Wedi'u dal yn y rhwyd: rhoi terfyn ar sgil-ddalfeydd ym moroedd y DU

Wedi'u dal yn y rhwyd: rhoi terfyn ar sgil-ddalfeydd ym moroedd y DU

Bob blwyddyn yn nyfroedd y DU, mae miloedd o anifeiliaid morol yn cael eu dal a'u lladd yn ddamweiniol mewn offer pysgota. Mae Ruth Williams, Pennaeth Cadwraeth Forol, yn edrych ar yr argyfwng o dan y tonnau.

Mae marwolaeth ddamweiniol bywyd gwyllt morol mewn offer pysgota yn broblem fawr. Nawr, mae adroddiad newydd gan Wildlife and Countryside Link yn datgelu graddfa syfrdanol y broblem gudd hon i rai o'n rhywogaethau sy’n wynebu’r perygl mwyaf ac sydd i fod i gael eu gwarchod. Mae mwy na 10,000 o adar môr, 1,000 o forfilod a dolffiniaid, a channoedd o forloi yn marw bob blwyddyn, ochr yn ochr â siarcod, môr-gathod ac eogiaid.
 

Gwir raddfa'r argyfwng tawel hwn yn debygol o fod yn fwy fyth

Mae sgil-ddalfa - dal rhywogaethau heb fod yn darged ar ddamwain - yn argyfwng tawel sydd wedi bod yn digwydd o dan y tonnau ers degawdau. Mae'n achosi dioddefaint, yn gyrru dirywiad poblogaethau ac yn bygwth cyflwr ein moroedd. Mae'n debyg bod gwir raddfa hyn yn fwy fyth oherwydd monitro cyfyngedig a than-adrodd.

Does dim gwadu pa mor ddifrifol yw hyn. Mae dolffiniaid, siarcod, morloi ac adar môr yn hanfodol i ecosystemau morol iach. Bydd parhau i'w colli mewn niferoedd o'r fath yn arwain at ganlyniadau parhaol i ecosystemau morol.

Ochr yn ochr â llawer o Ymddiriedolaethau Natur unigol, rydw i wedi gweithio ar y broblem hon ers dros ddau ddegawd, gan gasglu data o anifeiliaid sydd wedi'u golchi ar draethau, treialu datrysiadau gyda physgotwyr, a lobïo am gamau gweithredu i atal y marwolaethau diangen hyn. Ac eto, er gwaethaf y dystiolaeth o raddfa hyn, mae sgil-ddalfeydd yn parhau i fod yn broblem barhaus nad yw Llywodraethau olynol wedi mynd i'r afael â hi.

I lawer yn y diwydiant pysgota, mae'n ganlyniad gofidus a dieisiau, ac mae angen cefnogaeth ar bysgotwyr i roi datrysiadau yn eu lle.

Er mwyn gwyrdroi'r dirywiad pryderus mewn bywyd gwyllt morol ac atal y marwolaethau hyn y mae posib eu hosgoi, mae angen gweithredu a buddsoddiad ar frys gan y Llywodraeth. Mae modd amddiffyn bywyd y môr drwy arloesi a monitro.
 

Y newyddion da yw bod datrysiadau’n bodoli

Ym Mae Filey, mae newidiadau syml i offer pysgota wedi lleihau marwolaethau adar môr o tua 700 y flwyddyn i ddim ond llond llaw. Mae treialon yn yr Alban hefyd yn dangos sut gall addasiadau bach, fel suddo rhaffau, atal morfilod rhag cael eu dal ynddynt. Yn y cyfamser, yng Nghernyw, mae pysgotwyr wedi treialu dyfeisiau atal acwstig, o’r enw ‘pingers’, sy'n lleihau'r risg o sgil-ddalfa llamhidyddion mewn rhwydi o fwy nag 80%, ond eto ni allant gael trwyddedau i'w rhoi ar eu rhwydi. O ganlyniad, mae mwy o anifeiliaid yn marw bob blwyddyn tra rydyn ni’n aros i'r Llywodraeth weithredu.
 

Rhaid i Lywodraeth y DU roi'r datrysiadau hyn ar waith nawr

Rhaid cynyddu’r datrysiadau hyn a'u gweithredu'n ehangach, nawr. Mae Cynlluniau Gweithredu Lliniaru Sgil-Ddalfeydd sy'n gyfreithiol rwymol a monitro gwell ar draws y fflyd bysgota’n hanfodol i atal y marwolaethau hyn y mae posib eu hosgoi.

Bydd digwyddiad seneddol pwysig heddiw (10fed Mehefin) gyda Wildlife & Countryside Link yn helpu ASau i ddysgu mwy am sgil-ddalfeydd ac yn galw arnynt i weithredu. Diolch i’r miloedd ohonoch chi sydd wedi codi'r digwyddiad hwn gyda'ch ASau - mae mwy nag 85% o ASau San Steffan wedi derbyn eich gwahoddiadau personol. Gobeithio y gwelwn ni lawer ohonyn nhw yn y digwyddiad, i drafod yr argyfwng hwn, a'r datrysiadau, gyda nhw.

Mae'r moroedd eisoes dan bwysau oherwydd newid hinsawdd, llygredd a cholli cynefinoedd, ac mae llawer o'n rhywogaethau morol hoff yn parhau i ddirywio. Ni ddylai sgil-ddalfeydd barhau i ychwanegu at y coctel hwn o fygythiadau.

Gall y camau cywir nawr droi'r llanw.