Prosiect Afanc Cymru

Beaver in the river nibbling on a stick

David Parkyn

Rydyn ni'n dod ag afancod yn ôl i Gymru!

Llysysyddion ydi afancod!
Gall argaeau afancod leihau'r perygl o lifogydd
Mae afancod yn creu cynefinoedd gwlybdir
Mae afancod yn helpu pobl drwy wella ansawdd dŵr

Afancod yng Nghymru

Mae Prosiect Afancod Cymru wedi bod yn ymchwilio i ymarferoldeb dod ag afancod gwyllt yn ôl i Gymru ers 2005. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru ar ran pob un o'r pum Ymddiriedolaeth Natur yng Nghymru fel rhan o'n strategaeth Tirweddau Byw ac rydym bellach yn gobeithio ymgymryd ag ailgyflwyno dan reolaeth i Gymru.

Pam mae afancod yn bwysig?

Roedd afancod yn gyffredin ledled Cymru ar un adeg, ond oherwydd gorhela gan bobl am eu ffwr, eu cig a'u chwarennau arogl, prinhau fu eu hanes ar ôl yr Oesoedd Canol yng Nghymru ac erbyn diwedd yr 16eg Ganrif roeddent wedi diflannu o weddill Prydain.

Mae afancod yn anifeiliaid arbennig iawn gan eu bod yn chwarae rhan hanfodol mewn cyfoethogi bioamrywiaeth drwy adfer a rheoli ecosystemau afonydd a gwlybdiroedd. Fe'u gelwir yn 'rhywogaeth allweddol' oherwydd gall eu gweithgareddau fod o fudd i ystod eang o anifeiliaid a phlanhigion eraill sy'n byw mewn afonydd a gwlybdiroedd.

Mae afancod yn cael eu hadnabod fel peirianwyr natur. Maen nhw’n gwneud newidiadau i'w cynefinoedd sy'n creu gwlybdiroedd amrywiol i rywogaethau eraill ffynnu.
Beaver sat on hind legs

Nick Upton

Its natural beauty and the flat, easy terrain of the towpath makes The Monty popular amongst walkers and cyclists; these activities are very low impact

Credit - Flying Film Lab ©

Beavers in Wales, what do YOU think?

Tell us your views today
(C) David Parkyn

©David Parkyn

Cefnogwch ein hafancod!

Rhoi pres heddiw
Mae'r Ymddiriedolaethau Natur yn chwarae rhan bwysig iawn wrth ddiogelu ein treftadaeth naturiol. Byddwn yn annog unrhyw un sy'n hoff o fywyd gwyllt i ymuno â nhw.
Syr David Attenborough