Sut i gysylltu â'ch AS

Sut i gysylltu â'ch AS

Mae aelod seneddol, neu AS, ar gyfer pob ardal yn y DU.

Sut i gysylltu â'ch AS

Mae aelod seneddol, neu AS, ar gyfer pob ardal yn y DU. Yr enw ar bob ardal yw ‘etholaeth’. Gallwch gysylltu â'ch AS drwy lythyr neu e-bost.

Cewch weld pwy yw eich AS gyda'r adnodd ar-lein yma. Cliciwch ar y ddolen yma: <https://members.parliament.uk/FindYourMP>. Nodwch eich cod post yn y bocs cyntaf, a chlicio ar y botwm glas, ‘search.’

Louise from Teesside Wildlife Trust talks about how to contact your MP.

Y canlyniad fydd enw eich AS

Y canlyniad fydd enw eich AS. Cliciwch ar hwnnw ac fe welwch chi ei gyfeiriad e-bost a'i gyfeiriad cyswllt ar gyfer llythyrau. Bydd hefyd yn dweud wrthych beth i'w alw.       

Gall fod â dau gyfeiriad cyswllt ar gyfer llythyrau

 Un yw ei gyfeiriad ‘seneddol’, sy’n golygu’r cyfeiriad yn Llundain. Y llall fydd ei gyfeiriad ‘etholaeth’, sef ei gyfeiriad yn eich ardal leol. Gall y cyfeiriad fod yn swyddfa neu’n gyfeiriad cartref. Gallwch ysgrifennu i'r naill gyfeiriad neu'r llall.

Mae'r cyngor yma yr un fath ar gyfer negeseuon e-bost ac ar gyfer llythyrau

Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi eich cyfeiriad cartref chi. Mae hyn er mwyn i’ch aelod seneddol wybod eich bod yn byw yn ei ardal.

Dywedwch wrtho pwy ydych chi a pham mae natur yn bwysig i chi. Gallwch chi wneud hyn yn bersonol iawn ond cadwch y cyfan yn fyr. Ceisiwch ysgrifennu tair neu bedair brawddeg.

Yn y paragraff nesaf, rhaid i chi ddweud beth rydych chi eisiau i’ch aelod seneddol ei wneud. Dyma rai syniadau:

  • Rydych chi eisiau iddo gefnogi deddfau cryfach
  • Rydych chi eisiau iddo gefnogi achos lleol
  • Rydych chi eisiau iddo sefyll yn erbyn rhywbeth sy'n digwydd yn lleol, er enghraifft, ffordd drwy warchodfa natur
  • Rydych chi eisiau iddo roi cyngor i chi am broblem
  • Rydych chi eisiau iddo ddod i ddigwyddiad.

I siarad yn uniongyrchol â'ch AS, gallwch drefnu cyfarfod. Mae pob AS yn cynnal ‘cymorthfeydd’ rheolaidd, sef pan fydd yn eich ardal ac yn gallu siarad â phobl. Bydd angen i chi ysgrifennu llythyr neu e-bostio ei swyddfa i gael gwybod pryd bydd yn rhydd. Neu gallwch ffonio ei swyddfa a siarad â rhywun sy'n gweithio yno.

Pan fyddwch yn gofyn am gyfarfod, eglurwch beth rydych eisiau siarad amdano.

Gallwch fynd â rhai nodiadau gyda chi os ydych chi'n poeni am anghofio'r hyn rydych chi eisiau ei ddweud.

Peidiwch â phoeni os nad ydych chi'n arbenigwr. Byddwch yn angerddol am eich achos. A chofiwch dynnu llun a'i roi ar gyfryngau cymdeithasol! Gall annog pobl eraill i gymryd rhan a'ch cefnogi chi.

Nextdoor nature - Swansea Nextdoor nature - Swansea

 The Wildlife Trusts 

Have you been part of a community nature project?

We'd love to hear from you! Your experiences will be shared right here on the Community Hub and will inspire others to take action in their own neighbourhoods. 

Share your story

 

 

CC by 4.0 attribution CC by 4.0 attribution

CC by 4.0 attribution

Except where noted and excluding images, company and organisation logos, this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence.

 

Please attribute as: “Nextdoor Nature (2022-2024) by The Wildlife Trusts funded by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 40