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 40