Rhodd cymorth - allwch chi ei hawlio?
Image Copyright The Wildlife Trusts
You must be a charity
Mae ychydig o wahanol fathau o grwpiau cymunedol yn y DU. Edrychwch ar ein canllaw cysylltiedig am wybodaeth am hyn. Mae bod yn elusen yn rhywbeth penodol iawn gyda rhai rheolau a rheoliadau y mae'n rhaid i chi eu dilyn. Os nad ydych chi'n siŵr, mae'n debyg nad ydych chi'n elusen.
Fodd bynnag, os ydych chi’n elusen, gallwch hawlio arian ychwanegol yn ôl pan fydd pobl yn rhoi rhodd i chi.
Beth allwch chi ei hawlio
Pan fydd rhywun yn rhoi rhodd i’ch elusen, gallwch wneud cais i Lywodraeth y DU am arian ychwanegol. Am bob £1 y mae rhywun yn ei rhoi, cewch 25c arall.
Fodd bynnag, mae'n rhaid i’r person sy'n gwneud y rhodd fod wedi talu treth incwm neu dreth enillion cyfalaf yn ystod y flwyddyn honno sy'n cyfateb i, neu'n fwy na'r hyn rydych chi’n ei hawlio.
Mae angen i'r person sy'n rhoi'r rhodd wneud Datganiad Rhodd Cymorth. Gallwch lawrlwytho rhai ffurflenni enghreifftiol o wefan Llywodraeth y DU yma.
Hefyd mae cynllun arbennig ar gael, o’r enw Cynllun Rhoddion Bach Rhodd Cymorth (GASDS), sy’n golygu y gallwch chi gasglu rhoddion bach – fel mewn tun casglu – heb fod angen Datganiad Rhodd Cymorth. Mae mwy o wybodaeth am GASDS ar gael ar-lein yma.
Sut ydych chi'n hawlio?
Gallwch wneud eich cais ar-lein neu drwy’r post gan ddefnyddio ffurflen arbennig, ChR1, y gallwch ei chael drwy gysylltu â CThEM yma. I hawlio ar-lein, bydd angen cyfrif ar eich elusen ar Charities Online, sef porthol gwe Llywodraeth y DU yma.
Byddwch yn cael yr arian yn ôl o fewn pedair wythnos os gwnaethoch chi gais ar-lein, a phum wythnos os gwnaethoch chi hynny drwy'r post.
The Wildlife Trusts
Have you been part of a community nature project?
We'd love to hear from you! Your experiences will be shared right here on the Community Hub and will inspire others to take action in their own neighbourhoods.
CC by 4.0 attribution
Except where noted and excluding images, company and organisation logos, this work is shared under a Creative Commons Attribution 4.0 (CC BY 4.0) Licence.
Please attribute as: “Nextdoor Nature (2022-2024) by The Wildlife Trusts funded by The National Lottery Heritage Fund, licensed under CC BY 40”