Mae adfer bywyd gwyllt a byd natur yn cynnwys caniatáu i erddi dyfu'n wyllt, gwneud dinasoedd yn wyrddach, a sicrhau bod gwarchodfeydd natur yn gallu ffynnu. Ond mae’r ffordd mae ein bwyd ni’n cael ei dyfu a sut mae ein caeau ni’n cael eu ffermio yn cael effaith aruthrol hefyd ar fyd natur.
Oeddech chi'n gwybod bod dros 90% o arwynebedd tir Cymru wedi'i neilltuo i ffermio, sy'n golygu bod gan ein ffermwyr rôl hanfodol i'w chwarae wrth gynnal yr amgylchedd cain a'r tirweddau hardd sydd wedi esblygu dros ganrifoedd.
Drwy symud oddi wrth arferion amaethyddol dwys a thuag at ddulliau adfywiol, cyfeillgar i fyd natur, mae gan ffermio botensial enfawr i helpu byd natur i adfer.
Yn ei dro, mae cynhyrchu bwyd byd-eang yn dibynnu ar systemau naturiol ffyniannus i ddarparu pridd iach, dŵr diogel a digonol, peillwyr buddiol, a hinsawdd sefydlog.
Mae newid hinsawdd eisoes yn niweidio cynhyrchiant bwyd Cymru. Mae cyflwr ein pridd ni’n dirywio, gan gyfyngu ar faint o fwyd y gellir ei dyfu, tra bo gaeafau cynhesach yn cynyddu lledaeniad clefydau cnydau.
Ross Hoddinott/2020VISION
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, y cyfeirir ato fel yr ‘SFS’, yw’r cynlluniau cyllido ôl-Brexit newydd ar gyfer ffermwyr a rheolwyr tir yng Nghymru. Os caiff y cynlluniau hyn eu dylunio a’u cyflawni’n gywir, gallai’r SFS fod yn adnodd gwerthfawr ar gyfer hyrwyddo ffermio sy’n fwy cyfeillgar i fyd natur, a fyddai’n helpu i atal dirywiad bywyd gwyllt ac yn dod â byd natur yn ôl ledled Cymru.
Byddai newid i ffermio sy’n fwy cyfeillgar i fyd natur nid yn unig yn llesol i fyd natur, ond gallai hefyd helpu ffermwyr i gynyddu eu helw a hybu gwytnwch fferm yn wyneb bygythiadau fel newid yn yr hinsawdd. Rydyn ni eisiau i’r SFS gefnogi ffermwyr i sicrhau adferiad byd natur ac addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Ond nid yw’r SFS a chymorth polisi ehangach, fel cyngor ac arloesi, yn berffaith ac mae angen i ni fod yn rhoi pwysau mawr ar Lywodraeth Cymru i wneud gwelliannau, gwella’r gyllideb a sicrhau llwybr clir i gynyddu uchelgais dros amser.
Pa gefnogaeth sydd ei hangen ar ffermwyr?
Mae’r Ymddiriedolaethau Natur yn credu bod rhaid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) a’r polisi amaethyddol ehangach ein paratoi ni ar gyfer argyfyngau’r 21ain ganrif – costau byw cynyddol, newid hinsawdd, a cholli byd natur. Rydyn ni eisiau gweld y canlynol:
• Cynlluniau taliadau fferm sy'n mynd ymhellach, ac yn gyflymach, wrth gefnogi ffermwyr i ddod â byd natur yn ôl i'w busnesau fferm.
• Newidiadau polisi sy'n helpu i roi diwedd ar y ddibyniaeth ar blaladdwyr a gwrteithiau artiffisial.
• Dulliau diogelu cryfach i leihau llygredd yn ein dyfrffyrdd ni. Dŵr ffo o slyri a gwrteithiau o ffermio dwys yw'r prif achosion sy'n arwain at lygredd ffosfforws yn afonydd Cymru.
• Tystiolaeth y bydd polisïau ffermio yn cyflawni yn erbyn targedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys gofyniad cyfreithiol i atal dirywiad byd natur erbyn 2030, targed i gyrraedd sero net erbyn 2050, a Fframwaith Bioamrywiaeth Byd-eang Kunming-Montreal sydd newydd ei lofnodi ac sy'n nodi bod rhaid diogelu 30% o’r tir a’r môr ar gyfer byd natur erbyn 2030.