Yr wylan gefnddu fwyaf yw’r wylan fwyaf yn y byd! Oherwydd ei maint, ychydig o ysglyfaethwyr sy’n ceisio ymosod arni, ond gall fod yn fyrbryd blasus o dro i dro i eryrod cynffon gwyn, siarcod a morfilod danheddog ar y môr.
Enw gwyddonol
Larus marinus
Pryd i'w gweld
Ionawr - Rhagfyr
Species information
Ystadegau
Hyd: 68-78 cm
Lled yr adenydd: 1.5-1.6 m
Pwysau: 1.7 kg
Oes ar gyfartaledd: 14 blynedd
Statws cadwraethol
Wedi’i chategoreiddio yn y DU fel Oren o dan Bryder am Adar Cadwraeth 4: y Rhestr Goch ar gyfer Adar (2015).
Yr wylan gefnddu fwyaf yw’r wylan fwyaf yn y byd ac mae’n aderyn trwchus gyda phig pwerus. Mae’n adnabyddus am fwlio adar eraill i ladrata bwyd. Mae’r wylan gefnddu fwyaf yn fodlon bwyta’r rhan fwyaf o bethau, ond mae’n hoff iawn o bysgod cregyn, adar a chwningod hyd yn oed, a gellir ei gweld yn eu llyncu ar un tro!
Sut i'w hadnabod
Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng gwylanod, yn enwedig rhai ifanc. Mae oedolyn yr wylan gefnddu fwyaf yn llawer mwy na gwylanod eraill. Mae’n llwyd-ddu tywyll ar y top ac yn wyn oddi tanodd, gyda phen gwyn (brith yn ystod y gaeaf) a blaen adenydd du gyda smotiau gwynion. Mae ganddi goesau pinc ac mae gan yr wylan gefnddu leiaf sy’n debyg goesau melyn.
Dosbarthiad
Eang. Nythu o amgylch yr arfordir ar ben clogwyni, toeau ac ynysoedd.
Roeddech chi yn gwybod?
Yr wylan gefnddu fwyaf yw’r wylan fwyaf yn y byd. Oherwydd ei maint, ychydig o ysglyfaethwyr sy’n ceisio ymosod arni, ond gall fod yn fyrbryd blasus o dro i dro i eryrod cynffon gwyn, siarcod a morfilod danheddog ar y môr.